English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol - Llŷn

Themâu Hanesyddol

Amaethyddiaeth Gynhanes ac Archaeoleg Greiriol

Amaethwyr oedd y cymunedau sefydlog cynharaf ym Mhenrhyn Llyn, yn y pumed mileniwm CC. Roeddent yn byw bywydau sefydlog, yn hytrach na chrwydrol, yn bugeilio ac yn corlannu anifeiliaid, yn torri a throi’r dywarchen, yn hau eu hadau ac yn cynaeafu eu cnydau yn yr hydref. Mae cyfrinion cylch y tymhorau a chonsyrn am ffrwythlondeb y pridd fel pe baent yn treiddio drwy eu henebion crefyddol, defodol ac angladdol, sy’n adlais mor drawiadol o’r gorffennol yn y dirwedd. Er hyn, prin yw’r dystiolaeth o anheddu, ac o ddylanwad amaethyddiaeth ar y dirwedd Neolithig hon. Gallai’r beddrodau siambr megalithig sydd wedi goroesi, neu’r traddodiad bod rhai’n bodoli ar un adeg, fod yn arwydd o boblogaeth ddwys mewn rhai ardaloedd yn ystod y cyfnod hwn, ond mae’r dystiolaeth mor wasgaredig fel na ellir dibynnu llawer arni i’r perwyl hwn. Ceir beddrod ar fferm y Gromlech, ger y Ffôr; un arall ym Mhont Pensarn ar y codiad tir y tu ôl i Bwllheli ac un arall ar bentir Mynydd Tir-y-cwmwd. Mae dau feddrod ar drwyn Cilan, i’r de o Lanengan, a dau feddrod arall ar ochr ddwyreiniol Mynydd y Rhiw. Mae’r rhain i gyd wedi’u cofnodi ar ochr ddwyreiniol y penrhyn, ar dir uwch i ryw raddau. Cofnodwyd dau feddrod yn nes at arfordir y gorllewin, ger blaenddyfroedd afon Soch. Mae un ohonynt, sef Tregarnedd, wedi diflannu erbyn heddiw; mae’r llall, ar ochr ogleddol Mynydd Cefnamwlch, yn dirnod lleol.


Mynydd Cefnamwlch

Mae’r henebion sydd wedi goroesi o’r Oes Efydd Gynnar, tua diwedd y trydydd mileniwm a dechrau’r ail fileniwm, hefyd yn wasgaredig, ond maent yn fwy niferus. Mae’r henebion angladdol, a welir ar ffurf carneddau cerrig, crugiau pridd a ffosydd crwn, yn dangos rhyw gymaint o grynhoi ar dir uchel yr Eifl, yn enwedig ar gopaon y mynyddoedd hynny ac ar fynydd cyfagos Carnguwch. I’r de-orllewin, mae maen hir ar ochr dde-ddwyreiniol Moel Gwynus, 160m uwchlaw’r seilnod ordnans, ac ar y gweundir is ger blaenddyfroedd afon Erch, ac afon Rhyd-hir ymhellach i’r de-orllewin. Ceir meini hir yr ochr arall i’r afon ger eglwys Carnguwch, a dau faen, 170 m oddi wrth ei gilydd, yn Nhy Gwyn, i’r gogledd-ddwyrain o frigiad gweladwy Moel y Penmaen. Ceir meini hirion ger afon Erch, rhwng Pencaenewydd a’r Ffôr. Mae casgliad pwysig arall o garneddau ar Fynydd y Rhiw, yn agos at feini hirion a chistgladdiad rhwng Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig ac yrngladdiad ar lethrau gogleddol Mynydd y Rhiw.


Carnguwch

Ceir meini hirion yn Llangwnnadl, ym Maen Hir, Pen-y-groeslon, ac ym mynwent eglwys Sarn Mellteyrn. Cofnodwyd carnedd ag yrngladdiadau ar lethrau Foel Mellteyrn a datgloddiwyd clwstwr o saith ffos gron â beddau canolog a chrugiau wedi eu haredig ym Modnithoedd, ym mhen gorllewinol Botwnnog. Datguddiwyd y claddiadau olaf hyn gan ffosydd olion cnydau ac mae’n bosibl bod mwy o safleoedd tebyg yn agos at ei gilydd, ond eu bod wedi cael eu dileu o’r dirwedd o ganlyniad i weithgaredd amaethyddol diweddarach ar dir is.

Cofnodwyd yrngladdiadau, unwaith eto ar dir is, ym Mhen yr Orsedd, ym Morfa Nefyn, ynghyd â chrug crwn posibl gerllaw. Mae clwstwr o dri chrug o fewn 30m i’w gilydd 50m uwchlaw’r seilnod ordnans ger ty Cefn Mine, i’r de o Fodfel.

Mae carnedd a chist ag ochrau cerrig iddi ar y llwyfandir, 340m uwchlaw’r seilnod ordnans, ychydig yn is na chopa Carn Fadryn, ac mae carnedd bosibl yn is i lawr ac i’r de o gôn trawiadol Garn Saethon 165m uwchlaw’r seilnod ordnans.

Mae llociau aneddiadau, sy’n amrywio o ran cadernid eu hamddiffynfeydd, ac aneddiadau cylchoedd cytiau amgaeedig neu agored, yn arwyddion mwy pendant o ffermydd o’r cyfnod cynhanesyddol diweddarach yn nhirwedd Llyn. Er hyn, mae mwy ohonynt i’w gweld ar dir ymylol ac ar dir uchel, lle mae mwy o siawns i dystiolaeth oroesi. Yn hafau sych 1989, 1990 a 2006 cofnodwyd nifer o lociau newydd ar ffurf olion cnydau ac olion crasu. Nid oedd unrhyw olion eraill wedi goroesi uwchben y ddaear gan fod canrifoedd o aredig wedi dileu’r dystiolaeth.

Ychydig o waith cloddio sydd wedi’i wneud yn yr aneddiadau hyn, ac ychydig iawn o dystiolaeth o’r gyfundrefn ffermio sydd wedi dod i’r amlwg. Un eithriad pwysig yw’r lloc consentrig ffos ddwbl sydd ar bentir bychan uwchben afon Soch yn Sarn Mellteyrn. Mae’r anheddiad yn rhychwantu diwedd yr ail fileniwm CC a dechrau’r mileniwm cyntaf CC. Mae tystiolaeth paill yn awgrymu amgylchedd glaswelltir agored â gwenith a haidd yn cael ei dyfu yn y cyffiniau.

Mae’r casgliad dwysaf o ffermydd bychain sydd wedi goroesi o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar ac o ganrifoedd cynnar y Rhufeiniaid, i’w weld ar lethrau’r mynyddoedd ithfaen sy’n ymestyn o’r Eifl yn y gogledd i Garn Boduan yn y de-orllewin. Ceir grwpiau cnewyllol a chytiau crwn unigol ar y llethrau sy’n wynebu’r môr yng Ngallt Bwlch a rhwng Llithfaen a Phistyll. Mae cytiau unigol gwasgaredig a grwp amgaeedig cnewyllol heb fod yn bell, ar lethrau sy’n wynebu’r de-ddwyrain islaw fferm y Bwlch yn yr un ardal, tua 200m uwchlaw’r seilnod ordnans. Mae’r aneddiadau hyn ar dir a oedd yn ddigon isel i’w ffermio, ond a oedd hefyd mewn man cyfleus i allu pori’r ucheldir yn yr haf.

Mae pedwar anheddiad ar ddeg ar y llethrau deheuol a de-ddwyreiniol, i’r de o Lithfaen a Phistyll, tua 150m uwchlaw’r seilnod ordnans, fwy neu lai, yn dilyn y gyfuchlin o Foel Gwynus i Foel Ty Gwyn, Cerniog, Mynydd Nefyn a llethrau isaf Garn Boduan ac yn edrych dros dir gwastad Boduan ac afon Rhyd-hir. Mae deg o’r aneddiadau hyn yn gnewyllol ac amgaeedig a gallwn fod yn sicr mai olion ffermydd bychain sefydledig o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar a’r cyfnod Brythonig-Rufeinig yw’r rhain. Mae’r ffermydd bychain hyn mewn sefyllfa dda i allu manteisio ar drawstoriad o dirwedd amrywiol sy’n cynnwys amaethu âr a magu stoc, ac yn y cyd-destun hwn, dylid ystyried llethrau uchel anhydrin y mewnwthiadau igneaidd fel adnodd yn hytrach na rhwystr.

Mae dwy amddiffynfa fawr iawn â waliau cerrig i’w gweld yn yr ardal hon, ac mae’r ddwy’n cyfoesi’n fras â’i gilydd. Yn y pen gogleddol, saif Tre’r Ceiri ar gopa mwyaf dwyreiniol yr Eifl, 480m uwchlaw’r seilnod ordnans. Yn y pen deheuol, mae Garn Boduan yn codi uwchben Nefyn a’r gwastadedd arfordirol i 270m uwchlaw’r seilnod ordnans. Mae gan y ddwy fryngaer amddiffynfeydd helaeth a chadarn a gwelir tystiolaeth amlwg o anheddiad cylch cytiau o fewn eu rhagfuriau. Yn Nhre’r Ceiri mae dilyniant cronolegol i’w weld lle mae tai crwn mawr â waliau cerrig wedi cael eu disodli gan unedau llai wedi eu rhannu’n gydrannau. Ceir tystiolaeth hefyd bod gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio wedi’i wneud i ran o’r rhagfur yn ystod yr ail ganrif OC. Gellid dadlau bod y caerau hyn, ar dir uchel, yn gysylltiedig â rheoli stoc a phori yn ystod yr haf, yn enwedig oherwydd y perygl y gallai gwartheg gael eu dwyn yn ystod misoedd yr haf, a chan fod y tiroedd uchel hyn, yn ôl cofnodion hanesyddol, yn cael eu defnyddio fel tir pori yn ystod y canrifoedd diweddarach.


Tre'r Ceiri

Mae’n bosibl bod cyd-destun tebyg yn ardal Carn Fadryn, Garn Bach a Garn Saethon, sy’n 370m, 280m a 220m yn y drefn honno. Ar Garn Fadryn ceir llwyfandir helaeth, ar uchder o 340m, sy’n cael ei amddiffyn gan ragfuriau cerrig. Mae cylchoedd cytiau unigol, gwasgaredig ar lethrau isaf Carn Fadryn ac yn y cyfrwy rhyngddi hi a Garn Bach. Ceir grwp gwasgaredig arall ar lethrau de-ddwyreiniol Garn Bach. Mae cylchoedd cytiau cnewyllol, amgaeedig ac agored yn ffurfio ffermydd ar y tir gwastatach sy’n edrych dros ochr orllewinol ceunant Nanhoron.


Carn Fadryn

Ceir llociau amddiffynnol ym mhen gogleddol Mynydd y Rhiw, ar doriad yn y llethr ar ochr dde-ddwyreiniol yr hobgefn ac, wrth i’r tir godi eto, ceir trydedd fryngaer, Creigiau Gwinau, ar fewnwthiad basalt ar gopa Mynydd y Graig. Mae nifer o lociau aneddiadau crwn a grwpiau o gylchoedd cytiau cnewyllol ar y llethrau de-orllewinol a de-ddwyreiniol uwchlaw’r cyfrwy rhwng pen deheuol Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig a stribed o gylchoedd cytiau unigol a gwasgaredig ar lethrau de-ddwyreiniol serth Mynydd y Graig, yn edrych allan dros Borth Neigwl a Bae Ceredigion. Roedd Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig yn ucheldir pori yn ystod y canrifoedd diweddarach, ac ni fyddai’n afresymol awgrymu bod anheddiad o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar yn gwerthfawrogi’r dirwedd honno am yr un rheswm.

Bryngaer ddeuglawdd gymharol fechan, ar fryn llyfngrwn isel, ond amlwg yn lleol er hynny, sy’n codi o lwyfandir Aberdaron, 146m uwchlaw’r seilnod ordnans, yw Castell Odo. Cafodd yr amddiffynfeydd eu had-drefnu a’u hadnewyddu droeon. Mae ei leoliad yn awgrymu mai ei brif swyddogaeth o bosibl oedd bod yn ganolbwynt arglwyddiaeth a rheolaeth leol neu ranbarthol. Er yr ystyriaethau gwleidyddol strategol, mae’r gaer wedi’i lleoli rhwng tir amaethyddol ffrwythlon y gwastadedd a gweundiroedd gwlyb helaeth Rhoshirwaun, a oedd yn cael eu defnyddio, yn yr oesoedd cynnar, i ddibenion pori a chasglu tanwydd, ond fawr ddim arall.

Yng nghyrion de-orllewinol penrhyn Llyn ceir cylchoedd cytiau unigol a gwasgaredig ar dir creigiog uchel Mynydd Anelog, Mynydd Mawr, Mynydd Bychestyn a Phen y Cil sy’n ffinio ar lwyfandir amaethyddol Uwchmynydd. Canrifoedd o amaethu âr dros arwynebedd eang yw’r rheswm yn ddi-os am y diffyg tystiolaeth yn nhiroedd amaeth Aberdaron.

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Llyn

Amaethyddiaeth o’r Canol Oesoedd hyd heddiw

Mae’r dirwedd a welir heddiw yn wahanol iawn i batrwm tirwedd amaethyddol y Canol Oesoedd. Ond er bod y systemau a’r blaenoriaethau amaethyddol wedi newid, mae’r dirwedd yn balimpsest, sy’n ein galluogi ni heddiw i ddysgu am y gorffennol. Mae system drethi’r drydedd ganrif ar ddeg a Chofnodion Swyddwyr y 14eg ganrif yn rhoi cipolwg inni ar y cnydau, y da byw a’r prosesau a ddefnyddid. Mae’r mesurau tir Lladin, bufedd a charwgad, yn ymwneud â thir âr, ac yn cyfeirio at ych ac erydr, ac mae’r termau Cymraeg, ‘llain’ (‘lleiniau’) a ‘talar’, a welir mor aml mewn enwau caeau hyd heddiw, yn adlewyrchu bodolaeth y gerddi âr niferus a’r talarau lle’r oedd y gweddoedd aredig yn troi. Gallai tiroedd âr fod yn helaeth, ac roeddent yn agored. Roedd yr aredig yn cael ei wneud gan wedd o ych yn tynnu’r aradr, gyrrwr y wedd a bachgen yn cerdded wysg ei gefn gan alw’r wedd. Roedd nifer yr ych yn dibynnu ar adnoddau’r gymuned a fyddai’n crynhoi ei hasedau. Rhennid y gwaith o aredig, ond roedd y lleiniau neu erddi hir, main, ar dro yn cael eu diffinio’n ofalus, ac roeddent yn eiddo i unigolion. Yn anaml y byddai lleiniau’r un tenant wedi’u lleoli ochr yn ochr, ac roedd natur wasgaredig y gerddi’n sicrhau bod tir da a thir heb fod cystal yn cael ei ddosbarthu’n rhesymol. Mae’r lleiniau ar dro, ar ffurf S o chwith, er mwyn i’r wedd o ych a oedd yn llusgo’r aradr allu troi ar y dalar a mynd yn ôl i lawr y gwys nesaf.



Carn Fadryn

Y cnydau a oedd yn cael eu hau a’u cynaeafu oedd gwenith, ceirch a rhywfaint o haidd. Tyfid ychydig o ryg hefyd, ynghyd â phys. Roedd gerddi’n ategu’r ddiet. Gwneid brag o rawn ac ymddengys bod bragu’n arferiad cymharol gyffredin. Roedd gan bob cymuned felin. Roedd yn ofynnol i denantiaid taeogdrefi, yn ddieithriad, falu eu grawn ym melinau’r Goron. Y melinau hyn oedd melinau Ceirch, Hirdref, Boduan, Nefyn a Gwynus yng nghwmwd Dinllaen, melinau Gwerthyr, Ceirch, Deneio a Llannor yng nghwmwd Afloegion, a melinau Neigwl, Crugeran a Thywyn yng nghwmwd Cymydmaen. Melinau dwr oedd y rhain i gyd. Roedd gan rydd-ddeiliaid yn aml eu melin eu hunain, neu gyfranddaliadau mewn melin, ond mewn rhai amgylchiadau, roeddent hwythau hefyd yn malu ym melin y Goron. Defnyddiwyd lleoliad llawer o felinau’r Canol Oesoedd yn ddi-dor tan y 19eg ganrif, er iddynt gael eu hailadeiladu a’u hadnewyddu droeon. Roedd melinau’r rhydd-ddeiliaid yn Llannor, Pistyll, Trefgoed, Madryn a Mochras yng nghwmwd Dinllaen; yn Abersoch (Melin Isa a Melin Ucha), Castellmarch, Bodfel a Llangian yng nghwmwd Afloegion ac yn y Rhiw, Bodwrdda a Bodrhydd yng nghwmwd Cymydmaen. Roedd nifer o felinau wedi’u henwi ar ôl teuluoedd, ac ni allwn fod yn sicr ynghylch eu lleoliad. Un o’r rhain oedd Melin Wyrion Gorid. Roedd melin hefyd ar ystâd Esgob Bangor yn Edern.

O ran trefgorddau Afloegion, gallai pob teulu ar gyfartaledd yn rhan ganol dde-ddwyreiniol Llyn gynhyrchu bron i 3 crynog o flawd (11.5 bwysel) a hanner crynog (2 fwysel) o rawn. Roedd pob teulu, ac eithrio’r tlodion, yn berchen ar un neu ddau o wartheg eidion a phedair buwch, ar gyfartaledd. Gallai penteulu fod yn berchen ar geffyl ac anifail gwedd ychwanegol. Yn ymarferol, fodd bynnag, roedd rhai teuluoedd yn well eu byd nag eraill. Roedd Angharad ferch Adda a’i mab, yn nhrefgordd Bodfel, yn berchen ar 42 o wartheg eidion a 48 buwch, 6 ceffyl a 12 anifail gwedd, a gallai ei fferm gynhyrchu 82 bwysel o flawd wedi ei falu a 24 bwysel o rawn. Eithriad fodd bynnag oedd cyfoeth a chynhyrchiant ar y raddfa hon. Megid defaid hefyd, mewn niferoedd cymharol fach, ac eithrio rhai ardaloedd lle’r oedd gan David Fychan, ym Marchros, ac Iorwerth Du ym Mryn Celyn, y naill a’r llall ar drwyn Cilan, 20 dafad yr un. Roedd gan Gwyn ap Rhirid, ym Machellaeth hefyd 20 dafad, ond nid oedd neb arall yn cadw cynifer.

Roedd gwartheg yn bwysig er mwyn cael cig a hefyd er mwyn cael cynnyrch llaeth. Yng nghyd-destun gweinyddiaeth frenhinol Oes y Tywysogion, mae arwyddocâd cynhyrchu da byw i’w weld yn y broses o sefydlu’r hyn a oedd yn y bôn yn ranshis gwartheg, wedi’u lleoli mewn ardaloedd a oedd yn caniatáu mynediad i ucheldiroedd pori heb eu trin, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, pan fyddai cnydau’n aeddfedu yn y caeau âr agored. Yng nghwmwd Dinllaen, er enghraifft, gwyddys bod beudai neu Hafodydd yn Gwynus, Rhoswyniasa, Bleiddiog a Chastellmawr, i’r de-ddwyrain o Bistyll rhwng Llithfaen a Cherniog.

Mewn ardaloedd arfordirol, roedd pysgota’n ychwanegiad tymhorol pwysig iawn i ddiet pobl. Ym Mryn Celyn ar drwyn Cilan, ym 1293, roedd gan Iorwerth Du gwch â rhwydi. Ym Mhwllheli, roedd gan naw o’r un ar hugain o denantiaid, a oedd â digon o gyfoeth symudol i gael eu trethu, rwydi; roedd gan Madoc ap Einion saith. Yn Nefyn, roedd gan 42 o’r 93 tenant offer pysgota, a chyda’i gilydd, roedd ganddynt bedwar cwch a 64 o rwydi.



Uwchmynydd

Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg rhoddwyd llawer o dir y Goron ar brydles i unigolion preifat. Doedd dim byd yn newydd yn hun ynddo’i hun, ond tua’r un adeg, roedd tir rhydd-ddaliadol yn cael ei drosglwyddo, a daeth y caffaeliadau hyn yn sail i ystadau cyfunedig. Dechreuwyd cau lleiniau o dir i greu caeau ac amgaefeydd afreolaidd o’r gerddi âr a arferai fod yn dir agored. Parhaodd y broses am gyfnod ac, mewn rhai lleoliadau, parhaodd yr arfer o gael ardaloedd o leiniau agored a oedd yn perthyn i nifer o denantiaid gwahanol tan ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Er hyn, dynodwyd amlinellau digon o erddi âr creiriol â chloddiau iddynt allu goroesi hyd heddiw. Mae enghreifftiau arbennig o dda i’w gweld yn Uwchmynydd, Aberdaron, Nefyn a Morfa Nefyn ac ar drwyn Cilan.

Daliodd yr ystadau mawr ar benrhyn Llyn i gynyddu eu daliadau yn ystod yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif. Erbyn diwedd yr 17eg ganrif roedd Ystâd y Faenol, i’r de o Fangor, wedi prynu llawer o dir ym mhlwyfi Llangian, Llanengan a thrwyn Cilan, ac roedd yn rheoli Castellmarch. Roedd teulu Griffiths Cefnamwlch yn ehangu i gyfeiriad Nyffryn, Cefnleisiog a’r gwastadedd arfordirol. Roedd gan deulu Edwards Nanhoron dir ac eiddo ym mhob un bron o blwyfi Llyn, a phrynodd ystâd bwysig Bodwrdda yn Aberdaron ym 1748. Tua diwedd y 18fed ganrif unwyd ystâd Madryn â Wern Fawr ar gyrion y Gors Geirch a Rhydolion ar wastadedd Neigwl. Roedd ystâd Bodfel ac ystâd gysylltiedig gyfagos Boduan yn bwysig yn yr 16eg ganrif, yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif nes i ystâd Boduan gael ei throsglwyddo, drwy briodas, i gylch dylanwad Glynllifon a theulu Newborough.

Yn ôl Hyde Hall, ym 1810, pe bai tenantiaeth wedi mynd yn wag genhedlaeth ynghynt, byddai wedi bod yn bwysau mawr ar ysgwyddau tirfeddiannwr. Yn hinsawdd 1810, roedd y datblygiadau a oedd wedi’u gwneud yn y cyfamser yn gymhelliant mawr i dderbyn tenantiaeth. Roedd yr awydd i wella yn amlwg iawn yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Roedd tirfeddianwyr yn buddsoddi eu harian yn eu ffermydd, ‘in preference to the noble hazard of faro or the too alluring chance of the turf!’ (Hyde Hall, 1810, gol E.G. Jones 1952, 293; Walter Davies, 1810, 94). Ffurfiwyd cymdeithasau amaethyddol i hyrwyddo gwell arferion. Ffurfiwyd Cymdeithas Sir Gaernarfon ym 1808. Yn y Rhiw, cafodd un o denantiaid Syr Robert Vaughan gymhorthdal gan y Gymdeithas Amaethyddol am bwyntio mur ar gyfer lloc gwartheg yr oedd newydd ei adeiladu. Roedd llawer o ystyriaethau gwyddonol yn cael eu trafod, yn ymwneud â bridio da byw; priodoldeb mathau penodol o erydr, y Lomax cyfarwydd neu’r aradr ‘Scotch’ newydd, ac roedd gan bob gyrrwr gwedd ei ffefryn; a rhagoriaethau gwedd o ych neu wedd o geffylau wedi eu harneisio, ynghyd â chymariaethau ariannol. Roedd cylchdroi cnydau’n bwnc trafod. Awgrymodd Walter Davies gylchdro pedair blynedd ar gyfer Llyn a oedd yn cynnwys gwenith ar fraenar, neu wyndwn meillion, wedi cael calch yn ystod y flwyddyn gyntaf; maip neu gnydau gwyrdd eraill, wedi’u gwrteithio â thail neu gompost yn yr ail flwyddyn; haidd yn y drydedd flwyddyn a meillion â meillion gwynion a hadau glaswellt yn cael eu hychwanegu yn y bedwaredd flwyddyn (Davies, 1810, 163).

Mae llythyr drafft, o Gefnamwlch, wedi’i ysgrifennu ar dudalennau llyfr rhent ym 1776 yn rhoi cipolwg i ni ar waith arferol ar y fferm o ddydd i ddydd yn ystod y cyfnod hwn:
Hon. Sir, … since you left … weeding or cleaning potatoes, turning the dunghill in Cae’r Gwindy, mucking Cae’r Lloia all over and almost ploughing it. Ploughed and harrowed Cae’r Ychain and Cae’r Coed and planted it over with cabbage … opening the water course. Heavy rain so obliged to take such work as clean the sheep pens and courts at Cae’r Rhyd Ddu.

… barley has been sown since last week, likewise potatoes put down two or three days ago. They are ploughing Cae’r Ychain for turnips and carrying the stuff which was taken out of the drains in Gors Las.

… 42 hobets of oats sowed between Cae’r Pant, Cae’r Gongl, Ffridd Wen and Cae’r Gate Wen … by this time we thought the horses were much abused … thought it easier for them to muck for potatoes and drawing stones to make a wall by Llyn Pen y Mount, then they began to plough Barley at Cae’r Goetan and Ffriddwen which will be completed tonight.

… Droughty and hoar frost weather which we have had for a long time but now these three or four days passed it is fine warm growing weather (Papurau Cefnamwlch 307, Archifdy Gwynedd).

Mae llyfrau rhent daliadau ystâd y Faenol ym mhlwyfi Llanengan a Llangian yn rhoi rhyw syniad inni pa gnydau oedd yn cael eu cynaeafu yn y 1820au. Mae Tyddyn Talgoch ar drwyn Cilan yn cofnodi: ceirch, haidd, gwair a dôl; porfa, tatws a braenar; ceirch; gwair, haidd a phorfa. Mae Llawr y Dref ar wastadedd Neigwl yn cofnodi: gwenith, dôl, haidd, gwair, porfa a thatws. Mae Deuglawdd nid nepell yn cofnodi: haidd, gwenith, porfa, porfa, dôl, ceirch a thatws. Mae gwartheg wedi bod yn bwysig ym mhenrhyn Llyn erioed. Prif gynnyrch Llyn yn ôl Pennant, yn y 1770au, oedd ceirch, haidd a gwartheg duon, ac yn ôl Pennant, ‘above three thousand are annually sold out of these parts’ (Pennant 1773, gol. J. Rhys, 1883, cyf. 2, 374-5). Roedd y gwartheg dan sylw’n cael eu gyrru gan borthmyn i’w pesgi ar dir pori yn Lloegr cyn eu gwerthu ym marchnadoedd Llundain a Chanolbarth Lloegr. Mae gefeiliau ochr ffordd ar lwybrau’r porthmyn ac mewn safleoedd casglu’n atgof parhaus o’r fasnach.

Er bod llawer o welliannau wedi eu gwneud, roedd lle i feirniadaeth o hyd. Nododd Walter Davies restr fer o’r rhwystrau a oedd yn atal amaethu effeithlon ar ddechrau’r 19eg ganrif, ac ysgogodd taith Hyde Hall o amgylch Sir Gaernarfon ef i wneud sylwadau am rai diffygion. Yn ei eiriau ef: ‘of the agriculture here [yn Nefyn] no favourable account can be given, if a traveller judges from the slovenly management of the fields, the ragged lines of earth which … pass for fences [cyfeiriad at erddi anwahanedig yr hen feysydd agored]. There is wanting, too, all the shelter which trees afford, and the bareness … in this respect that the very first improvement called for seems to be that of plantations’. Cyfeiriodd hefyd at Dudweiliog fel ‘a flat and woodless tract’, a’i eiriau wrth gyfeirio at Lanfihangel Bachellaeth oedd, ‘the forlornness of its exposure, not a single tree’. Yr unig beth a oedd yn gwneud iawn am y diffyg gorchudd coed bryd hynny, mewn nifer o blwyfi, oedd planhigfeydd a gerddi tai’r bonedd.



Ty gyda waliau o fwd, arfordir gorllewin

Roedd Davies yn feirniadol o gyflwr llawer o’r bythynnod yr oedd llafurwyr amaethyddol a thenantiaid ffermydd bychain yn byw ynddynt: ‘… a species of cottages which are truly the habitations of wretchedness; one smokey earth, for it should not be styled a kitchen; one damp litter-cell for it cannot be called a bed room’ (Davies 1810, 82). Gwelodd Hyde Hall nifer o fythynnod traddodiadol yn dal i gael eu hadeiladu â thoeau gwellt, a theimlai mai cam yn ôl oedd hyn. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud am y tai a oedd newydd gael eu hadeiladu yn Llanbedrog: ‘a hamlet called Pig Street … sixteen new houses have been erected since 1800, but as the number seems small, so the circumstances of thatch being generally used when the opportunities of conveying slate by sea are so convenient … bespeaks but little zeal or spirit of improvement about the place’. Mae ystyriaethau tebyg iawn yn berthnasol i’r dirwedd amaethyddol a byddant yn cael eu trafod yn fanylach yn yr adran ar adeiladau.


Fferm, de Llyn

Elfen arall a oedd yn atal ac yn llesteirio’r broses o ddatblygu dulliau ffermio effeithlon oedd cyflwr y ffyrdd a’r lonydd drwy Lyn. Oherwydd cyflwr y ffyrdd roedd yn anodd i gynnyrch ffermydd gyrraedd marchnadoedd pellennig ac i ddeunyddiau a chyfarpar gyrraedd y ffermydd. Yn ystod hanner cyntaf y 18fed ganrif awgrymir mai ychydig o ffyrdd oedd yn addas i unrhyw beth ar wahân i draffig lleol yn yr ardal gyfan. Ambell dymor yn ystod y flwyddyn, ac mewn tywydd garw, byddai’n rhaid dilyn ffyrdd eraill llawer pellach, er enghraifft, er mwyn croesi rhostir gwlyb Rhoshirwaun neu ddilyn llwybr yr arfordir i’r de o Bwllheli. Yn ystod y 19eg ganrif gwelwyd gwelliant syfrdanol mewn dulliau cyfathrebu tua’r tir.

Er gwaethaf y dirywiad amaethyddol, ar ôl i ryfeloedd Napoleon ddod i ben, yn ystod ail chwarter y 19eg ganrif, parhaodd holl blwyfi Llyn i aredig cannoedd ar gannoedd o aceri. Yn y 1840au roedd hanner cant y cant o’r holl arwynebedd tir yn dir âr. Yr un oedd y prif gnydau â’r rhai a dyfid 500 mlynedd a mwy yn gynharach, sef ceirch, haidd a gwenith, yn y drefn blaenoriaeth honno.

Roedd rhai ardaloedd yn naturiol yn fwy cynhyrchiol na’i gilydd. Roedd Llaniestyn, Penllech, Llandygwnning a phlwyf bach Botwnnog yn aredig saith deg y cant o’u tiroedd. Roedd Llanfaelrhys, Boduan a Mellteyrn yn aredig llai na deg ar hugain y cant o’u harwynebedd. Ym Moduan, parcdir a thir pori ar fynydd Garn Boduan oedd 1300 o 1850 acer y plwyf. Yn Llanfaelrhys, roedd 1500 acer o’r plwyf yn dir pori uchel, ar lethrau Mynydd y Rhiw a Phenarfynydd, ac mae’n debyg nad oedd blaenoriaethau taeogdref ganoloesol Penarfynydd wedi newid ers chwe chanrif.



Nanhoron

Yn ystod yr ugeinfed ganrif gwelwyd mwy o ddaliadau’n cael eu cyfuno a thenantiaethau unigol yn cael eu huno i greu un neu ddwy fferm fawr â llai o lafurwyr amaethyddol a mwy o ddibyniaeth ar beiriannau. Roedd caeau wedi cael eu helaethu yn ystod y 19eg ganrif drwy chwalu terfynau hynafol a chodi cloddiau, waliau a gwrychoedd syth yn eu lle. Parhaodd y broses hon yn yr ugeinfed ganrif, er mwyn gwneud lle i beiriannau, a gwelwyd symudiad tuag at fwy o fagu gwartheg a godro. Roedd hynny’n digwydd yn barod erbyn ail hanner y 19eg ganrif, pan ddechreuwyd pesgi’r gwartheg yn lleol yn hytrach na’u gyrru i diroedd pori yn Lloegr.

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Llyn

 

Trefniadaeth tirwedd weinyddol y Canol Oesoedd

Yn ystod y Canol Oesoedd cynnar y rhaniadau tiriogaethol yn Nheyrnas Gwynedd oedd y cantrefi. Roedd cantref yn ddynodiad hynafol iawn. Ni cheir cyfeiriad at israniad diweddarach y cantref, sef y cwmwd, tan y 12fed ganrif neu’r 13eg ganrif. Yn y Canol Oesoedd cynnar sail grym arglwyddiaethau tiriogaethol, rhydd-ddaliadol, breninlinol fyddai’r faenol, rhwydwaith o aneddiadau wedi’u cysylltu drwy garennydd, tir yn perthyn i dylwyth, ag eiddo wedi ei wasgaru’n eang iawn. Mae’n bosibl y byddai nifer o faenolau mewn un cantref, ac mae’n bosibl y byddai pob un, neu rai o leiaf, o benaethiaid etifeddol tylwyth estynedig o’r fath yn ystyried eu hunain o statws digon tebyg i’r brenin ei hun. Mae natur y berthynas hon, amser maith yn ôl, i’w gweld i raddau yn eiddo tiriog disgynyddion Cenythlin a Dwyrig yn y 14eg ganrif yn nhrefgorddau Carnguwch, Bodfel, Llangian, Cilan, Bryn Celyn ac Ystradgeirch, a’u pentrefannau. Yn ystod Oes y Tywysogion byddai’n arferol i aneddiadau cysylltiedig maenol ddiffinio ei ffiniau o fewn terfynau trefgordd. I’r gwrthwyneb, yn yr achos hwn, mae eiddo tiriog disgynyddion Cenythlin a Dwyrig yn ymestyn ar draws ffiniau trefgorddau a ffiniau cymydau, o Garnguwch yn y gogledd i Gilan yn y de, fel pe na bai’r ffiniau hynny erioed wedi bodoli. Fodd bynnag, mae’r gwahanol welyau hyn wedi’u cyfyngu i ochr ddwyreiniol Cantref Llyn, ac mae’n bosibl bod maenolau rhydd-ddaliadol tebyg eraill, wedi’u celu yn awr gan drefniadau deiliadol diweddarach, yn dal tiroedd tua gorllewin y penrhyn ar un adeg.

Mae’n debyg bod tirwedd weinyddol Gwynedd wedi’i thrawsnewid yn ystod y 12fed ganrif. Mae’n bosibl mai’r cyd-destun oedd y sefydlogrwydd a gafwyd yn ystod blynyddoedd diweddarach teyrnasiad Gruffudd ap Cynan ac ehangiaeth Owain Gwynedd. Rhannwyd yr hen gantrefi’n gymydau ledled y Deyrnas - dau neu dri chwmwd ym mhob cantref. Roedd cantref Llyn wedi’i rannu’n dri chwmwd. Roedd cwmwd Dinllaen yn rhan ogleddol y cantref, cwmwd Afloegion yn y de-ddwyrain a chwmwd Cymydmaen yn y de-orllewin. Sefydlwyd maerdref frenhinol ym mhob un o’r tri chwmwd.

Trefgordd frenhinol oedd maerdref, yn cael ei rhedeg ar sail y cysyniad o faenor, ac yn cynnwys tir demên a llys, neu blasty, a phentrefan neu bentrefannau o denantiaid caeth. Roedd y llys yn darparu annedd i’r tywysog pan fyddai’n ymweld â rhan arbennig o’r deyrnas. Y faerdref hefyd oedd canolbwynt gweinyddol y cwmwd. Byddai rhenti a thollau, a oedd yn ddyledus gan denantiaid y tywysog yn y cwmwd, yn cael eu talu yn y faerdref. Gallai’r rhenti a’r tollau fod yn waith cario ac atgyweirio, yn fwyd neu’n daliadau ariannol.

Yn Nefyn yr oedd maerdref Dinllaen. Roedd maerdref Afloegion yn Neneio (Pwllheli) ac roedd maerdref Cymydmaen yn Neigwl.



Nefyn, hen ganol

Roedd gan y tywysog hefyd lawer o diroedd pori ym mhob cwmwd. Mae’n debyg bod yr hafodydd neu’r ffriddoedd hyn yn gweithredu’n debycach i ranshis gwartheg na thiroedd pori yn ystod yr haf. Yng nghwmwd Dinllaen roedd yr hafodydd ar lethrau Gwynus, i’r de o’r Eifl, ac o amgylch y llethrau hynny. Yng Nghymydmaen, mae’n bosibl y byddai trefgordd Penarfynydd wedi cyflawni’r swyddogaeth honno.

Byddai tenantiaid caeth i’r tywysog yn nhirwedd ehangach y cwmwd, yn gweithio ar eu tyddynnod eu hunain, ynghyd â rhydd-ddeiliaid a oedd hefyd, yn gyffredinol, yn talu tollau. Roedd gan Esgob Bangor hefyd denantiaid rhydd a chaeth, ac roedd tir demên a maenordy’r Esgob yng nghantref Llyn, yn Edern.

Ar ôl i Wynedd gael ei gorchfygu ym 1283 newidiodd rhai pethau, ac arhosodd pethau eraill fel ag yr oeddent. Newid landlord oedd y newid i lawer. Gorfodwyd gweinyddiaeth newydd, â’i phencadlys yng Nghaernarfon, a sefydlwyd siryf ym mhob un o’r tair sir newydd. Roedd Llyn yn rhan o Sir Gaernarfon. Er hynny, cadwyd y cwmwd fel uned ranbarthol yn y sir a pharhaodd rôl dau swyddog cymydol pwysig dan y tywysogion, yn enwedig yn achos y Rhingyll (Carr, 1982, 59-60).

Daeth cyn diroedd caeth a demên y Tywysog i law Coron Lloegr a chafodd llawer o wyr a oedd wedi ennill ffafr y Goron a deisyfwyr eiddo’r Goron y tiroedd hyn ar brydles ffi fferm. Cafodd yr hafodydd brenhinol hefyd eu prydlesu ar wahân i’w trefgorddau cysylltiedig. Roedd Nefyn a Phwllheli wedi dod yn fwrdeistrefi cyn y goncwest er mwyn hybu eu buddiannau masnachol ac, yng nghanol y 14eg ganrif, rhoddwyd statws bwrdeistref rydd i’r naill a’r llall.

Yn ystod y 14eg ganrif a’r 15fed ganrif roedd rhydd-ddeiliaid yn meddwl am ffyrdd o gael gafael ar fwy o dir yn y farchnad eiddo heb dorri’r gyfraith Gymreig a oedd yn ymwneud â throsglwyddo tir a etifeddwyd ac, yr un pryd, yn ceisio cael tir caeth ar brydles.

Cynyddodd y cyfleoedd yn y 1530au ar ôl diddymu tai crefyddol. Er enghraifft, rhoddwyd Ynys Enlli’n rhodd i John Wyn ap Hugh o Fodfel ym 1553.

Yn ystod yr 16eg ganrif, wrth i leiniau o dir gael eu caffael drwy bryniant a dulliau eraill o drosglwyddo, gwelwyd dechrau’r broses o gau grwpiau o erddi unigol o fewn cloddiau, a’r broses o gyfuno daliadau a fyddai, maes o law, yn creu’r dirwedd caeau sy’n rhan gyfarwydd o’r dirwedd bresennol.

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Llyn

 

Twf y bonedd

Credai’r Athro Jones Pierce fod ystadau’r bonedd wedi datblygu o bedwar categori o dirddaliadau rhydd, sef: tir wedi’i etifeddu gan gyndeidiau drwy enedigaeth-fraint, tir wedi’i roi yn wobr am wasanaeth, tir wedi’i gaffael drwy bryniant o ryw fath ac ystadau wedi’u creu gan newydd-ddyfodiaid. Mae’r categorïau hyn wrth gwrs yn cydgyffwrdd mewn sawl achos. Yn Llyn, gwelir bod y tirfeddianwyr eithriadol o fawr hynny sy’n tra-arglwyddiaethu yn nhirwedd yr 17eg ganrif i’r 19eg ganrif wedi datblygu o ganlyniad i’r cyfleoedd i gael prydles ar diroedd y Goron a thrwy ddyfeisio mecanweithiau cyfnewid a phrynu, a ddaeth yn rhwyddach ar ôl 1536, a chynllunio priodasau’n ofalus.

Y prif deuluoedd a’u hystadau yn yr 16eg ganrif oedd teuluoedd Bodfel, Castellmarch, Bodwrdda, Griffiths Cefnamwlch, Madryn a Llwyndyrys. Daw enw John Bodfel i’r amlwg yn ystod teyrnasiad Harri’r VIII pan gyfeiria Leland at John fab Madoc a oedd yn byw yn Llyn - ‘dwellith yn Lleene’ - ym Modfel, un o’r ychydig dai yn Sir Gaernarfon i gael ei enwi yn ei restr. Enillodd wyr John, sef John Wyn ap Hugh gryn enwogrwydd iddo’i hun fel banerwr John Dudley, Iarll Warwick, yn Mousehold Hill, Norwich, ym 1549. Bu Gruffydd ap John o Gastellmarch hefyd yn gwasanaethu dan Iarll Warwick ac ef oedd cwnstabl Castell Conwy ym 1549. Fel cydnabyddiaeth o’i wasanaeth rhoddwyd Ynys Enlli a Chwrt ar y tir mawr yn rhodd i John Bodfel.

Yn dilyn Deddf Uno 1536, daeth Ynadon Heddwch newydd ‘adnabyddus ac iddynt enw da’ i fod yn bennaf gyfrifol am gyfraith a threfn, ac roeddent yn sail i lywodraeth leol. Roedd yr ynadon hyn yn dod o blith y tirfeddianwyr mwyaf.

Yn ystod yr 16eg ganrif:

• Bodwrdda: Ynad Heddwch ddwywaith; Uchel Siryf unwaith
• Cefnamwlch: Ynad Heddwch deirgwaith
• Llwyndyrys: Ynad Heddwch deirgwaith; Uchel Siryf unwaith
• Madryn: Ynad Heddwch bum gwaith; Uchel Siryf unwaith
• Bodfel: Uchel Siryf bedair gwaith
• Castellmarch: Uchel Siryf unwaith


Uchel Siryf neu beidio, cyhuddwyd John Wynn ap Hugh Bodfel gerbron Llys Siambr y Seren o fod yn ‘ben capten môr-ladron Ynys Enlli’. Dywedid ei fod yn defnyddio’r ynys i storio ysbail a bod ganddo asiant yno. Dywedid bod y nwyddau’n cael eu cludo i Gaer i’w gwerthu mewn ffeiriau a marchnadoedd. Mab John, Hugh Gwyn, oedd y cyntaf i ddefnyddio Bodfel fel cyfenw, arferiad oedd yn dod yn gyffredin yn ystod y cyfnod hwn, a defnyddio enw lle sefydlog yn hytrach nag enw teuluol. Priododd Hugh ag aeres Pistyll, gan ddod â’r tiroedd hynny’n rhan o gylch dylanwad Bodfel. Fodd bynnag, collodd Hugh ffafr Robert Dudley, Iarll Caerlyr, oherwydd materion yn ymwneud â swydd Dudley fel Ceidwad Fforest Eryri a threuliodd rywfaint o amser yn y Twr, ynghyd â Thomas Madryn, a oedd yn Uchel Siryf ym 1586-7.

Yn ystod yr 17eg ganrif yr un teuluoedd i raddau helaeth oedd yn dal yn flaenllaw yn y dirwedd wleidyddol, gymdeithasol a thirfeddiannol, ond roedd cydbwysedd grym yn newid a thaflwyd y rhwyd ychydig yn ehangach. Cafodd y Rhyfel Cartref, tua chanol y ganrif, fwy o effaith ar rai ystadau na’i gilydd:

Yn ystod yr 17eg ganrif:

 

• Bodwrdda: Ynad Heddwch deirgwaith; Uchel Siryf deirgwaith
• Cefnamwlch: Ynad Heddwch deirgwaith; Uchel Siryf deirgwaith
• Castellmarch: Ynad Heddwch deirgwaith; Uchel Siryf ddwywaith
• Madryn: Ynad Heddwch unwaith; Uchel Siryf saith gwaith
• Bodfel: Ynad Heddwch deirgwaith; Uchel Siryf deirgwaith
• Elernion: Uchel Siryf deirgwaith
• Cefn Llanfair: Ynad Heddwch ddwywaith; Uchel Siryf ddwywaith
• Meillionydd: Uchel Siryf ddwywaith
• Nanhoron: Uchel Siryf unwaith
• Saethon: Uchel Siryf unwaith



Roedd brawd Hugh Gwyn Bodfel, sef Thomas Wynn, yn byw ym Moduan, heb fod yn bell i ffwrdd, ar dir y gyn daeogdref a thir demên y Tywysog cyn y goncwest. Roedd gor-wyr Hugh, sef John, yn cefnogi achos y Piwritaniaid yn y Senedd ar ddechrau’r rhyfel, ac roedd wedi priodi Ann Russell, merch Syr William Russell, a oedd yn hanu o deulu o Biwritaniaid pybyr. Erbyn 1843, fodd bynnag, roedd John Bodfel ar ochr y Brenhinwyr, ac erbyn diwedd y rhyfel roedd yn gyrnol. Arweiniodd y gwrthdaro rhwng daliadau yn nheulu Bodfel at ymddieithrio, a threfnodd Ann fod eu merch yn priodi Robert Robartes, Is-iarll Bodmin, ym 1657. Genhedlaeth yn ddiweddarach, tua diwedd yr 17eg ganrif, gwerthodd etifedd Plas Bodfel ei ystadau Cymreig.

Datblygodd cangen Boduan o’r teulu, fodd bynnag, bresenoldeb sylweddol yng nghysgod Garn Boduan ac yn nhref Nefyn. Tua 1700, priododd Thomas Wynn o Foduan, gor-or-or-orwyr John Wynn ap Hugh Bodfel, Frances, merch ac aeres John Glynne o Lynllifon. Wyr Frances, Syr Thomas Wynn, oedd y Barwn Newborough cyntaf (geni 1736, marw 1807) a throsglwyddwyd tiroedd Boduan i gylch dylanwad Glynllifon.

Ym 1625, gosododd Syr William Jones (a luniodd gyfenw iddo’i hun o enw teuluol ei dad, William ap Griffiths ap John), Prif Ustus Mainc y Brenin, garreg sylfaen ei blasty modern newydd yng Nghastellmarch. Roedd ei fab, Griffith Jones, yn cydymdeimlo â’r Brenhinwyr, ond ochrodd â’r Piwritaniaid yn y Rhyfel Cartref a thalodd y pris mewn ymosodiad beiddgar o’r môr gan y Capten John Bartlett, a ysbeiliodd y ty ac a herwgipiodd Griffith Jones mewn ymdrech i sicrhau rhyddid Syr John Owen yn sgîl yr ail ryfel (Dodd, 1968, 134).

Honnai teulu Cefnamwlch y gallent olrhain eu hachau dros nifer o genedlaethau, o Rhys ap Tewdwr yn yr 11eg ganrif, yr Arglwydd Rhys yn y 12fed ganrif a Madog a Thrahaearn Goch, Arglwyddi Cymydmaen yn y 13eg ganrif. Ceir cofnod o David Fychan yng Nghefnamwlch yn y 15fed ganrif, ac roedd ei wraig, Jonet, yn ferch Castellmarch. Cafwyd nifer o briodasau i greu cysylltiadau â theuluoedd eraill yr un mor uchel eu bri, gan gynnwys Clenennau, Mostyn a Baron Hill. Roedd John Griffith yn Uchel Siryf ym 1604 a llwyddodd ei fab, John, i herio uchafiaeth wleidyddol Wynniaid Gwydir. Bu farw John Griffith arall o Gefnamwlch ym 1794 a throsglwyddwyd y ty i’w gyfnither, Jane Wynne o'r Foelas, a’i gwr Charles Finch. Olynwyd eu mab, Charles Wynne Griffith-Wynne (1780-1865), gan Charles Wynne Finch a adeiladodd dy presennol y Foelas.

Ni lwyddodd llinach Madryn i oroesi’n hir iawn ar ôl y Rhyfel Cartref. Er hyn, roedd Thomas Madryn, un arall a oedd yn cydymdeimlo â’r Brenhinwyr ond a gymerodd ochr y Seneddwyr, yn cadw drylliau ynghudd yn ei gartref ar ôl i’r ymladd ddod i ben. Etifeddwyd yr ystâd gan ei ail fab a gwerthodd hi i’r cyfreithiwr, Owen Hughes o Fiwmares ar ddiwedd yr 17eg ganrif.

Nid oedd unrhyw amheuaeth ynghylch daliadau Geoffrey Parry Rhydolion. Roedd yn un o gyfoeswyr Thomas Madryn ac yn Biwritan selog. Priododd Parry â Margaret Hughes, a etifeddodd Gefn Llanfair a Wern Fawr, ar gyrion y Gors Geirch. Love-God Parry oedd enw eu mab a Love Parry oedd ei fab yntau. Priododd yr ail Love Parry â Sidney, gor-wyres Jane, chwaer Owen Hughes Biwmares, yng nghanol y 18fed ganrif. Etifeddodd Sidney, gan uno Madryn â thiroedd Love Parry yng Nghefn Llanfair, Wern Fawr a Rhydolion. Priododd eu merch ei chefnder, Thomas Parry Jones ym 1780. Ychwanegodd Thomas yr enw Parry at ei gyfenw ef i gydnabod teulu ei wraig a’r ystâd gyfunol. Cyflwynodd Thomas Parry Jones Parry nifer o welliannau a daeth â bywyd newydd i Fadryn ar droad y ganrif.

Hawliai teulu Nanhoron linach yr un mor hir. Mae cynghreiriau priodasol y llinach hon yn cynnwys priodasau â theuluoedd Glynllifon a Phennarth yn y 14eg ganrif a’r 15fed ganrif. Yn ystod diwedd y bymthegfed ganrif priododd Madog Fychan o Lwyndyrys, gor-or-wyr Gruffydd Llwyd o Dregarnedd, â Gwenllian, chwaer William ap Griffith, a ymladdodd gyda Harri Tudur ym mrwydr Bosworth, ac wyres Robin o Gochwillan. Priododd eu merch hwy i deulu Coetmor a chafodd eu mab hwy, Gruffydd, Nanhoron Ucha. Daeth Nanhoron Uchaf yn gnewyllyn yr ystâd. Etifeddodd eu mab, Thomas, Lwyndyrys a Nanhoron. Richard Edwards, a anwyd ym 1628, oedd y cyntaf o’r teulu i ddefnyddio’r math newydd o gyfenw, ar ôl ei dad, Edward ap Thomas. Roedd Richard Edwards yn Biwritan ac yn gyfreithiwr llwyddiannus iawn. Daeth Edwards dan amheuaeth yn ystod yr Adferiad ond roedd yn rhy ddefnyddiol i roi gormod o sylw i’r amheuon hynny.

Ym 1780 bu Capten Timothy Edwards farw wrth ddychwelyd o India’r Gorllewin, ar ôl bod yn ymladd yn llynges Rodney yn Rhyfel Annibyniaeth America. Priododd ei fab ag Annabella Lloyd o Hirdrefaig a Bronheulog a daeth Lloyd yn rhan o gyfenw’r teulu. Daeth trychineb arall i ran y teulu ym 1855 pan laddwyd Capten Richard Lloyd Edwards cyn Sebastopol yn Rhyfel y Crimea. Mae Pont Inkerman dros geunant Nanhoron a Ffordd Balaclava yn ein hatgoffa o’r cyd-destun.

Yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif roedd holl diroedd penrhyn Llyn yn cael eu dal gan bedwar prif landlord. Ym 1840 roedd yr ystadau hyn yn cynnwys ystâd Richard Lloyd Edwards yn Nanhoron, a oedd yn cynnwys 6500 o aceri, yn Aberdaron a Llangian yn bennaf, ond â chryn dipyn o dir yn y Rhiw, Llaniestyn, Llannor a Llangwnnadl a chwe phlwyf arall. Roedd Charles Wynne Griffith-Wynne o Gefnamwlch a’r Foelas yn dal 5500 o aceri yn Llyn, y rhan fwyaf yn Nhudweiliog, Penllech, Llaniestyn a Mellteyrn, y plwyfi o amgylch Cefnamwlch, a phlwyfi cyfagos Edern a Llandudwen. Roedd ystâd Syr Love Parry Jones Parry ym Madryn yn cynnwys 5000 o aceri ym mhlwyfi canol a de-ddwyrain y penrhyn, yn bennaf yn Llandudwen, Ceidio, Llanfihangel Bachellaeth, Llanbedrog a chwe phlwyf arall. Roedd ystâd yr Arglwydd Newborough yn Llyn, 7500 o aceri i gyd, yn cynnwys 2288 o aceri ym Moduan a daliadau sylweddol yn Abererch, Penllech, Bryncroes, Nefyn, Llannor ac wyth plwyf arall. Yn ychwanegol at hyn, roedd daliadau sylweddol yn Llyn hefyd gan ystâd y Faenol, dan ofal Thomas Assheton Smith, ystâd Penrhyn, dan ofal Douglas Pennant ac ystâd Mostyn, dan ofal Edward Lloyd.

Roedd yr effaith ar y dirwedd yn sylweddol, yn enwedig yn ystod diwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif pan oedd y tirfeddianwyr amaethyddol hyn yn cymell gwelliannau. Gallent reoli neu annog systemau cnydio, cyflwr adeiladau amaethyddol, maint caeau a chymeriad a chyflwr waliau a chloddiau, planhigfeydd ac atalwyr gwynt. Roedd cymeriad, arddull a chyfosodiad demenau’r ystâd yn eu dwylo hefyd. Roedd gan lawer o’r teuluoedd hyn gefndir hynafol. Yng Nghefnamwlch ar un adeg roedd neuadd llawr cyntaf ac ynddi ffenestr oriel, yn dyddio o’r 15fed ganrif neu’r 16eg ganrif. Ym Modwrdda, mae’n debyg mai’r nodwedd gynharaf sydd wedi goroesi yw cnewyllyn neuadd llawr cyntaf â chyplau trawstiau croes bwa cleddog sy’n dyddio o’r 16eg ganrif. Yn ystod degawdau cynnar yr 17eg ganrif, cafodd y tai hyn hyn eu haddasu a’u helaethu neu eu chwalu i wneud lle i arddull modern newydd y Dadeni. Adeiladwyd Bodwrdda o amgylch craidd y ty cynharach ar ffurf dau lawr ac atig, ag estyll brics anferth ar ongl sgwâr i’r prif dy, ac â ffenestri cymesur pyst cerrig, mowld ofolo. Adeiladwyd Castellmarch ym 1625-1628. Roedd gan y plasty hwn hefyd ffenestri cymesur â physt cerrig, mowld ofolo, a chyntedd clasurol â goruwchadail a phediment yn cael ei gynnal gan golofnau Dorig. Mae arfbeisiau i’w gweld ar y metopau a’r pediment. Darparwyd porthdy i Gefnamwlch ym 1607, yn wynebu’r hen dy, ac adeiladwyd cyfadeiladau, tua’r un pryd â’r porthdy, i gyfeiriad y de cyn i’r hen dy gael ei dynnu i lawr. Adeiladwyd ‘castell’ neo-Gothig yn lle’r ty ym Madryn ond goroesodd y porthdy fel atgof o adeilad uchelgeisiol arall o ddechrau’r 17eg ganrif. Aeth Bodfel gam ymhellach, gan greu porthdy croesffurf tri llawr ac atig, ag iddo fynedfa fwaog glasurol â cholofnau Dorig ar wahân o bobtu iddi gyda’r llawr cyntaf wedi’i amlinellu gan oruwchadail yn ‘dod yn ôl’ yn erbyn y ffasâd ar uchder abaci’r colofnau. Mae’n debyg bod y ffenestri presennol sy’n dyddio o’r 18fed/19eg ganrif wedi eu gosod yn lle agoriadau gwreiddiol â physt cerrig.
Ar lefel fwy lleol a phreifat creodd y gwaith adeiladu y cyfeirir ato ar ddemên yr ystadau a’u planhigfeydd a’u gerddi addurnol cysylltiedig rhyw gymeriad penodol yn y dirwedd amaethyddol ehangach.

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Llyn

 

Adeiladau Domestig

Yr adeiladau cynharaf sydd wedi goroesi yn nhirwedd Llyn yw cylchoedd cytiau o ddiwedd yr Oes Efydd a dechrau’r Oes Haearn. Nid ty fyddai pob un o’r cytiau hyn. Mae’n bosibl y byddai rhai ohonynt yn weithdai, ac eraill, efallai, heb do ac yn cael eu defnyddio i gorlannu anifeiliaid bychain, megis moch. Byddai angen gwaith cloddio archaeolegol i wahaniaethu, ac ni fyddai’n llwyddiannus bob amser. Mae’n anorfod bod dosbarthiad y tai crynion neu’r cylchoedd cytiau hyn yn cael ei ragfarnu gan gyd-destun eu goroesiad a’r deunydd a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu. Mae’r casgliad dwysaf o’r cytiau hyn i’w weld yn yr ardal rhwng yr Eifl a Garn Boduan; ar ochrau Carn Fadryn a Charn Saethon ac ar lethrau de-ddwyreiniol Mynydd y Rhiw. Gallant fod wedi’u clystyru gyda’i gilydd, yn gnewyllol ac yn aml wedi’u cau o fewn ‘buarth fferm’ neu wedi’u gwasgaru, ac ar eu pen eu hunain. Maent wedi’u hadeiladu o gerrig ac wedi’u lleoli mewn ardaloedd lle ceir amaethyddiaeth lai dwys, ac mae hynny’n un rheswm dros eu goroesiad. Mae ôl cnydau ac olion crasu, a nodwyd drwy arolygon o’r awyr mewn amgylchiadau ffafriol, wedi dangos bod aneddiadau o’r cyfnod hwn, mae’n debyg, wedi bod yn llawer mwy niferus yn yr iseldir âr, er nad ydynt i’w gweld ar wyneb y ddaear.

Mae rhai o’r tai waliau cerrig yn weddol fawr, 8m mewn diamedr, fel y gwelwn o’r cyfnod anheddu cynnar yn Nhre’r Ceiri. Mae tai Garn Boduan yr un mor fawr. Ar sail tystiolaeth o aneddiadau y tu allan i Lyn, ymddengys bod y tai a adeiladwyd tua diwedd y mileniwm cyntaf CC a chanrifoedd y Rhufeiniaid yn llai. Yn Nhre’r Ceiri, roedd y tai mawr, cynharaf wedi’u rhannu’n adrannau llai drwy ychwanegu gwahanfuriau. Nid yw’n amlwg iawn pa bryd y digwyddodd hyn. Efallai ei fod yn hwyr, a bod y trefniant cellog rywsut-rywsut yn awgrymu llety dros dro, o bosibl yng nghyd-destun hafodydd yr haf.

Mae’r dystiolaeth gynnar ar gyfer tai’r Canol Oesoedd Cynnar a’r Canol Oesoedd yn brin iawn. Fodd bynnag, ni ellir derbyn sylwebaeth Gerallt Gymro am gartrefi’r Cymru yn niwedd y 12fed ganrif ar ei olwg: ‘Bodlonant ar gytiau plethwaith ar gyrion y goedwig, wedi eu codi heb lawer o lafur a chostau, ond sy’n ddigon cryf i bara am ryw flwyddyn …. Defnyddir y rhan fwyaf o’u tir fel tir pori. Ychydig iawn ohono sy’n cael ei amaethu, a heuir llain yma ac acw’.

Y dystiolaeth yn Llyn, o leiaf, yw bod llawer o amaethu âr. Byddai’r tai y cyfeirid atynt yn fwy cydnaws â darnau o dir wedi eu llechfeddiannu ar derfynau ucheldir neu dir pori heb ei drin, neu adeileddau dros dro yn gysylltiedig â rheoli gwartheg a godro yn yr hafodydd neu’r ffriddoedd, tiroedd pori’r haf. Gellid disgwyl tai ychydig yn fwy yng nghnewyllyn trefgorddau. Ar statws uwch, mae adeileddau o’r 12fed ganrif a’r 13eg ganrif wedi cael eu datgloddio yn Nhrefadog a Rhosyr ym Môn, y naill a’r llall yn mesur, 5.5m o led a 10.5m i 11m o hyd, yn fewnol. Mae gan y rhain waliau cerrig isel â chorneli allanol sydd ychydig yn grwm ac mae’n debyg mai to gwellt oedd ganddynt. Roedd y drysau ar yr ochr hir, â drysau gyferbyn â’i gilydd yn Rhosyr, ac roedd tân agored yn y naill a’r llall. Datgloddiwyd sylfeini grwp o bedwar adeilad amaethyddol o gyfnod tebyg yn Fferm Graeanog, ger Clynnog, y mwyaf ohonynt yn mesur 10.5m wrth 4.75m yn fewnol. Roedd y sylfeini’n cynnwys wal isel o glogfeini lleol. Cofnodir neuaddau brenhinol yn Nefyn a Neigwl, erbyn y 13eg ganrif o leiaf, a byddai neuadd ym Mhwllheli hefyd. Byddai’r rhain yn adeileddau hyd yn oed yn fwy sylweddol, wedi’u hadeiladu o bren mae’n debyg ar sylfeini cerrig oherwydd ceir cofnod bod sawl darn o bren wedi’i gludo o’r faerdref yn Aberffraw, ym Môn, ar gyfer gwaith yng Nghastell Caernarfon, ar ôl y goncwest, a chafodd neuadd Ystumgwern ei thynnu i lawr yn gyfan gwbl a’i hailgodi yn y castell yn Harlech.

Roedd patrwm daliadaeth tir yn siwr o newid ar ôl y goncwest. Rhoddwyd tiroedd caeth ar brydles ffi fferm i wyr a oedd wedi ennill ffafr frenhinol ac i ddeisyfwyr eiddo’r Goron. Dyfeisiodd rhydd-ddeiliaid ddulliau o brynu eiddo yn ystod y 15fed ganrif a ganiataodd iddynt ddechrau datblygu ystadau cyfunol heb dorri cyfreithiau tir Cymru. Yr un pryd, dechreuodd Cymry lleol blaenllaw gaffael prydlesau o’r fath, yn enwedig yn ystod yr 16eg ganrif ac ar ôl darostwng y mynachlogydd. Rhoddwyd Ynys Enlli yn rhodd i John Wyn ap Hugh o Fodfel ym 1553. Roedd gan lawer o’r teuluoedd bonedd hyn a oedd yn datblygu linachau hynafol a thai i gyd-fynd â’r statws hwnnw. Cyfeiriodd Leland, tua’r flwyddyn 1536, at John ap Madog, taid John Wyn, fel un a oedd yn byw yn Llyn ym Modfel. Codwyd ty arall yn lle’r ty hwn yn hanner cyntaf yr 17eg ganrif. Yng Nghefnamwlch roedd neuadd llawr cyntaf o’r 16eg ganrif, â ffenestr oriel, a ddymchwelwyd ar ddechrau’r 19eg ganrif. Roedd y gwaith o adeiladu’r adeilad a ddisodlodd y ty gwreiddiol wedi ei ddechrau yn gynnar yn yr 17eg ganrif. Roedd Bodwrdda, ger Aberdaron, hefyd yn neuadd llawr cyntaf yn yr 16eg ganrif, ac wedi’i helaethu ar ddechrau’r 17eg ganrif. Cadwyd rhan o’r hen dy yng nghraidd y gwaith newydd, ac mae ffenestri pigfain bychain o’r 16eg ganrif a chyplau trawstiau croes bwa cleddog wedi goroesi yn rhan orllewinol y brif res.

Mae ty Wern Fawr yn dyddio o ddiwedd yr 16eg ganrif. Mae’n adeilad deulawr, wedi’i adeiladu o rwbel mewn cyrsiau afreolaidd, ac mae wedi cadw’i ddrws â phen-pedwar-canolbwynt sydd â bargodfaen uwch ei ben. Mae drws plaen, cyfatebol yn y wal gyferbyn. Mae’r mowldin ar y bwa a’r ystlysbyst wedi’i ddisgrifio fel mowldin tonnog, ond mae’n debycach i ofolo llydan a fyddai’n cyd-fynd â’r mowldin cafeto ar y bargodion. Byddai’r corn simnai hir ar letraws, sydd wedi’i gynnwys yn nhrwch y talcen gogleddol hefyd yn cyd-fynd â chyfnod yn niwedd yr 16eg ganrif. Ceir ail gorn ar y talcen gogleddol a ailadeiladwyd i raddau helaeth yn y 18fed ganrif. Mae’r ffenestri ar y tu blaen yn uchel ac wedi’u gosod yn gymesur, er bod tair ffenestr wedi’u llenwi ar y llawr cyntaf, ac yn dyddio o’r 18fed ganrif mae’n debyg. Awgrymwyd bod ffenestri dormer yn y to yn y 18fed ganrif. Mae’r ffenestri dalennog deuddeg-dros-ddeuddeg cwarel wedi’u hailosod ers i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru dynnu llun o’r ty yn y 1960au.


Mae ty Llwyndyrys yn dyddio o ddechrau’r 17eg ganrif. Mae’n adeilad deulawr, ac mae gwaith coed sydd wedi goroesi yn y ty yn awgrymu ei fod wedi’i adeiladu o bosibl ar safle ty blaenorol o’r 16eg ganrif. Mae’r ty wedi’i adeiladu o rwbel ar hap ac mae’r cyrn simnai wedi’u gosod yn sgwâr ym mhob talcen. Mae’r corn yn y talcen gogleddol yn ymestyn allan o’r wal; mae’r un yn y pen deheuol wedi’i gynnwys yn nhrwch y wal. Credir bod yr adeilad, ar un adeg, wedi’i rannu er mwyn i ddau deulu allu ei ddefnyddio.



Llwyndyrys

Mae’r adeiladau hyn yn sylweddol ac maent yn ddatblygiad ac yn addasiad o draddodiad y tai neuadd. Yn ystod hanner cyntaf yr 17eg ganrif, fodd bynnag, daeth gorchestion y bonheddwyr blaenllaw’n fwy amlwg ym mhensaernïaeth eu tai. Ailddatblygwyd Bodwrdda, y cyfeiriwyd ato eisoes, yn urddasol tua dechrau’r 17eg ganrif.

Cafodd y neuadd ddeulawr wreiddiol ei hymestyn a chodwyd dwy asgell anferth ym mhob pen iddi, yn ymestyn allan ar ongl sgwâr i’r brif res. Rwbel ar hap yw’r brif res ond mae’r esgyll wedi’u gwneud o frics. Dyma’r defnydd cynharaf o frics ar raddfa o’r fath ar y penrhyn. Cerrig yw’r conglfeini, wedi’u gosod bob yn ail. Mae’r ffenestriad yn gymesur a’r ffenestri o’r un arddull yn union ym mhob rhan o’r ffasâd. Mae gan ffasadau’r estyll ffenestri â physt cerrig mewn tair rhan ac mae pennau bwa pantiog a mowldin ofolo ar byst, pennau a chilbyst y ffenestri, ynghyd â bargodfeini a labeli llorweddol. Mae gan ffasâd y brif res ffenestri tebyg mewn dwy ran.

Yn ystod degawd cyntaf yr 17eg ganrif dechreuodd Cefnamwlch ar raglen adeiladu newydd a oedd yn cynnwys porthdy yn union ar gyfer yr hen neuadd gryn bellter i ffwrdd a chyfres o waith adeiladu ar ffurf cwrt ar yr ochr ddeheuol. Moderneiddiwyd Madryn hefyd mewn rhaglen a oedd yn cynnwys porthdy fel mynedfa i’r cnewyllyn, ac adeiladwyd ‘castell’ neo-Gothig yn ei le gan T P Jones Parry ar droad y 18fed/19eg ganrif. Roedd y porthdy sy’n dyddio o ddechrau’r 17eg ganrif a adeiladwyd ym Madryn yn adeilad dau lawr. Mae’r ffenestri sydd wedi’u gosod o bobtu meini bwa’r porthdy yn ffenestri pyst cerrig mewn tair rhan, â phennau wedi eu sgwario a mowldin ofolo. Mae bargodfeini wedi’u gosod yn llorweddol uwchben y ffenestri ond nid oes ganddynt labeli.

Gosododd Syr William Jones garreg sylfaen adeilad newydd yng Nghastellmarch ym 1625. Adeiladwyd y ty o rwbel ar hap ar ffurf adeilad deulawr ac atig. Mae cynllun llawr gwaelod y plasty newydd yn anghymesur, sy’n anarferol, gyda drws tua phen gogleddol y rhes ogledd-de ac un asgell fawr yn ymestyn ar ongl sgwâr o’r pen deheuol. Mae’r ffenestri’n gymesur ac wedi’u gosod yn fertigol yn y brif res a’u dyblu i gadw’r un uchder ond mwy o led ar dalcen yr asgell. Mae’r ffenestri i gyd yn ffenestri pyst cerrig a chroeslathog â bargodfeini a labeli llorweddol – pedair rhan ar ffasâd y brif res ac wyth rhan ar dalcen yr asgell. Mae ffenestr yr atig yn y talcen yn eithriad gan fod iddi dair rhan. Mae corn simnai sy’n ymwthio allan o’r wal yng nghefn y ty ac ar wal ddeheuol yr asgell. Nodwedd arbennig o bwysig yw’r cyntedd sydd o flaen y drws-pedwar-canolbwynt ffug. Mae dwy golofn Ddorig yn cynnal goruwchadail a phediment. Ar ben y goruwchadail mae mowldin proffil tonfowld ac ar wyneb y goruwchadail ceir adlais o driglyffau ag arfbeisiau yn y metopau.


Bodfel

Ym Modfel, cymerwyd cysyniad y porthdy un cam ymhellach ond, yn anffodus, ni lwyddwyd i gwblhau’r prosiect yn unol â’r cynlluniau drwy adeiladu plasty cysylltiedig. Mae porthdy Bodfel wedi goroesi, ac mae wedi’i adeiladu ar ffurf tri llawr ac atig. Mae’r cynllun yn groesffurf a cheir mynediad drwy’r porthdy o’r ochr dde-orllewinol i’r ochr ogledd-ddwyreiniol. Ymestynnwyd yr adeilad yn y cefn ac i’r chwith o’r ffasâd i’w ddefnyddio fel ty annedd ac mae’r porth bwaog wedi’i gau bellach gan ddrws a rhaniad. Mae’r dyluniad gwreiddiol, sydd i’w weld o hyd, yn seiliedig ar thema o gyfnod y Dadeni sydd yn ei thro’n deillio o’r bwa gorfoledd Rhufeinig a bwâu cynilach y Colisëwm. O bobtu’r fynedfa bwa crwn ceir dwy golofn Ddorig ar wahân â goruwchadail yn dod yn ôl sy’n diffinio lefel y llawr cyntaf. Mae’r ffenestri presennol yn rhai Sioraidd, ac yn cymryd lle ffenestri mowldin ofolo cerrig. Mae un o’r rhain wedi goroesi ar yr ochr ogledd ddwyreiniol. Aeth llawer o’r teuluoedd pwysig hyn ati i ailfodelu neu foderneiddio’u cartrefi yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, pe na bai ond i ailwampio’r ffenestriad, fel yn Wern Fawr, Plas Gwyn a Bodfel er enghraifft. Aeth rhai, fel Plas yn Rhiw, ati i godi uchder y bondoeau er mwyn cael yr uchder a’r maintioli ar gyfer cymesuredd Sioraidd. Ychwanegwyd ferandâu yn aml ar lefel y llawr gwaelod fel ym Mhlas yn Rhiw, Cefnamwlch a Nanhoron, lle defnyddiwyd cynhalbyst haearn bwrw. Yn Nanhoron, disodlwyd y ty a adeiladwyd gan Richard Edwards ym 1677 gan adeilad newydd ar safle cyfagos, tua 1800.

Roedd blynyddoedd olaf y 18fed ganrif a hanner cyntaf y 19eg ganrif yn gyfnod o welliannau mawr yn y dirwedd amaethyddol. Efallai, fodd bynnag, nad oedd yn ymddangos felly i ffermwyr tyddynnod a llafurwyr amaethyddol niferus blynyddoedd olaf y 18fed ganrif. Yn ôl Walter Davies, ‘a greater part of … Caernarvon is disgraced with a species of cottages which are truly the habitations of wretchedness; … one smoky hearth, for it should not be styled a kitchen; one damp litter-cell for it cannot be called a bedroom … frequently all the space allotted to a labourer, his wife and four or five children’ (Davies, 1810, 82).

Daeth John Evans i’r un casgliad ym 1798: ‘The cottages of Caernarvon appeared worse than those of Meirioneth …. Here turf or clay with chopped rushes supplies the place of stone. Except towards the mountains; where they are constructed of pebbles placed upon each other. The form is generally oblong, the length very considerable compared with breadth and height. The walls are about six feet high … poles, not even stripped of their bark for rafters and pegged at top and bottom …. Over these are placed heath or rushes, kept down by ropes … netwise. Openings in the wall, filled with a lattice of sticks and a hurdle for a door permitted light or, otherwise, provided protection from the weather. The fuel on the fire was peat from a nearby moor; the chimney, aperture in the roof’ (John Evans, 1804, 161-2).

Yr un math o sylwadau a fynegwyd gan Pennant, genhedlaeth ynghynt, ym 1773: ‘houses of the common people were very mean, made with clay, thatched and destitute of chimnies’ (Pennant, gol. Rhys 1883, 374). Roedd Evans yn gwahaniaethu drwy ddweud bod gan denantiaid ffermydd well lle i fyw, gydag ystafell wely neu ddwy i fyny’r grisiau, ond er hynny, ‘pigs, asses and other domestic animals take up their abode and form part of the family’ (Evans, 1804, 161).




Ty fferm, Rhoshirwaun

Adleisir y disgrifiadau hyn yng nghofnodion manwl arolwg o ddaliadau ystâd y Faenol yn Llyn, ym mhlwyfi Llanengan a Llangian yn fwyaf arbennig. Roedd saith tenantiaeth a thrigain yn y ddau blwyf hyn, rhai’n cael eu rhedeg ar y cyd mewn partneriaeth, a rhai’n cael eu rhannu ag aelodau o’r teulu. Roedd toeau gwellt yn gyffredin. Roedd gan ddau denement ar bymtheg un neu ragor o dai waliau mwd neu dyweirch ar eu ffermydd. Er enghraifft, ar un o ddaliadau Tyddyn Talgoch ym Marchros, roedd ty annedd ac ysgubor dan yr un to gwellt, a gyferbyn iddo roedd nifer o adeiladau waliau mwd yn cynnwys ty annedd ar gyfer brawd, a oedd yn wehydd, a stabl, beudy a chwt. Yn y Felin Isaf roedd ty’r felin wedi’i adeiladu o gerrig, â tho gwellt, ond roedd y melinydd yn byw mewn ty waliau mwd dan yr un to â’r felin, wedi’i doi â gwellt, â stabl a beudy bach. Waliau mwd oedd i’r odyn hefyd. Yng Nghastellmarch roedd dau fwthyn wedi’u hadeiladu ar y banciau tywod, i lafurwyr gadw’r defaid o Lanbedrog oddi ar y tir. Waliau mwd a tho gwellt oedd gan un o’r rhain. Yn Nhyddyn y Priciau, Cilan, roedd ty annedd, beudy a stabl dan yr un to. Roedd y ty wedi’i adeiladu o gerrig ond roedd wedi’i doi â gwellt. Roedd gan fab y teulu dy waliau cerrig, ysgubor a beudy ar y safle, pob un â tho gwellt, ac roedd beudy bach â waliau cerrig gerllaw.

Roedd tenant arall, hefyd ar yr un safle, yn dal ty, dan yr un to ag ysgubor, stabl a beudy, pob un â tho gwellt ac wedi’i adeiladu’n rhannol â waliau cerrig ac yn rhannol â waliau mwd. Roedd bwthyn ar yr un daliad ger wal y mynydd.

Yn Llawr y Dref, ar wastadedd Neigwl roedd ty annedd da â waliau cerrig, to llechi a llofft dda. Er hyn, roedd llawer o’r cytiau wedi’u hadeiladu’n rhannol â cherrig ac yn rhannol â waliau mwd ac roedd bron bob un o’r adeiladau, ar wahân i’r ty annedd ei hun, wedi’i doi â gwellt.

Mae ffermdai a bythynnod o’r cyfnod hwn, sef diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, wedi goroesi. Mae rhai ffermdai ar fân-ddaliadau cymharol fawr wedi’u hadeiladu o gerrig ar ddau lawr neu un llawr a hanner i gynnwys atig, gydag adeiladau amaethyddol ynghlwm, mewn rhes. Ceir enghreifftiau da yn Uwchmynydd ac yn Anelog; yng nghanol Abererch, lle mae tai o’r ugeinfed ganrif bellach wedi clystyru o amgylch y cyn dy fferm, Ty Gwyn, ac yn Llanbedrog lle mae ty deulawr ac adeilad amaethyddol llai, mewn rhes, wedi dod yn rhan o’r casgliad o adeiladau yn rhan uchaf y pentref ar Ffordd Pedrog.



Ty Fferm , Abererch

Mae bythynnod unllawr neu fythynnod â chroglofftydd wedi goroesi ac i’w gweld ar hyd a lled y penrhyn, ond mae’r crynodiad mwyaf yn y rhan ddeheuol ac yn fwyaf arbennig yn Uwchmynydd, Anelog, y Rhiw, Llanengan a Llanbedrog, ac yn ardaloedd Amgaeadau Seneddol Rhoshirwaun a Mynytho a’r cyffiniau. Mae’r rhan fwyaf yn dai cerrig wedi’u hadeiladu â rwbel ar hap ar sail tystiolaeth y waliau sydd yn y golwg, er bod llawer iawn wedi cael côt o rendrad neu ro chwipio ar yr ochr allan. Mae rhai wedi’u hadeiladu o rwbel wedi’i sgwario mewn cyrsiau rheolaidd, er enghraifft, Efail Botwnnog sydd ar ochr y ffordd. To llechi sydd i’r rhain, ac eithrio ambell un sydd â tho haearn rhychiog. Mae’n amlwg fodd bynnag, o ddisgrifiadau uniongyrchol ac o fanylion bargodfeini simneiau, a hefyd o serthiant y to, er nad yw hynny mor amlwg, mai to gwellt oedd gan lawer ohonynt yn wreiddiol a’u bod yn dal i fod felly yn y 19eg ganrif er gwaethaf sylwadau gresynus y sylwedyddion a oedd yn cymell gwelliannau.

Mae bythynnod waliau mwd i’w gweld yn Llyn o hyd. Adfeilion ydynt yn aml, ond mae rhai’n dal i gael eu defnyddio. Mae’n bosibl bod llawer mwy ohonynt, ond bod rendrad sment-a-thywod yn cuddio’r waliau mwd.

Yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif roedd rhai adeiladau cadarn a helaeth yn cael eu hadeiladu ym mhentrefi a threfi Llyn. Un enghraifft o’r rhain yw’r Four Crosses Inn â’i fuarth stablau a’i dai cysylltiedig. Enghraifft arall yw’r adeiladau masnachol yn Lôn Penbryn, Llanbedrog, a thai deulawr cyfagos ar Ffordd Pedrog.

Enghreifftiau eraill yw’r tai teras i’r gogledd o’r eglwys yn Abererch a rhesi o dai teras deulawr wedi’u hadeiladu o rwbel wedi’i sgwario wedi’i osod mewn cyrsiau ar ochr ddwyreiniol y pentref. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif gwelodd rhai rhannau o’r penrhyn ffyniant diwydiannol, yn fwyaf arbennig y diwydiant mwyngloddio yn Llanengan, Llangian, y Rhiw a Llanfaelrhys, a’r chwareli ithfaen yn Llanbedrog, Llanaelhaearn a Phistyll. Yn Llanbedrog chwarelwyr a’u teuluoedd oedd yn byw yn y deunaw ty ym Madryn Terrace at ei gilydd. Mae’r tai’n adeiladau deulawr soled o rwbel ar hap â blociau mawr o gerrig fel linteri, toeau llechi a chyrn simnai o frics, rhai â brics o liwiau gwrthgyferbyniol yn y cyrn i ychwanegu at y manylion. Mae tu blaen y rhan fwyaf o’r tai wedi’u trin â rendrad neu ro chwipio ac mae’r rhan fwyaf o’r ffenestri a’r drysau Fictoraidd gwreiddiol wedi’u newid. Yn Abersoch, yn Bay View Terrace, mwyngloddwyr plwm a’u teuluoedd oedd yn byw ym mhob un bron o’r deg ty deulawr.


Llithfaen

Yn Llithfaen, yng nghysgod yr Eifl, adeiladwyd rhesi tai tebyg o gerrig o ganlyniad i’r chwareli yn Nant Gwrtheyrn a chwareli eraill yn yr ardal honno. Mae’r tai’n dai deulawr o rwbel ar hap â chyrn rwbel. Ym Mhistyll adeiladwyd rhes o bedwar ar ddeg o dai deulawr ar ochr y ffordd o Lithfaen i Nefyn, ger inclein y lein fach o chwarel Moel Ty Gwyn i bier ar lan y môr. Mae’r deunyddiau adeiladu wedi’u cuddio gan ro chwipio. Mae’r rhan fwyaf o’r agoriadau, os nad y cyfan, wedi’u newid a cheir ffenestri to erbyn hyn i oleuo’r atigau.

Mae troad y ganrif a’r ugeinfed ganrif yn ei chyfanrwydd wedi ysbrydoli ystod eclectig o adeiladau. Mae’n bosibl mai Plas Glyn y Weddw, a adeiladwyd ym 1856 gan y pensaer Henry Kennedy mewn arddull Gothig Fictoraidd, i’r Fonesig waddolog Elizabeth Love Jones Parry o Fadryn, yw un o adeiladau unigol pwysicaf ail hanner y 19eg ganrif yn Llyn.

Ym 1896, prynwyd y ty gan yr entrepreneur a’r datblygwr, Solomon Andrews, fel canolfan ddigwyddiadau ac arddangosfeydd i ymwelwyr a phobl leol ar adeg pan oedd twristiaeth ar fin newid rhai rhannau o’r penrhyn. Datblygodd Solomon Andrews ardal y West End ym Mhwllheli drwy adeiladu lleoedd aros a chyfleusterau gwyliau. Yn ystod y ganrif, datblygodd dai tebyg i filâu ar y ffordd o Bwllheli tua’r gorllewin a chododd dai yn yr ardal i’r gogledd-orllewin o Nefyn, rhwng y dref a’r môr ac ychydig tua’r gorllewin ym Morfa Nefyn. Yn Abersoch, mae tai sylweddol o ddechrau’r ugeinfed ganrif ar drwyn Bennar yn cynnwys tai neo-Sioraidd Garth a Haulfryn, sydd ill dau’n adeiladau rhestredig.

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Llyn

 

Crefydd a’i dylanwad ar y dirwedd

Mae’r dystiolaeth gynharaf o brofiad crefyddol yn nhirwedd Llyn i’w gweld yn henebion y cyfnod Neolithig a’r Oes Efydd Gynnar. Mae tua phymtheg o feini hirion yn ardal yr astudiaeth. Ceir clwstwr ger glannau afon Erch, dau faen, 180m oddi wrth ei gilydd ym Mhenprys, Llannor a chasgliad gwasgaredig yn ymestyn at ben de-orllewinol y penrhyn. Mae’n amhosibl dweud beth oedd swyddogaeth y meini hyn. Gallai rhai fod yn allgreigiau neu’n arwyddbyst ar gyfer cyfadeiladau gweithgareddau defodol helaethach, nad ydynt i’w gweld mwyach. Gallai eraill fod yn gysylltiedig â chladdu. Mae’r rhan fwyaf yn fynegiant o hen hen hanes yn y dirwedd. Nid oes cylchoedd cerrig pendant na ‘hengorau’ arglawdd crwn yn yr ardal, er bod awgrym wedi’i wneud y gallai lloc ffosog crwn, a ddarganfuwyd o’r awyr fel ôl cnwd ac a gadarnhawyd gan arolwg geoffisegol, yng Nghwmistir, rhwng Edern a Thudweiliog, fod yn lloc defodau o’r cyfnod cynhanesyddol cynnar.


Sarn Meyllyeyrn

Mae deg beddrod siambr o’r cyfnod Neolithig wedi’u cofnodi yn yr ardal dirwedd, ond nid yw pob un wedi goroesi. Mae beddrod ar fferm y Gromlech, ger y Ffôr, unwaith eto ger afon Erch ac ym Mhont Pensarn, heb fod ymhell o’r fan lle mae afonydd yn dod at ei gilydd yn y Pwll, ym Mhwllheli. Ceir beddrodau ar drwyn Cilan ac, yn bwysig iawn, ar lethrau dwyreiniol Mynydd y Rhiw, islaw’r ffynhonnell bwysig o graig graen mân a ddefnyddid i wneud bwyeill Neolithig. Er eu bod yn lleoedd claddu, ac yn cael eu disgrifio fel beddrodau, y ffordd orau o ystyried yr henebion hyn yw fel canolbwynt mynegiant crefyddol lle’r oedd marwolaeth yn cael ei chydnabod fel rhan o gylch bywyd. Roedd hynny’n ystyriaeth bwysig i amaethwyr. Mae claddedigaethau’r canrifoedd diweddarach yn henebion caeëdig, ac mae’n fwy amlwg mai beddau ydynt.

Mae’n anodd iawn dynodi lleoliad yr eglwysi Cristnogol cynharaf ar benrhyn Llyn, ac fel sawl agwedd ar y Canol Oesoedd Cynnar, mae’n anodd eu dehongli gan nad oes tystiolaeth uniongyrchol ar gael. Gellir disgrifio cymeriad eglwysi cynnar a’u trefniadaeth, mewn sawl achos, fel eglwysi lled-fynachaidd neu gymunedau ‘clas’. Nid oeddent yn rhan o system blwyfol eto, ond roeddent yn gweithredu ar linellau cymunedol. Mae’r clas (term diweddarach) yn disgrifio ystod a math eang iawn o eglwys, yn amrywio o gymunedau pwysig a dylanwadol Aberdaron a Chlynnog Fawr a’u canghennau yn Llyn, i eglwysi bychain yn cael eu rhedeg gan gymuned leol heb unrhyw ddylanwad na budd y tu allan i ffiniau’r drefgordd. Er enghraifft, gallai eglwys glas ddod i fodolaeth pe bai pennaeth rhydd-ddaliadol tylwyth, â chydsyniad ei etifeddion a sêl bendith y brenin neu’r arglwydd, yn trosglwyddo’i hawliau yn nhir y gymuned er budd eglwys, drwy ei ffurfio a’i chynnal. Byddai’r rhenti a’r tollau arferol a fyddai’n ddyledus i’r brenin neu’r arglwydd yn cael eu trosglwyddo wedyn er mwyn cynnal a chadw’r eglwys. Byddai’n rhaid i un o’r gymuned fod yn offeiriad a byddai pennaeth y teulu, boed yn glerigwr ai peidio, yn cael ei alw’n ‘Abad’. Mewn senario arall, gallai’r brenin neu’r arglwydd roi tir ar gyfer adeiladu a chynnal eglwys ac, efallai, sefydlu aelod iau o’r teulu neu berthynas i fod yn gyfrifol am yr eglwys honno. Yn y naill achos a’r llall, ni fyddai’r eglwys na’i chymuned yn gorfod talu trethi brenhinol. Roedd rhai atodion a hawliau’n deillio o hyn. Roedd gan y gymuned, y claswyr (y ‘mynachod’), fudd breintiedig ac etifeddadwy yng ngwaddolion tiriog yr eglwys, yr abadaeth. Roedd noddfa’n ymestyn o’r eglwys ac yn darparu amddiffyniad i’r rhai hynny oedd ei angen. Mewn un achos a gofnodwyd, ym 1114, roedd Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr, arglwydd Deheubarth, yn cael ei erlid gan wyr Gruffudd ap Cynan, a chymrodd loches yn eglwys Aberdaron. Anfonwyd gwyr Gruffudd i’w lusgo oddi yno ond safodd Aberdaron yn gadarn ‘ac ny adawd pzela dyeid ywlad llygru nawd yr eglwys’ (Brut y Tywysogion, Peniarth MS, 20 sa.1112).

Canfuwyd dau faen coffa pwysig o’r chweched ganrif yn Anelog, ger Aberdaron, ac arnynt arysgrifau yn dynodi ‘yma y gorwedd Senacus, yr offeiriad, gyda thyrfa o frodyr’, ac ‘yma y gorwedd Veracius, yr offeiriad’. Mae’r arysgrifau’n defnyddio prif lythrennau Rhufeinig â seriffau, llythrennau dyblyg a marciau cywasgu yn arddull dynodwyr beddau sydd i’w gweld mewn llawer o drefi Taleithiau Gorllewinol diweddar y Rhufeiniaid, sy’n dangos adnabyddiaeth, o leiaf, o rai agweddau ar Gristnogaeth gyfoes y cyfandir.

Gallwn fod bron yn sicr mai eglwysi pren oedd eglwysi cynnar Llyn. Mae’r dystiolaeth adeileddol gynharaf o ddefnyddio cerrig sydd wedi goroesi yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif. Eglwys Aberdaron, â’i drws bwaog Romanésg, mewn tri dull, o’r 12fed ganrif, yw’r enghraifft orau, er bod llawer o ychwanegiadau ac addasiadau wedi’u gwneud dros y canrifoedd. Mae cryn bosibilrwydd bod yr eglwysi hynny lle gellir nodi cysylltiad â chlas wedi eu hadeiladu ar leoliad eglwys gynharach.


Aberdaron

Yn ystod diwedd y 12fed ganrif a dechrau’r 13eg ganrif roedd mudiad diwygio a oedd yn ystyried bod yr hen eglwysi clas wedi dirywio a mynd yn hen ffasiwn o’u cymharu â’r urddau cyfandirol a oedd yn ennill tir yng Nghymru a Lloegr. Cafodd llawer o’r cymunedau clas eu hannog neu eu perswadio i ildio’u hawliau yn yr abadaeth i gymunedau canonau Awstinaidd. Dewiswyd yr Awstiniaid gan fod eu rheolaeth hyblyg yn caniatáu iddynt ymgymryd â chyfrifoldebau plwyfol, fel y gwnâi’r offeiriaid ymhlith y claswyr. Roedd cymunedau clas eraill fel pe baent yn diflannu, gan adael yr eglwys yn nwylo rheithor o fewn strwythur esgobaethol. Yn ymarferol, gwnaethpwyd consesiynau i’r claswyr ac i ddeiliaid newydd yr eglwys. Unwaith eto, Aberdaron yw’r enghraifft gliriaf yn Llyn. Cadwodd claswyr Aberdaron eu hawliau personol a’u hawliau perchnogaeth, rhyddfreiniwyd eu tenantiaid caeth a rhoddwyd rhagor o dir brenhinol ar y tir mawr yn rhodd gan Dafydd ap Gruffydd, Arglwydd Cymydmaen.

Mae enghraifft arall bwysig yn cyfeirio at Cadwaladr ap Gruffudd ap Cynan yn rhoi eglwys Nefyn, yn y 1170au, neu o gwmpas y dyddiad hwnnw, yn rhodd i abaty Awstinaidd Haughmond. Mae rhai arwyddion sy’n awgrymu mai eglwys glas oedd yr eglwys yn wreiddiol, ac mae hyn yn arwain at y posibilrwydd nad oedd Nefyn wedi’i sefydlu fel maerdref gymydol cyn rhoi’r eglwys yn rhodd i abaty Haughmond.

Rhwng y 12fed ganrif a dechrau’r 16eg ganrif daeth eglwysi cerrig yn rhan bwysig a gweledol o dirwedd y Canol Oesoedd. Roedd materion yn ymwneud â deiliadaeth i’w hystyried hefyd. Roedd trefgordd Llannor â’i phum pentrefan gwasgaredig yn naliadaeth Beuno Sant, hynny yw, Clynnog Fawr. Roedd Carnguwch hefyd wedi dod yn rhan o gylch dylanwad Clynnog. Roedd gan Esgob Bangor lawer o dir ac eiddo ledled Gwynedd. Yng nghantref Llyn roedd yr Esgob yn cadw maenordy a thiroedd demên yn Edern. Ef hefyd oedd landlord trefgorddau Llaniestyn, Abererch, Llangwnnadl, Penrhos, Llanbedrog ac Edern ei hun.

Mae manylion sydd wedi goroesi o’r 12fed ganrif i’w gweld yn amlwg yn Aberdaron a hefyd ym Mhistyll. Mae’r gwaith maen gweladwy cynharaf yn Llannor yn dyddio o’r 13eg ganrif, ac yn cynnwys yr adeiledd un siambr cyfan cyn ychwanegu twr yn y 15fed ganrif a chyntedd a chapel modern. Mae’n rhaid mai hon oedd yr eglwys fwyaf yn Llyn yn ei chyfnod. Mae gwaith sy’n dyddio o’r 13eg ganrif yn Llangian hefyd yn y pen gorllewinol, ac mae gwahaniaeth pendant iawn rhwng gwaith y cyfnod hwnnw ac estyniad o’r 15fed ganrif. Yn yr un modd, mae gwaith maen o’r 13eg ganrif wedi goroesi yn Llaniestyn yn y pen gorllewinol, a ymestynnwyd tua’r dwyrain tua diwedd y 13eg ganrif.

Digwyddodd y gwaith mwyaf o bosibl, fodd bynnag, tua’r flwyddyn 1500. Adeiladwyd eiliau newydd yn eglwysi Llaniestyn, Llanengan, Abererch ac Aberdaron nid nepell o’r adeileddau estynedig blaenorol, ac adeiladwyd arcedau o fwâu pedwar-canolbwynt i’w cysylltu. Yn Llangwnnadl, ar adeiledd llawer cynharach, adeiladwyd dwy eil ychwanegol, i’r gogledd ac i’r de o’r canol cynnar yn y 1520au, ac yn y 1530au ffurfiwyd tri bwa pedwar-canolbwynt yn y waliau.


Llangwnnadl

Mae’r arddull yn yr eglwysi hyn sy’n dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif a dechrau’r 16eg ganrif yn sythlinol gan mwyaf, ac eithrio Llaniestyn sydd wedi cadw fersiwn o arddull gynharach, ffenestr lansed-triphlyg, yn y ddau dalcen dwyreiniol. Yn ystod y cyfnod hwn, defnyddid gwahanol arddulliau toi, er enghraifft cyplau trawstiau croes, bwa cleddog, wedi’u cryfhau weithiau ag ategion gwynt a phwyslathau ar ogwydd. Mae enghreifftiau da i’w gweld yn Llangian, Llanengan, Pistyll a Llangwnnadl, ac mae rhai wedi’u hatgyweirio neu eu hadfer.

Mae eglwys Llandudwen yn eglwys ddiddorol. Cafodd ei hailadeiladu yn yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif ar seiliau canoloesol, ac mae’n cynnwys ffenestri pyst cerrig sgwâr â mowldin ofolo. Mae pedair ar ddeg o’r wyth ar hugain o eglwysi plwyf yn ardal yr astudiaeth wedi cael eu dymchwel a’u gadael fel adfeilion neu eu hailadeiladu ar yr un safle yn ystod y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Mae eglwys Deneio, yn agos at lys tybiedig maerdref Afloegion wedi mynd yn ddim mwy nag adfail o waliau isel.

Adeiladwyd eglwys newydd ar safle newydd yng nghanol Pwllheli yn y 19eg ganrif ac fe’i hailadeiladwyd eto ym 1887. Ailadeiladwyd eglwys Sant Pedr yn ei Gadwynau ym Mellteyrn ar yr un safle, ond mae hithau’n adfail erbyn hyn. Mae llawer o’r eglwysi o’r 19eg ganrif sydd wedi cymryd lle rhai cynharach yn gysyniadau Fictoraidd soled o themâu canoloesol amrywiol, fel y gwelwn, er enghraifft, yn Edern a Thudweiliog. Dwy eglwys anarferol yn y categori hwn yw’r eglwys Romanésg rystig a adeiladwyd yn lle eglwys Romanésg wreiddiol Hywyn Sant yn Aberdaron ac eglwys Gwynin Sant yn Llandygwnning.

Hybwyd twf Ymneilltuaeth grefyddol yn niwedd y 18fed ganrif gan huodledd a brwdfrydedd yr arweinwyr. Un o’r efengylwyr hynny a daniai’r cyfarfodydd mawr oedd John Elias, a anwyd yn Abererch. Roedd angen adeilad o ryw fath ar gyfer y cyfarfodydd llai a gynhelid mewn cymunedau unigol yn dilyn y cyfarfodydd mawr hyn. Cafodd croglofftydd ac ysguboriau eu gosod, neu eu rhoi’n rhydd i’r diben. Wrth i’r mudiad a’r momentwm gynyddu mewn cymunedau a oedd wedi mynd yn rhy fawr i’r ystafelloedd a oedd yn cael eu rhentu, cymerwyd camau i gael adeiladau mwy addas â mwy o le. Un o’r capeli cynharaf i’w ddefnyddio, ac sydd wedi goroesi hyd heddiw, yw Capel Newydd, Nanhoron. Mae Capel Newydd yn debyg i ysgubor, ac mae’n ddigon posibl mai ysgubor ydoedd cyn iddo gael ei ddefnyddio fel capel. Nid oedd cael tir ar gyfer capel anghydffurfwyr bob amser yn hawdd, ac nid oedd y boneddigion bob amser yn bleidiol i Anghydffurfwyr. Fodd bynnag, roedd cefndir Piwritanaidd teulu Nanhoron yn etifeddiaeth a barhaodd. Roedd Capten Timothy Edwards Nanhoron yn gymwynaswr a daeth ei wraig, Catherine, yn aelod ar ôl marwolaeth ei gwr. Roedd Capel Newydd (Annibynwyr) ar gyrion tir comin, ac ym 1782, adeiladwyd capel arall ar gyfer y Methodistiaid Calfinaidd o fewn y tir comin yn y Nant, dafliad carreg i ffwrdd.


Capel Newydd, Nanhoron

Adeiladwyd Capel Annibynwyr yn Nhudweiliog tua diwedd y 1820au i lawr y ffordd o Frynodol a heb fod ymhell o eglwys y plwyf. Mae’r adeilad hwn hefyd yn debyg iawn i ysgubor neu adeilad amaethyddol ac mae yno dy ar gyfer y gweinidog, wrth ymyl y capel ac ar yr un llinell. Yn ystod ail chwarter y 19eg ganrif adeiladwyd capeli Anghydffurfiol mwy i ddal cynulleidfaoedd mwy. Mewn pentref bychan fel Aberdaron roedd tri chapel wedi eu codi cyn 1890 - yr Annibynwyr, y Methodistiaid Calfinaidd a’r Wesleaid. Roedd capeli’n cael eu cynllunio erbyn y cyfnod hwn, a chynlluniau clasurol oedd y rhai mwyaf poblogaidd at ei gilydd. Nid oedd cynlluniau Gothig Fictoraidd mor boblogaidd, ond maent i’w cael. Mae gan Gapel Nebo, yn y Rhiw, er enghraifft, a ailadeiladwyd ym 1876 ffasâd cynnil, ond Gothig er hynny. Mae’r un peth yn wir am Gapel Peniel yng Ngheidio, yn union yn ymyl yr Eglwys sydd wedi ei hadnewyddu yno. Mae’r eglwysi hynny sydd ag elfennau clasurol i’w dyluniad yn cynnwys motiffau cylchol, â rhai amrywiadau, a threfniant arferol o agoriadau ar y cyfan, o leiaf tan ddiwedd y ganrif pan ddechreuwyd adeiladu capeli mwy fyth â dyluniad mwy beiddgar. Mae elfennau cyffredin ail hanner y 19eg ganrif yn cynnwys bwâu hanner crwn mawr yn codi o abaci ar bilastrau tal ar ran helaeth o ffasâd y talcen. Mae’r bwa fel ffrâm i ddwy ffenestr dal â phennau crynion, ac uwchben y rhain mae math o fowld capan ffug. Saif dau ddrws pâr â phennau crynion y tu allan i’r ffrâm o bobtu’r ffasâd. Mae’r trefniant hwn ac eraill i’w gweld yn aml, ac mae’n debyg mai gwaith penseiri lleol ydyw. Mae’r thema bwa crwn a ddisgrifiwyd uchod i’w weld yr un fath yn union mewn mannau eraill, er enghraifft yng Nghapel Berea, Efailnewydd ym 1872, Bethania ym Mhistyll ym 1875, Bryn Mawr ym 1877 a Salem, Sarn Mellteyrn ym 1879.


Bethania, Pistyll

O ran y capeli mwy a adeiladwyd ar droad y ganrif, yn Edern ym 1898 gwelwn gyntedd tal, â phediment, yn ymestyn allan ychydig o wyneb petryal corff y capel, â thair ffenestr pen crwn ar lefel y galeri llawr cyntaf a drws pen crwn â ffenestr o bobtu iddo ar y llawr gwaelod, i gyd o fewn cilfach fwaog. Ceir dwy ffenestr i fyny a dwy ffenestr i lawr bob ochr i’r cyntedd. Yn Llithfaen, sydd hefyd â galeri, gwelwn amrywiad ar yr un thema ond ar raddfa lai. Mae’r ddau gapel yn dilyn arddull rystig glasurol, neu efelychiad o’r arddull honno, gan awgrymu swyddogaeth iwtilitaraidd i adeiladau sydd fel arall yn drawiadol.

Edern

 

Amgaeadau Seneddol

Rhwng 1802 a 1861 caewyd miloedd o aceri o dir comin ar benrhyn Llyn, rhwng Llanaelhaearn a Phorth Neigwl. Y cymhelliant oedd gwella tir comin a gwneud defnydd mwy proffidiol ohono. Heb os nac oni bai, roedd landlordiaid a thirfeddianwyr a oedd yn gwella’u hystadau yn gweld y broses fel cyfle i sicrhau mwy o effeithlonrwydd amaethyddol, a chredent y gallai aredig mwy o dir ostwng y prisiau uchel a welwyd yn ystod y rhyfeloedd gyda Ffrainc. Er hyn, roedd cau tiroedd comin wedi bod yn digwydd ers canrifoedd. Roedd hi’n anorfod y byddai tir comin yn cael ei droi’n ffriddoedd. Byddai rhai achosion wedi digwydd ers talwm iawn, a phobl wedi hen anghofio amdanynt, ond llechfeddiannu diweddar fyddai’r rhan fwyaf. Mewn rhai ardaloedd, ac mewn rhai amgylchiadau, gwneid cytundebau preifat lleol, anffurfiol a ffurfiol. Fodd bynnag, roedd y tirfeddiannwr mawr neu’r arglwydd lleol yn elwa o’r trefniant hwn ar draul y tyddynnwr, ac ni fyddai dim yn newid hynny.


Mynytho

Yn ystod dechrau’r 18fed ganrif roedd modd cau tir comin drwy Ddeddf Seneddol Breifat pe na bai modd dod i gytundeb lleol. Fodd bynnag, roedd Deddfau Preifat yn gostus, ac ym 1801 pasiwyd Deddf Cau Tir (Cydgrynhoi) yn y Senedd gyda’r bwriad o gyflymu a symleiddio’r broses drwy gydgrynhoi a safoni prif gymalau Deddfau o’r fath. Gwnaethpwyd rhagor o welliannau drwy Ddeddf Cau Tir Gyffredinol 1836 a Deddf Cau Tir 1845. Deddf 1845 oedd yr un gyntaf i gynnwys unrhyw amddiffyniad i’r person cyffredin.

Gallai’r broses gymryd llawer o amser. Yn Llangian a Llaniestyn, er enghraifft, lluniwyd y Ddeddf ym 1808 ond ni chafodd ei dyfarnu tan 1825. Yn Aberdaron, y Rhiw, Llanfaelrhys a Bryncroes, ni wnaethpwyd y dyfarniad tan 1861. Roedd angen penodi Comisiynwyr Cau Tir, cynnal arolygon, dosbarthu hysbysebion, marcio terfynau ar y ddaear, cyflwyno a gwrando gwrthwynebiadau a sicrhau bod y ffyrdd a’r priffyrdd o safon foddhaol. Ym Mynytho roedd llawer o lechfeddiannu wedi digwydd cyn i’r Ddeddf Cau Tir gael ei llunio a’i dyfarnu.


Gwylwyr

Roedd bythynnod wedi’u hadeiladu, ac roedd y posibilrwydd o gael eu troi o’u cartrefi’n gwmwl du uwchben trigolion Rhoshirwaun, Nefyn a Phistyll. Bu terfysg yn Llithfaen, a chafodd yr arweinwyr honedig eu dedfrydu i farwolaeth. Newidiwyd y ddedfryd yn ddiweddarach o grogi i drawsgludo. Roedd eraill nad oeddent wedi llechfeddiannu tir, ond a oedd yn torri mawn o’r tir comin i’w ddefnyddio fel tanwydd, ac a fyddai dan anfantais sylweddol o ganlyniad i’r broses. Yn gyffredinol, gwnaethpwyd rhyw gymaint o ddarpariaeth ar gyfer ‘tir tanwydd’ i liniaru’r effaith.

Yn ôl un a oedd yn llythyru â Walter Davies, tua’r flwyddyn 1803:
‘I am no advocate for the enclosure of Rhos Hirwaun. Its poor inhabitants support themselves by the fisheries on the coast without being burdensome to the parishes, and are ready hands for the farmers in the labouring seasons. If these are ejected.... where will they remove to. The old and infirm must
remain and live upon the scanty allowance of the parishes. By thus enclosing, the landed proprietors will enlarge their bounds, but will not conduce to add a handful of corn to their stock of provisions’ (Davies, 1810, 275).

Ni wireddwyd y syniad o ychwanegu at y tir âr. Roedd y tir dan sylw, tir pori cyffredin a mawnogydd, yn dir creigiog anhydrin, ac oni bai am hynny byddai wedi cael ei ddefnyddio ymhell cyn hynny. Er hynny, cafodd y tirfeddianwyr mawr yn y plwyfi dan sylw ragor o dir, ac mewn rhai ardaloedd, llwyddwyd i wella tir pori. Adeiladwyd ffyrdd ar draws yr ardaloedd caeëdig newydd, dosrannwyd rhandiroedd a gwerthwyd rhai i dalu costau. Yn Rhoshirwaun adeiladwyd nifer o dai newydd ar ôl cau’r tir comin a sicrhaodd y gwelliannau i’r ffordd mai llwybr Rhoshirwaun fyddai’r brif ffordd o deithio i Aberdaron yn y de. Gwelwyd gwelliannau mewn dulliau cyfathrebu yn lleol ac ehangwyd Llanbedrog o ganlyniad i adeiladu tai.

Y tiroedd a gaewyd dan y gwahanol Ddeddfau Seneddol Cau Tir yn yr ardal astudiaeth bresennol yw:

 


• Mynydd Mawr, Mynydd Bychestyn a Mynydd Gwyddel ym mhlwyf Aberdaron
• Tir Comin Rhoshirwaun, ym mhlwyfi Aberdaron a Bryncroes
• Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig ym mhlwyfi’r Rhiw a Llanfaelrhys
• Mynydd Cilan a Morfa Neigwl ym mhlwyf Llanengan
• Mynydd Tir-y-cwmwd, Mynytho a Charn Fadryn ym mhlwyfi Llanbedrog, Llangian a Llaniestyn
• Tir arfordirol ym mhlwyfi Penrhos, Deneio ac Abererch
• Mynydd Nefyn
• Mynydd Carnguwch
• Bwlch Mawr ym mhlwyfi Llanaelhaearn a Phistyll.

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Llyn

 

Cyfathrebu, trefi a phentrefi

Roedd cyfathrebu pellter hir yn anodd yn Llyn cyn diwedd y 18fed ganrif.

Roedd y trefi arfordirol, sef Pwllheli a Nefyn, a phentrefi arfordirol, yn gallu cael mynediad at lwybrau morol a phorthladdoedd. Roedd nifer o lanfeydd ar hyd yr arfordir, a gwyddai llongwyr am yr angorfeydd diogel - ym Mhorthdinllaen, Porth Nefyn, Pwllheli, Porthorion ger Mynydd Anelog, Aberdaron, Porth Ceiriad ac Ynysoedd Tudwal (a ddefnyddiwyd gan Capten Bartlett pan ddaeth i ymosod ar Gastellmarch a herwgipio Griffith Jones ym 1649).

Adeiladwyd cychod bychain ar hyd yr arfordir. Darparwyd cwch i Gruffudd ap Cynan gan glaswyr Aberdaron yn niwedd yr 11eg ganrif. Cofnodir cychod â rhwydi yn Nefyn a Pwllheli yn y 13eg ganrif. Adeiladwyd llongau yn ddiweddarach ym Mhwllheli, Nefyn, Aberdaron, Abersoch ac Edern. Roedd masnachu ar yr arfordir yn gwneud iawn i ryw raddau am gyflwr gwael y ffyrdd ymhellach i mewn i’r tir, ac roedd ‘cychod Enlli’ i’w gweld mewn nifer o borthladdoedd bach ar yr arfordir. Roeddent hefyd yn masnachu â dinasoedd cyn belled â Lerpwl.

Ym 1750, ychydig o ffyrdd Llyn oedd yn addas ar gyfer teithiau pell, yn enwedig mewn tywydd gwael. Roedd cludiant ar olwynion yn amhosibl ar lawer ohonynt. Defnyddid wagenni a throliau yn lleol, wrth gwrs, ond yng ngeiriau’r Arglwydd Clarendon ym 1685, ‘never was, or can, come a coach into that part of the country’. Profiad o ogledd sir Gaernarfon oedd ganddo ef, ond yr un oedd y sefyllfa yn Llyn. Roedd angen i ymwelydd a oedd yn ystyried teithio fod mewn iechyd da i ‘deithio yng Nghymru’ lle’r oedd y tafarnau’n darparu ‘as little accommodation as the untracked heaths and narrow lanes’ (‘Eighteenth/nineteenth century’, dyfyniad gan Dodd 1925, 122).

Roedd gwartheg yn cael eu magu yn Llyn, eu pesgi ar diroedd pori yn Lloegr ac yna’n cael eu gwerthu mewn marchnadoedd yn Lloegr. Golygai hyn fod miloedd o wartheg duon yn cael eu cerdded bob blwyddyn. Roedd gan y porthmyn eu llwybrau eu hunain, oddi ar y ffordd gan mwyaf er mwyn arbed traed yr anifeiliaid. Ond roedd mannau casglu a ffeiriau a marchnadoedd yn Llyn lle’r oedd anifeiliaid a phorthmyn yn ymgasglu, ac roedd gefeiliau gofaint ar ochrau’r ffyrdd i bedoli’r gwartheg ar gyfer y daith hir. Roedd y rhain i’w gweld yn Sarn, Botwnnog, Rhydyclafdy, Efailnewydd a’r Ffôr. Roedd y pellteroedd teithio a’r llwybrau teithio wrth reswm yn sianel gyfathrebu.



Efail, Botwnnog

Yn ystod diwedd y 18fed ganrif adeiladwyd ffordd dyrpeg o Gaernarfon tua’r de i Glynnog, drwy Lanaelhaearn ac ymlaen i Bwllheli. Yn ystod degawd cyntaf y 19eg ganrif, cynigiwyd a chwblhawyd rhagor o ffyrdd tyrpeg fel rhan o’r isadeiledd angenrheidiol a oedd yn gysylltiedig â chynllun i ddatblygu porthladd ym Mhorthdinllaen i cludo teithwyr i Ddulyn. Adeiladwyd ffordd ‘letach a sythach’ yn lle’r ddarpariaeth ‘gul, gwmpasog, anghyfleus’ rhwng y Traeth Mawr a Phorthdinllaen, a chyffordd ger Boduan i fynd â’r ffordd i Bwllheli. Dechreuodd y ffyrdd hyn agor y penrhyn.


Morfa Nefyn

Roedd Mudiad Cau Tiroedd chwarter cyntaf y 19eg ganrif yn dân ar groen llawer o bobl. Gwella dulliau cyfathrebu oedd un o’r ychydig fanteision a ddaeth yn ei sgîl. Mae’n rhaid ei bod yn amhosibl teithio yn Rhoshirwaun, ar y ffordd drwy ganol Llyn, ar rai adegau ym misoedd y gaeaf. Nid oedd ffensys ar ochrau’r ffyrdd a’r traciau a oedd yn croesi’r gweunydd gwlyb. Yn yr un modd, rhwng Pwllheli a Llanbedrog, byddai’r teithiwr yn gorfod canfod ei ffordd drwy’r sianeli a’r barrau tywod niferus a chors Talycymerau, lle’r oedd aber tair afon yn dod at ei gilydd yn y ‘Pwll’ ym Mhwllheli. Yn y naill leoliad a’r llall, cafodd tir ei gau, ei ddraenio a’i adennill, a daeth teithio’n haws o ganlyniad i hynny. Roedd pontydd hefyd, a adeiladwyd yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, ar hyd a lled y penrhyn, ond yn fwyaf arbennig yn ardaloedd Llwyndyrys a Llannor, y Gors Geirch a Neigwl, yn elfen bwysig o’r cynnydd ym maes cyfathrebu.



Rhydlios, Rhoshirwaun

Daeth y rheilffordd i Lyn ym 1867, ar hyd Rheilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru drwy Abermo a Chricieth a chafodd ei hymgorffori gan Reilffyrdd y Cambrian yn yr un flwyddyn. Cyrhaeddodd y llinell derfynell ym Mhwllheli ym 1869. Roedd cyffordd yn Afon Wen, chwe milltir i’r dwyrain o Bwllheli, yn mynd â llinell gangen i’r gogledd ar hyd Rheilffordd Sir Gaernarfon (LNWR yn ddiweddarach). Roedd y derfynell wreiddiol ym Mhwllheli ym mhen dwyreiniol yr harbwr. Ar ôl adennill tir yn rhan ogleddol yr harbwr roedd modd ymestyn y trac i safle presennol yr orsaf ym mhen gorllewinol y Pwll, ym 1909. Am gyfnod byr, rhwng 1896 a 1927, bu ceffylau’n tynnu tramiau o ardal y West End ym Mhwllheli i Lanbedrog, yn bennaf ar gyfer ymwelwyr a oedd yn awyddus i ymweld â Llanbedrog. Caewyd cangen Afon Wen yn ystod cyfnod Beecham ym 1965.

Yn niwedd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif, gwnaethpwyd gwelliannau sylweddol i’r ffyrdd. Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif yn fwyaf arbennig, gwnaethpwyd mwy a mwy o welliannau i’r ffyrdd gan fod mwy o draffig yn eu defnyddio. Ond yr un oedd y prif ffyrdd at ei gilydd. Mae’r A499 bellach yn dilyn ffordd dyrpeg y 18fed ganrif o Lanaelhaearn i Bwllheli ac yn mynd yn ei blaen tua’r de i Lanbedrog ac Abersoch, gan adlewyrchu datblygiad sylweddol twristiaeth yn y rhan honno o’r penrhyn. Mae ffordd dyrpeg Madocks o Bwllheli i Forfa Nefyn yn cael ei dilyn gan yr A497. Y ffordd dyrpeg o Chwilog i Forfa Nefyn, sy’n croesi’r ffordd o Lanaelhaearn i Bwllheli yn y Ffôr yw’r B4345 erbyn hyn, ac mae’n dal yn llwybr traws gwlad pwysig. Mae’r B4417 yn dilyn arfordir y gorllewin a llwybr hynafol y pererinion i’r de cyn belled â Llangwnnadl, gan ymuno â’r B4413 ym Mhen-y-groeslon. Y B4413 bellach yw’r prif lwybr i’r de drwy ganol de Llyn i Aberdaron, ac mae’n croesi cyn rostir gwlyb Rhoshirwaun. Erys nifer fawr o ffyrdd troellog, di-ddosbarth, a chul yn aml ym mhob rhan o’r penrhyn.

Trefi â gwreiddiau masnachol

Mae dwy dref yn yr ardal dirwedd, sef Nefyn a Phwllheli. Mae gan y ddwy wreiddiau hynafol gan mai yno yr oedd y maerdrefi brenhinol dan y Tywysogion yng nghymydau Dinllaen ac Afloegion. Nid oedd y statws hwn ynddo’i hun yn ddigon i ganolfan drefol ddatblygu ar y safle, ond â chryn botensial masnachol mewn lleoliadau arfordirol â phorthladdoedd da daeth Nefyn a Phwllheli yn fwrdeistrefi cyn i Wynedd gael ei gorchfygu ym 1283. Sefydlwyd y naill a’r llall fel bwrdeistrefi rhydd yng nghanol y 14eg ganrif. Nefyn oedd y dref fwyaf poblog a phroffidiol yn wreiddiol, ond tyfodd Pwllheli yn ystod yr 17eg ganrif, ac erbyn diwedd y 18fed ganrif gellid disgrifio’r fwrdeistref fel ‘y dref orau yn y sir’. Yn ogystal â’r ffeiriau a’r marchnadoedd, adeiladwyd dros 400 o longau yn iardiau llongau Pwllheli ar lan y Pwll yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Daeth twristiaid i’r ardal yn sgîl dyfodiad y rheilffordd ym 1869 a gwelwyd cynnydd mewn twristiaeth o’r 1890au ymlaen.

Pentrefi â gwreiddiau eglwysig

Ceir arwyddion bod pentrefi a chymunedau Llannor, Llaniestyn ac Abererch wedi bod yn gymunedau ‘clas’ lled-fynachaidd cyn y 13eg ganrif, ond erbyn y 14eg ganrif roedd Llaniestyn ac Abererch wedi dod yn rhan o ddaliadaeth Esgob Bangor. Ym mhob achos, mae pentref cnewyllol wedi datblygu o amgylch yr eglwys. Mae adeiladau sy’n dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif wedi goroesi yn agos at eglwysi Llaniestyn ac Abererch, ac mae’r rhain yn rhoi cymeriad arbennig i’r pentrefi. Mae pentrefi cnewyllol hefyd ym Mryncroes a Thudweiliog, dwy is-eglwys a oedd yn gysylltiedig ag Enlli, gyda’r eglwys yn ganolbwynt iddynt. Mae eglwys Tudweiliog, fodd bynnag, wedi datblygu i’w maint presennol oherwydd ei chysylltiad â’r llwybr pwysig o Nefyn, i’r de i Aberdaron (B4417).



Abererch

Mae Aberdaron yn enghraifft arall o bentref a ddatblygodd fel cnewyllyn o amgylch eglwys bwysig, ond roedd y pentref yn dal yn fach tan ganol y 19eg ganrif er ei botensial ar gyfer pysgota, mynediad i’r môr ac angorfa ddiogel. Ehangodd cymuned Aberdaron yn yr ugeinfed ganrif ar hyd y ddwy ffordd sy’n cydgyfarfod yn y bae i gynnwys dros 100 o dai preswyl. Mae llawer o’r tai hyn yn dai modern, mawr, arddull byngalo, ond mae craidd y pentref yn cadw’i gymeriad arfordirol o hyd a cheir nifer o adeiladau o’r 19eg ganrif.

Yr eglwys yw canolbwynt pentrefi Llangian a Llanengan. Mae’r ddau’n bentrefi hynafol iawn. Roedd Llangian yn bentrefan, hynny yw, cnewyllyn anheddiad yn nhrefgordd Llangian yn y Canol Oesoedd, ond nid yw wedi tyfu llawer ers hynny. Mae Llanengan wedi ehangu ychydig, a hynny i raddau oherwydd cynnydd yn y boblogaeth pan ailagorodd y gweithfeydd plwm yn ail hanner y 19eg ganrif.

Pentrefi diwydiannol

Mae’n bosibl bod canolbwynt y Rhiw ar un adeg ar y llethrau islaw’r eglwys, yn agos at safle Plas yn Rhiw. Tyfodd y pentref gwasgaredig presennol yn y cyfrwy rhwng tir uchel Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig. Roedd rhywfaint o dir comin y mynydd wedi’i lechfeddiannu yn yr 17eg ganrif, y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif cyn pasio Deddf Seneddol Cau Tir ym 1811. Arweiniodd y mwyngloddio am fanganîs islaw Clip y Gylfinir ar Fynydd y Rhiw at adeiladu tai ar gyfer gweithwyr diwydiannol ochr yn ochr â ffermydd traddodiadol. Arweiniodd y cynnydd yn y boblogaeth yn anorfod at adeiladu capeli: Nebo, ar randir yn perthyn i’r tir comin blaenorol, ac yna Pisgah a Than y Foel. Mae bythynnod unllawr a chroglofftydd yn dal yn elfen bwysig o’r stoc adeiladau yn y dirwedd bresennol, ochr yn ochr â thai o ddiwedd y 19eg ganrif a thai mwy diweddar.

Mae twf Llanaelhaearn ar derfyn gogleddol yr ardal dirwedd hon yn deillio o gyfuniad o amgylchiadau. Mae wedi’i leoli ar gyffordd yr A499 tuag arfordir y de ac i’r de-orllewin ar hyd y B4417 i Nefyn ac yn cyfeirio tua’r de. Yr eglwys oedd canolbwynt gwreiddiol y pentref, fel llawer o bentrefi eraill yn Llyn. Rhoddodd y ffordd dyrpeg i Bwllheli, a adeiladwyd yn niwedd y 18fed ganrif, â gwelliannau diweddarach, yn enwedig yn yr ugeinfed ganrif, hwb sylweddol i ddatblygiad y pentref. Fodd bynnag, roedd Llanaelhaearn yn cyflenwi gweithwyr ar gyfer y prif gyfnod cynhyrchu yn chwareli Trefor yn niwedd y 19eg ganrif.


Llithfaen

Mae Llithfaen a Phistyll hefyd yn bentrefi ar y B4417. Mae Pistyll yn hen gymuned ag eglwys ganoloesol bwysig ar silff arfordirol yn edrych allan dros Fôr Iwerddon. Mae pentref presennol Pistyll, fodd bynnag, yn bentrefan ochr ffordd wedi’i adeiladu yng nghanol y 19eg ganrif i ddarparu llety i weithwyr yn chwareli Ty Gwyn, a oedd newydd agor. Yn yr un modd, roedd Llithfaen, tan ddechrau’r 19eg ganrif, yn glwstwr o bedair fferm yn dwyn yr enw hwnnw, ac mae bron yn sicr mai gweddill pentrefan canoloesol Llithfaen yn nhrefgordd Trefgoed ydoedd. Roedd rhywfaint o dir comin Bwlch Mawr, ar yr Eifl, wedi’i lechfeddiannu’n barod. Daeth yr Amgaeadau Seneddol yn dilyn hynny, gosodwyd lleiniau ac adeiladwyd ychydig o dai ar ochr y ffordd. Pan agorwyd y chwareli ithfaen yn ail hanner y 19eg ganrif, tyfodd Llithfaen yn sylweddol. Ym 1890 roedd 90 o dai gydag ochr y ffordd, ynghyd â gwesty, tri chapel anghydffurfiol ac eglwys Anglicanaidd.

Roedd y chwarel ithfaen fwyaf rhwng yr Eifl a Nefyn yn cyflogi gweithwyr o bentref Trefor ar y gwastadedd arfordirol ar odre’r Eifl ei hun. Er bod modd dynodi bodolaeth flaenorol cydrannau o drefgordd ganoloesol Elernion, roedd Trefor yn bentref cwbl newydd o dai teras â chnewyllyn tynn, tri chapel anghydffurfiol ac eglwys yn cael ei chynnal gan y Welsh Granite Company ar gyfer gweithlu’r cwmni.

Ym mhen deheuol y penrhyn cyfunodd a thyfodd pentrefi Bwlchtocyn a Marchros unwaith eto o ddaliadaeth flaenorol pentrefannau canoloesol, a hynny yn Nhyddyn Talgoch yn fwyaf arbennig. Yr hyn a symbylodd y twf ym Marchros oedd y gweithfeydd plwm ym Mhenrhyn Du, yn niwedd y 19eg ganrif. Symudodd llawer o fwyngloddwyr i’r ardal, llawer ohonynt o Ddyfnaint a Chernyw. Mae Marchros yn dal i ehangu hyd heddiw fel cyrchfan wyliau a gwelir bythynnod o ddechrau’r 19eg ganrif, tai Fictoraidd sylweddol ac ystadau modern yn gymysg.


Pentrefi ochr ffordd


Tudweiliog

Ffyrdd da sy’n gyfrifol am greu a datblygu pentrefi’r Ffôr a Morfa Nefyn. Tyfodd y Ffôr ar gyffordd y ffordd dyrpeg sy’n mynd i’r de tua Phwllheli o Lanaelhaearn a llwybr gorllewin-dwyrain ffordd dyrpeg William Madocks o’r Traeth Mawr i Borthdinllaen, lle’r oedd yn croesi’r hen ffordd i’r de ar gyrion Nefyn.

Mae Efailnewydd a Rhydyclafdy hefyd yn bentrefi ochr ffordd. Mae’r naill a’r llall ar lwybr traws gwlad gorllewin-dwyrain, o Sarn a Botwnnog i Bwllheli. Hen lwybr y porthmyn oedd hwn ac roedd cyfleusterau yn y ddau bentref ar gyfer gwaith gofaint. Mae Rhydyclafdy ger pont gerrig bwysig sy’n croesi’r Gors Geirch. Mae Efailnewydd yn croesi cangen Pwllheli i Borthdinllaen o ffordd dyrpeg dechrau’r 19eg ganrif, yr A497 i Nefyn erbyn heddiw.

Mae gan Sarn Mellteyrn a Botwnnog ill dau wreiddiau eglwysig, fel is-eglwysi a oedd yn gysylltiedig â Chlynnog. Mae canolbwynt y ddau bentref, fodd bynnag, ychydig bellter oddi wrth yr eglwysi eu hunain. Mae’r un peth yn wir am Edern, lle’r oedd Esgob Bangor yn cynnal maenor a thiroedd demên. Mae’n siwr mai’r eglwysi oedd y canolbwynt gwreiddiol, ond yn ddiweddarach adeiladwyd anheddau yn nes at y ffyrdd. Yn Sarn, tyfodd clwstwr o dai, gefail gof, tafarndai a chapel o amgylch cyffordd a phont dros afon Soch.

Ym Motwnnog, ni throdd yr eglwys, a’r ysgol waddoledig gyfagos sy’n dyddio o ddechrau’r 17eg ganrif, yn ganolbwynt datblygiadau diweddarach. Adeiladwyd tai ar ochr ffordd Sarn (B4413) yn y 19eg ganrif, yn agos at efail ar ochr y ffordd - Efail Pont Y Gof. Mae tai diweddarach yn ymestyn tua’r dwyrain y ddwy ochr i’r ffordd erbyn heddiw.

Yn Edern ceir clwstwr o adeiladau o’r 19eg ganrif ar ochr ddeheuol mynwent gromliniog yr eglwys, gan gynnwys Ysgol Genedlaethol, a adeiladwyd ym 1845, a theras o bedwar ty deulawr o’r 19eg ganrif. Mae’r Rheithordy wedi’i droi’n westy erbyn heddiw. Saif ffermdy pwysig Penybryn, sy’n dyddio o’r 17eg ganrif, 350m i ffwrdd. Mae’r prif anheddiad presennol, fodd bynnag, o bobtu’r ffordd fawr sy’n arwain o Nefyn, i’r de i gyfeiriad Tudweiliog, ac ymlaen i Aberdaron. Mae’r anheddiad hwn yn ymestyn tua’r de-orllewin o’r felin ddwr a oedd yn malu yd ar afon Geirch, a cheir cnewyllyn eilaidd yn y Groesffordd, 300m ar hyd yr un ffordd, lle ceir capel anghydffurfiol o ddiwedd y 19eg ganrif.

Anheddiad ar dir comin wedi’i gau a phentrefi hapfasnachol
Canlyniad deddf Amgaeadau Seneddol a basiwyd ym 1808 yw Mynytho i raddau helaeth. Roedd llawer o dir wedi’i lechfeddiannu’n barod, ambell ddarn ers tro byd ac ambell ddarn ychydig cyn y Ddeddf. Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd yr hen dir comin wedi’i drawslunio gan leiniau a phadogau unionsyth ac roedd rhandiroedd wedi’u gosod. Adeiladwyd tua 100 o dai ym Mynytho. Daliwyd i adeiladu tai newydd, ond mae llawer o fythynnod unllawr o ddechrau’r 19eg ganrif, y rhan fwyaf wedi’u hadeiladu â cherrig llanw ac wedi’u toi â gwellt yn wreiddiol, wedi goroesi.

Yn dilyn yr Amgaead Seneddol yn Rhoshirwaun, a ddaeth yn ddeddf ym 1802 ac a weithredwyd ym 1814, adeiladwyd ffyrdd syth i groesi’r rhostir a diffiniwyd lleiniau a phadogau â chloddiau isel, â gwrychoedd ar eu pennau (ac yn ddiweddarach â physt a weiren). Gosodwyd lleiniau ac adeiladwyd tyddynnod. Ceir nifer o aneddiadau gwasgaredig: Pen-y-groeslon, lle mae tair ffordd yn cyfarfod, Rhydlios, a Hebron i’r gorllewin a’r gogledd-orllewin o ardal y Cau a Rhoshirwaun ar y terfyn deheuol. Mae capeli’n arwydd o gymunedau mewn aneddiadau â dosbarthiad gwasgaredig. Mae’r rhain yn ardaloedd lle mae nifer o fythynnod unllawr, bythynnod croglofft a thyddynnod o ddechrau’r 19eg ganrif a lle mae bythynnod waliau mwd sydd wedi goroesi i’w gweld o hyd.

Roedd cnewyllyn gwreiddiol Llanbedrog ger yr arfordir, yn agos at yr eglwys, yng nghysgod ochr ogleddol Mynydd Tir-y-cwmwd. Tua dechrau’r 19eg ganrif dechreuodd T P Jones Parry o Fadryn ddatblygu Pig Street (Ffordd Pedrog yn ddiweddarach) ar y tir uwch ymhellach oddi wrth y môr, a hynny tua’r un adeg ag yr oedd sôn am gau tiroedd comin Mynytho. Tyfodd y pentref yn araf, ond erbyn y 1840au roedd yno eisoes ddeg ar hugain o dai a dau gapel. Cynyddodd poblogaeth y pentref yn ystod ail hanner y ganrif ac adeiladwyd teras o ddeunaw o dai. Roedd y chwareli ithfaen ar Fynydd Tir-y-cwmwd wedi agor. Yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif gwelwyd twf y diwydiant ymwelwyr. Mae sawl elfen o ddatblygiad Llanbedrog wedi goroesi: bythynnod unllawr, ffermdy mewn llinell o ddechrau’r 19eg ganrif, tai teras o gyfnod diweddarach yn y 19eg ganrif a thai o ddiwedd Oes Fictoria.

Pentref twristiaid

Llond dwrn o adeiladau oedd yn Abersoch yn y 1790au. Un o’r rhain oedd Melin Soch, yn agos at yr aber. Bu rhywfaint o ddatblygu graddol ar drwyn Bennar drwy gydol hanner cyntaf y 19eg ganrif, ac ehangodd y pentref â dyfodiad y mwyngloddwyr i’r ardal, a’u hangen am lety, yn ail hanner y ganrif. Dechreuodd ymwelwyr ddod i’r ardal yn nechrau’r 20fed ganrif, ond tua diwedd yr 20fed ganrif, o ganlyniad i’r traeth a’r amgylchiadau hwylio da, y datblygodd Abersoch i fod yn gyrchfan hynod boblogaidd i ymwelwyr.


Abersoch

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Llyn

Diwydiant


Mynydd y Rhiw

Yn y 1950au clustnodwyd tyllau cloddio bas ym mhen gogleddol llethrau Mynydd y Rhiw fel canlyniad cloddio am siâl graen mân a ddefnyddid i wneud arfau, yn enwedig bwyeill, yn ystod y cyfnod Neolithig. Diffiniodd ymchwiliad pellach yn 2005 a 2006 ardal gloddio ehangach yn ymestyn am 400m. Awgrymodd gwaith dyddio radiocarbon fod y gwaith cloddio hwn yn digwydd yn ystod y pedwerydd a’r trydydd mileniwm CC. Mae’n bosibl mai’r broses hon o gloddio a chynhyrchu yw’r gweithgaredd diwydiannol cynharaf yn Llyn.

Penrhyn Du

Roedd pobl yn gwybod bod plwm ar drwyn Penrhyn Du ers dechrau’r 18fed ganrif o leiaf. Mapiwyd angorfeydd Ceiriad a Thudwal gan Lewis Morris rhwng 1737 a 1748. Nododd leoliad y gwaith plwm a chofnododd enw cilfach gyfagos - Porth y Plwm. Cofnododd hefyd fod gwythiennau plwm a chopr ym Mhenrhyn Du. Roedd y gwaith plwm yn gwneud elw da ar un adeg, ond yng ngeiriau Lewis Morris, ‘now lies under water, … recoverable with proper engines’. Ymddengys bod ymdrech wedi’i gwneud i ddraenio’r dwr gan ddefnyddio injan stêm Boulton a Watt ond roedd yn waith costus - ‘the expenses proved superior to the profits’ (Pennant, 1773, gol. John Rhys 1883, 368).

Dyma oedd gan un o syrfewyr Ystâd y Faenol i’w ddweud ym 1800 am Hen Dy, Tyddyn Talgoch, daliad ar drwyn Penrhyn Du: ‘the lands have suffered very much by the Mine Company of Penrhyn Du who sank several shafts in it and left them open, and the heaps of rubbish delved therefrom not trimmed or levelled’. Nododd Hyde Hall, ym 1810, yr arferid cloddio am fwynau rai blynyddoedd cyn hynny ond bod y gwaith wedi dod i ben gan nad oedd yn gost-effeithiol. Ym 1839 roedd atgof o’r gwaith cynharach mewn cae yn Hen Dy a oedd yn dal i gael ei alw’n Cae Chwimse (chwimsi = peiriant i godi dwr o waith mwyn).

Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif roedd y mwyngloddiau wedi agor eto. Gosodwyd injan o Gernyw yno yn y 1860au a chodwyd cwt injan. Erbyn y 1880au, roedd 240 o fwynwyr, naddwyr, golchwyr a gyrwyr injans yn gweithio yn y mwyngloddiau ar y penrhyn o Lanengan i Benrhyn Du. Roedd llawer o’r gweithwyr hyn wedi dod i Benrhyn Du o ardaloedd eraill. Roedd hanner y boblogaeth fwyngloddio’n dod o Gernyw a Dyfnaint.

Mynydd y Rhiw a Phenarfynydd

Darganfuwyd manganîs ym Mynydd y Rhiw yn y 1820au. Yn dilyn gwaith archwilio ehangwyd y gwaith i’r Nant ym Mhenarfynydd a Benallt islaw Clip y Gylfinir. Yn ystod y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif roedd y gweithgaredd a’r cynhyrchu’n ysbeidiol. Fodd bynnag, gellid defnyddio manganîs i galedu dur ac roedd galw mawr amdano yn ystod y ddau ryfel byd. Yn ystod y blynyddoedd mwyngloddio cynnar, defnyddid mulod i gario’r manganîs at y môr ym Mhorth Cadlan. Yn ystod y cyfnod diweddarach, pan oedd y galw mwyaf am fanganîs, roedd rhaffordd awyr yn cario’r mwyn uwchben y pentref at y môr ym Mhorth Neigwl. Defnyddid incleins yn y Nant.

Chwareli ithfaen rhwng Trefor a Nefyn

Mae ymwthiadau igneaidd sy’n diffinio cymeriad gweledol y dirwedd rhwng Trefor a Nefyn yn ymestyn mewn cadwyn o gopaon a brigiadau creigiau caled, o’r Eifl i Garn Boduan.


Trefor

Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif sefydlwyd chwareli lle’r oedd modd cael gafael ar ithfaen. Roedd rhai o’r chwareli hyn yn fach, ond roedd eraill yn llawer mwy. Agorwyd chwarel y Gwylwyr, i’r gogledd o Nefyn, ym 1835; chwarel Moel Ty Gwyn, Pistyll, tua chanol y ganrif; Carreg y Llam, Porth y Nant ym 1860 a’r Eifl yn Nhrefor ym 1880. Daeth y chwareli hyn a chwareli lleol eraill at ei gilydd i ffurfio’r Welsh Granite Company. Y gwaith mwyaf yn y blynyddoedd cynnar oedd gwneud sets, i’w gosod ar wyneb y ffyrdd mewn trefi a dinasoedd. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd y galw am sets wedi edwino a throdd y chwareli a oedd yn dal ar agor at gerrig mâl, fel cydran o darmacadam neu fel agreg ar gyfer concrid. Roedd y chwareli’n gweithio ar yr ochrau a oedd yn wynebu’r môr mewn ponciau neu silffoedd llorweddol. Roedd deg neu fwy o bonciau yn Nhrefor a chwech ym Mhorth y Nant. Roedd tramffyrdd ar oleddf yn cludo’r cynnyrch i’r traeth i’w allforio. Roedd perthynas agos rhwng y chwareli a phentrefi Trefor a Llithfaen, a Phistyll hefyd ar raddfa lai. Safai cant o dai mewn cnewyllyn clos o resi ger gweithdai’r chwarel ar waelod yr inclein yn Nhrefor. Anheddiad amaethyddol o bedair fferm a llond dwrn o lechfeddiannau ar y tir comin oedd Llithfaen ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Erbyn 1890 roedd yno 90 o dai, y rhan fwyaf yn gysylltiedig â chwarel Nant Gwrtheyrn. Roedd gan y Nant hefyd farics, siop a becws ar y safle tan i’r chwarel gau yn y 1950au.

Mynydd Tir-y-cwmwd

Dechreuwyd cloddio am yr ithfaen caled yn ail hanner y 19eg ganrif mewn tri lleoliad ar y pentir, sef Gwaith Trwyn, Gwaith Canol a chwarel lai ar yr ochr ddeheuol. Ar y dechrau, byddai cychod yn glanio ar y traeth, yn cael eu llwytho ac yn cael eu rhyddhau wedyn pan oedd hi’n benllanw, ond codwyd glanfeydd yn ddiweddarach. Y prif gynnyrch yn ystod y 19eg ganrif oedd sets. Caeodd y chwareli ym 1949.

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Llyn

 

Twristiaeth

Yn ôl Hyde Hall ym 1810, ‘Few travellers find their way to this secluded spot, which must indeed, if visited at all, be visited for its own sake; but I can scarcely credit what I have been assured, that I was the second person of the present generation who had thus reached it for the purpose of inspection’. Mae’r sylwebydd yn cyfeirio at Benrhyn Du ym Marchros, ddwy gilomedr i’r de o Abersoch ar hyd traeth tywodlyd hir yn agos at un o’r cyrchfannau gwyliau prysuraf ar y penrhyn.

Daeth twristiaeth i benrhyn Llyn gyda’r rheilffordd. Pwllheli oedd terfynell llinell y Cambrian Coast i’r gorllewin o Abermaw a Chricieth. Adeiladwyd yr orsaf ym 1869 a chafodd y llinell ei hymestyn ychydig ymhellach i’r gorllewin i ochr arall yr harbwr ym 1909 i ddarparu gwell mynediad i’r dref a’r datblygiadau a oedd yn cael eu gwneud yn y West End. Ym 1890, aeth Solomon Andrews, entrepreneur o Gaerdydd, ati i ddatblygu’r bar tywod ar ochr orllewinol y dref fel canolfan wyliau ar lan y môr, yn cynnwys gwesty, ystafelloedd aros, promenâd a chyfleusterau eraill. Prynodd Andrews hefyd dy Gothig Fictoraidd Plas Glyn y Weddw, a oedd wedi’i adeiladu ar gyfer y Fonesig waddolog Elizabeth Love Jones Parry gan y pensaer Henry Kennedy. Rhan o weledigaeth Solomon Andrews oedd defnyddio’r ty fel canolfan gelfyddydol a lle i ddarparu adloniant i bobl leol a phobl ar eu gwyliau. I’r perwyl hwn, cynlluniodd ac adeiladodd dramffordd ceffyl i gludo ymwelwyr o’r West End ym Mhwllheli i Lanbedrog. Roedd y dramffordd yn dal i gael ei defnyddio tan 1927.



Pwllheli

Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, roedd yr ymwelwyr yn dechrau dod ymhellach ar hyd yr arfordir i Abersoch. Roedd arfordir y de’n dechrau gweld arwyddion cyntaf twf mewn twristiaeth. Fodd bynnag, yn ail hanner yr 20fed ganrif y datblygodd Abersoch i fod yn gyrchfan hynod boblogaidd i ymwelwyr. Roedd Abersoch yn dal yn bentref bach â thua 50 o dai ar ochr ddeheuol yr aber yn y 1890au. O ganlyniad i’r traeth godidog ac amgylchiadau hwylio da, ehangodd Abersoch y tu hwnt i bob rheswm yn yr 20fed ganrif, a bellach mae tua 500 o dai ar ochr ddeheuol yr afon a 100 arall ar yr ochr ogleddol.

Erbyn heddiw, twristiaeth yw un o’r prif alwedigaethau ar hyd yr arfordir o Bwllheli i Lanbedrog, Abersoch a Marchros. Ceir cyrsiau golff a thraethau tywod, llawer o chalets a nifer o feysydd carafanau.

Ar yr arfordir gogleddol bu’n rhaid i dwristiaeth aros tan ddyfodiad y cerbyd modur. Er hynny, darparwyd ar gyfer gwyliau ffasiynol ar lan y môr yn Nefyn â datblygiadau newydd yn union i’r gogledd o’r dref ac ym Morfa Nefyn a Phorthdinllaen. Adeiladwyd tai mewn arddull fila yn agos at y môr, rhwng y dref a glan y môr. Sefydlwyd clwb golff ym 1907, ac mae rhan ohono’n ymestyn ar hyd pentir Porthdinllaen. Adeiladwyd Gwesty’r Nanhoron Arms ym 1914 ar gyfer y fasnach wyliau.

Ymhellach i’r de, mae llawer o feysydd carafannau a gwersylla ar hyd yr arfordir gorllewinol o Borth Colmon a Phenllech i Borthdinllaen a phentref Edern. Nid yw’r rhain yn fawr iawn, ac nid ydynt mor grynodedig â’r meysydd carafanau a geir mewn rhai mannau ar arfordir y de.

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Llyn

 

Tirweddau diwylliannol

Mewn asesiad o gymeriad tirwedd, a chymeriad hanesyddol y tirwedd yn fwy penodol, bernir weithiau ei bod yn briodol ystyried gwaith artistiaid a llenorion fel thema gysylltiadol. Mae'r astudiaeth hon yn gwahaniaethu rhwng priodoleddau diwylliannol sy'n cymryd sylw o'r dirwedd, ond nad ydynt yn dylanwadu arni nac yn ei newid, a'r priodoleddau hynny sy'n newid neu'n cael effaith ar y dirwedd, ac sy'n fwy perthnasol i asesiad o'r fath. Enghreifftiau o'r olaf yw mudiadau diwylliannol sy'n newid cymeriad y dirwedd yn sylweddol neu'n rhoi cymeriad penodol ac adnabyddadwy iddi.

Yn Llyn, gellid ystyried cydgrynhoi ystadau yn nwylo'r bonedd yn ffenomen ddiwylliannol ar lawer cyfrif. O ddechrau'r 17eg ganrif, roedd datblygiadau newydd mewn pensaernïaeth yn cael eu cymhwyso yng nghraidd demenau'r bonedd. Roedd arddulliau clasurol, yn deillio o brototeipiau'r Dadeni, yn arwydd o ymadael â ffurfiau canoloesol ac is-ganoloesol ac, ar lefel ficro, roeddent yn ychwanegu at y dirwedd ac yn rhoi cymeriad iddi. Ar lefel arall, erbyn diwedd y 18fed ganrif, gellid gweld gwaith plannu ymarferol ac addurniadol ar ddemenau'r bonedd mewn tirwedd a oedd fel arall heb goed ar y cyfan. Yr un pryd, mewn oes o welliannau, trawsnewidiodd datblygiadau mewn arferion amaethyddol, dan arweiniad y bonedd a oedd yn gweithredu fel landlordiaid, batrwm y dirwedd mewn sawl ardal.

Gall mudiadau crefyddol fod yn ymenyddol neu'n athronyddol. Er hynny, maent wedi gadael eu hôl ar y dirwedd. O'r 12fed ganrif ymlaen o leiaf, pan mae eglwysi cerrig cynnar yn ymddangos am y tro cyntaf, y rhain yw'r adeiladau mwyaf sylweddol ac arloesol o safbwynt pensaernïol y ceir tystiolaeth ohonynt yn nhirwedd Llyn, cyn cyfnod diweddarach y 15fed ganrif a'r 16eg ganrif.

Erbyn diwedd y 18fed ganrif a thrwy'r 19eg ganrif cydiodd Anghydffurfiaeth yn Llyn. Adwaith anghydffurfiol i brosesau crefydd sefydledig ydoedd. Ar y dechrau, adeiladau diaddurn, tebyg i ysguboriau, oedd tai cwrdd yr anghydffurfwyr, yn rhannol gan fod yr ystafelloedd a oedd ar gael yn rhai ymarferol ar y cyfan, ac yn rhannol fel mater o egwyddor. Wrth i'r cynulleidfaoedd anghydffurfiol dyfu roedd angen capeli mwy. Ymbellhasant eu hunain oddi wrth bensaernïaeth draddodiadol yr eglwys sefydledig, gan ffafrio, yn gyffredinol, ddewis lliniarol yn ôl pob golwg o fotiffau clasurol. Yn ystod y 19eg ganrif roedd y cynulleidfaoedd anghydffurfiol yn llawer iawn mwy niferus nag aelodau'r Eglwys Anglicanaidd, ac roedd gan lawer o gymunedau, hyd yn oed rhai gweddol fach, dri chapel, a oedd yn rhoi cymeriad penodol a nodedig iawn i dirwedd trefi a phentrefi.

Gwelwyd ffyniant diwydiannol tua diwedd y 19eg ganrif, wedi'i leoli'n bennaf o amgylch y chwareli cerrig rhwng yr Eifl a Mynydd y Gwylwyr, ger Nefyn, ac ym Mynydd Tir-y-cwmwd yn Llanbedrog, a'r gwaith plwm yn Llanengan a Phenrhyn Du, Marchros. Cynhyrchodd y diwydiannau hyn bentrefi diwydiannol o dai teras, â chnewyllyn clos yn aml ar gyfer y gweithlu, yn Nhrefor, Llithfaen, Pistyll, Marchros a Llanbedrog. Mae patrwm nodedig i'r pentrefi hyn, ac maent yn hollol wahanol i gymeriad gwledig ac amaethyddol gan mwyaf dechrau'r 19eg ganrif.

Yn ôl i fap Tirwedd Hanesyddol Llyn


 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol