English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 21 Y Gwastadedd Arfordirol Gorllewinol o Langwnnadl i Borthdinllaen


Porth Dinllaen


Llangwnnadl


Porthdinllaen


Tudweiliog

Cefndir hanesyddol

Yr arwyddion cynharaf o weithgaredd dynol yn yr ardal gymeriad hon yw’r mannau lle darganfuwyd arf carreg yng ngwddf Porthdinllaen a gwasgariad fflint a ffynhonnell fflint caregan ar y morlin bob ochr i Aber Geirch, i’r de-orllewin o Borthdinllaen (PRN 2210, 7094, 7093). Mae tomen gladdu bridd bosibl na ellir ei phriodoli’n sicr ger aber afon Geirch (PRN 2211) a darganfuwyd palstaf efydd o’r Oes Efydd Ddiweddar ger Porth Ysgraig (PRN 5226). Saif maen hir o’r Oes Efydd, neu garreg i wartheg rwbio yn ei herbyn efallai, ger y Groesffordd, i’r gorllewin o Edern (PRN 422). Saif maen hir arall, 3m o uchder, ger ochr y ffordd, i’r de-orllewin o Bont Llangwnnadl (PRN 2778).

Yn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddar amddiffynnid pentir Porth Dinllaen gan ddau glawdd pridd a oedd yn croesi yn y rhan gulaf bron o’r pentir, tua hanner ffordd ar ei hyd, ac mewn man lle’r oedd y tir yn gostwng ychydig cyn codi eto tuag at y rhan o’r culdir sy’n nes at y môr. Roedd yr amddiffynfa ar y pentir yn cynnwys cyfuniad o ragfuriau wedi eu codi gan ddyn ac amddiffynfeydd naturiol y môr a gelltydd y môr. Yng Nghwmistir, ger y morlin, rhwng Edern a Thudweiliog, canfuwyd nod cnwd crwn yn ystod arolwg o’r awyr a gynhaliwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn 2006. Cadarnhaodd arolwg geoffisegol fodolaeth lloc ffosog â diamedr o 40m â chlawdd mewnol posibl. Mae maint yr amddiffynfa, y siâp crwn cywir a’r diffyg potensial amddiffynnol yn awgrymu y gallai ddynodi anheddiad nad oedd yn cael ei amddiffyn yn gryf o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar, neu y gallai fod yn lloc defodol o’r cyfnod Neolithig neu’r Oes Efydd Gynnar. Mae’r safle 340m i’r gogledd-orllewin o Gwmistir Uchaf.

Mae lloc amddiffynnol mwy argyhoeddiadol o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar wedi ei adnabod ym Mryn Rhydd, i’r de-orllewin o Edern, 125m i’r de o ffordd Aberdaron. Mae’n lloc deuglawdd, ac yn perthyn o bosibl i ddau is-gyfnod, gan fod tystiolaeth arolwg geoffisegol yn dangos bod cylchoedd cytiau wedi eu gosod ar leoliad y lloc mewnol.

Mae un ffynnon sanctaidd yn yr ardal gymeriad, sef Ffynnon Lleuddad. Roedd yn ffynnon iachaol, yr un mor effeithlon i ddyn ac anifail, heb eglwys gysylltiedig. Mae’r ffynnon ar derfyn gogleddol tir caeëdig Rhoshirwaun, i’r de-ddwyrain o dy Carrog, rhwng Llangwnnadl a Sarn Mellteyrn (Jones, 1954, 149, 152, PRN 3647).

O’r 13eg ganrif hyd y Diddymiad, roedd eglwysi Tudweiliog a Llangwnnadl, ag ychydig o dir, yn gysylltiedig ag Abaty Enlli. Roedd y naill a’r llall ar lwybr y pererinion i Lyn. Roedd gweddill trefgordd Llangwnnadl, fodd bynnag, yn nwylo Esgob Bangor. Yma, ym 1306, roedd saith tenant yn dal tua 30 acer o dir âr, yn rhydd. Roedd Tudweiliog yn bentrefan yn nhrefgordd Morfa yng nghwmwd Cymydmaen ac roedd yr abaty’n dal tir yno, gan gynnwys yr eglwys, a oedd wedi ei chysegru i Gwyfan Sant. Mae’r cofnod cyntaf o’r eglwys yn dyddio o ganol y 13eg ganrif ond mae lle i amau bod iddi darddiad cynharach, fel eglwys glas o bosibl, yn enwedig gan ei bod wedi ei chysegru i Gwyfan Sant, ac oherwydd enwau’r caeau cysylltiedig, fel y gwelwn isod.

Adeilad cyfonglog plaen oedd yr eglwys gynnar yn Llangwnnadl. Yn ystod dechrau’r 16eg ganrif ychwanegwyd eil ogleddol ac eil ddeheuol at y rhan ganol a oedd yn bodoli’n barod, o’r un hyd a’r un mesuriadau. Roedd yr eiliau wedi eu cysylltu â chanol yr eglwys gan arcêd o dri bwa pedwar canolbwynt ar bob ochr. Mae ffenestri arddull sythlin mawr â phennau bwaog pedwar canolbwynt yn y ddau dalcen dwyreiniol. Mae’r bedyddfaen wythonglog o’r un cyfnod. Cynhelir y to gan gyplau trawstiau croes â chleddau bwaog. Gwnaethpwyd gwaith i atgyweirio ac adnewyddu’r eglwys ym 1850 gan Henry Kennedy. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys gosod rhai ffenestri newydd yn y waliau gogleddol, deheuol a gorllewinol.

I’r gogledd o Langwnnadl roedd trefgordd rydd-ddaliadol Penllech, a oedd yn cynnwys tri gwely. Roedd gan un o’r tri gwely ddwy felin iddynt hwy eu hunain ac roeddent yn malu eu blawd eu hunain. Mae’r dirwedd yn gymharol wastad ond mae’r gelltydd 20m uwchben y glannau ac yn cael eu cafnu gan ddyfnentydd sy’n gyrru’r afonydd. Roedd yn ofynnol i’r ddau wely arall fynd â’u hyd i felin yr arglwydd yn Neigwl, ar ochr arall y pentir bron.

Mae eglwys Penllech wedi ei chysegru i’r Santes Fair. Mae’r adeilad ar ffurf petryal plaen a dim ond gris i fyny sy’n gwahaniaethu’r gangell. Ailadeiladwyd y rhan fwyaf o’r eglwys yn y 1840au ond mae gwaith mwy hynafol wedi goroesi yn y pen dwyreiniol. Mae’r hen waliau o rwbel mewn bras gyrsiau ac mae tystiolaeth o ffenestri main a oedd yn goleuo’r gangell yn wreiddiol i’w gweld o hyd ynddynt.

Y tu draw i Benllech roedd pentrefan Tudweiliog. Mae’n rhaid bod eglwys Cwyfan Sant wedi bod yn ganolbwynt i’r gymuned hon erioed. Ym 1564 rhoddwyd tir yn Nhudweiliog i John ap Gruffydd ap David ap Madog o Fadryn - tir a oedd yn arfer bod yn rhan o ddaliadau Enlli - i’w ddal mewn ffi fferm gan John Wyn ap Hugh o Fodfel.

Mae enwau’r cydrannau’n ddiddorol: tenement o’r enw Hengwrt neu, yn lle hynny, y Cae Mawr, a oedd yn cynnwys Dryll Cerrig Llwydion; yr Hirdir Mawr; Erw’r Eglwys; Llain yr Abad; y Talarau Hiron a Llain dan y cae mawr. Mae’r caeau’n cyfeirio at diroedd âr meysydd agored; at yr eglwys; at abad, a allai fod yn gyfeiriad at gymuned glas flaenorol a ‘Hengwrt’ anhysbys. Ailadeiladwyd eglwys Cwyfan Sant, Tudweiliog, yn gyfan gwbl ym 1849 gan y pensaer George Gilbert Scott.

Roedd trefgordd ganoloesol Hirdref wedi ei lleoli yn y dirwedd i’r gogledd-orllewin o Dudweiliog ac mae’n cael ei dynodi heddiw gan bedair fferm ag enwau perthynol, bob ochr i ffordd Aberdaron. Y ffermydd yw Hirdre Fawr, Hirdre Ganol, Hirdre Uchaf a Hirdre Isaf. Mae ffermydd gwasgaredig ag enwau tebyg neu gysylltiedig yn un o nodweddion tirwedd y cyfnod ôl-ganoloesol ac yn dangos sut y cyfunwyd daliadau tenantiaid unigol blaenorol yn ddiweddarach mewn trefgorddau neu bentrefannau. Roedd Hirdref yn drefgordd yn y Canol Oesoedd. Roedd ei thenantiaid, dan ddaliadaeth tir cyfrif, yn dal demên neu ddaliadaeth ystâd â’r swyddogaeth benodol o amaethu tir yr arglwydd yn y drefgordd honno neu ddarparu rhyw wasanaeth arbennig yng nghyswllt gweithrediad y faerdref frenhinol, sef maerdref Nefyn yn yr achos hwn. Ym 1352 roedd Hirdref wedi rhoi’r gorau i dalu ei thollau ac roedd ei melin yn dadfeilio. Mae’n debyg mai diboblogi yn ystod y Pla Du oedd yn gyfrifol am hyn. Yn dilyn hynny gosodwyd y drefgordd ar drefniant ffi fferm. Ym 1350, ychydig cyn i asesiad treth newydd gael ei wneud, cymerodd Goronwy ap Llywelyn Du y brydles, am £4.

Roedd dwy drefgordd ganoloesol Nyffryn a Cherrig Cefni yn cael eu hystyried gyda’i gilydd ac maent wedi eu lleoli i’r de-ddwyrain o Hirdref ac i’r gogledd-ddwyrain o Frynodol. Roedd gan y ddwy drefgordd hyn bedair rhan. Mae dau wely, sef gwely Rhingylledd a gwely Mab Riodle, yn Nyffryn. Roedd y ddau dan ddaliadaeth gaeth tir gwelyog er y byddai’r dynodiad Rhingylledd fel arfer yn awgrymu bod gan un o’r prif swyddogion cymydol, sef y Rhingyll, ddaliadaeth yno. Roedd prydles ffi fferm ar yr ail wely ac roedd yn nwylo Syr Thomas Brereley yn y 1350au. Roedd y drydedd ran o Nyffryn yn cynnwys tua 30 acer o dir a oedd wedi ei roi, yn eithriadol o rydd, gan Lywelyn ap Gruffydd, cyn y goncwest, a’r unig rwymedigaeth a oedd ynghlwm wrth y tir hwnnw oedd y dylai’r tenantiaid fynd i ryfel y Tywysog ar gost y Tywysog ei hun. Mae pedwaredd ran y ddwy drefgordd hyn yng Ngherrig Cefni, ac mae’n cynnwys un gwely o dir caeth o’r enw gwely Ieuan ap Philip Foel. Unwaith eto, roedd y rhan hon yn nwylo Syr Thomas Brereley ym 1352.

Ym 1538 roedd Robert ap Gruffydd yn dal Nyffryn a Cherrig Cefni. Yn y flwyddyn honno hefyd trosglwyddodd Cefn Leisiog, parsel yn y ddwy drefgordd hynny, i John ap Gruffydd David. Ym 1571 rhoddodd Thomas Madryn o Fadryn, a oedd yn dal yr eiddo, Nyffryn ar brydles i Feredudd ap Thomas ap Robert. Ym 1576 prydleswyd tenementau yng Ngherrig Cefni gan Hugh ap Gruffydd ap John o Frynodol. Ac felly y cafodd Nyffryn a Cherrig Cefni, cyn drefgorddau caeth Tywysog Cymru a Choron Lloegr eu rhoi, eu prydlesu a’u rhyddhau yn y broses o grynhoi ystadau helaeth.

Mae Trellech ac Edern yn drefgorddau eglwysig gwahanol iawn o ran natur a chymeriad. Dywedir bod Trellech ‘yn naliadaeth Beuno Sant’. Hynny yw, roedd yn gymuned glas ar un adeg ac, fel y dengys y cysegriad i Feuno Sant, roedd yn gysylltiedig ag eglwys fawr Clynnog. Roedd Trellech yn malu yn Llannor, a oedd hefyd yn rhan o rwydwaith Clynnog. Roedd dwy fferm yn dwyn yr enw Pentre-llech 1km i’r de-orllewin o’r eglwys yn Edern, ac mae’n debyg bod enwau’r ffermydd hyn yn dynodi lleoliad y drefgordd.

Edern
Mae Edern yn drefgordd gaeth fawr yn nwylo Esgob Bangor. Roedd 42 o denantiaid mewn dau wely yn Edern yn nechrau’r 14eg ganrif, yn amaethu tua 60 acer o dir âr. Yn ychwanegol at hyn, roedd pum adfocari (tenantiaid rhent arian parod a ddygwyd i mewn) yn gweithio yn y drefgordd. Roedd yno hefyd of, Adda, a oedd yn dal mesiwais ac un acer o dir rhydd ac a oedd yn gwneud y darnau haearn i’r felin a’r erydr. Roedd hefyd yn pedoli anifeiliaid yr Esgob pan fyddent yn dod i bori. Roedd Edern yn un o nifer o faenorau a gynhelid gan yr Esgob. Roedd gan yr Esgob dy yno, â chwrtil, hanner can acer o dir demên a hanner acer o ddôl. Roedd gan Edern hefyd felin ddwr i falu yd o fewn ystâd yr Arglwydd Esgob. Mae’n ddigon posibl bod y felin ganoloesol wedi ei lleoli yn y fan lle safai ar ddechrau’r 19eg ganrif, a lle mae’n dal i sefyll, ar ochr ogleddol afon Geirch ar safle presennol pont ffordd Aberdaron lle mae craidd mwy diweddar pentref Edern wedi datblygu.

Mae’n debygol iawn bod cnewyllyn pentref gwreiddiol Edern yn agos at yr eglwys. Mae’r fynwent yn is-gylchog. Ailadeiladwyd yr eglwys ym 1868 ar sylfeini gwreiddiol cynllun croesffurf o ganol eglwys a thranseptau, â changell yn ymestyn tua’r dwyrain. Mae fferm o’r enw Ty’n Llan ger yr eglwys ac ar un adeg roedd y rheithordy 300m i’r de-ddwyrain. Mae bellach yn westy. Mae clwstwr o leiniau bychain ar hyd cylchyn allanol yr eglwys, ac yno o 1845 ymlaen yr oedd ysgol eglwys; hen adeilad unllawr o ddechrau’r 19eg ganrif neu ddiwedd y 18fed ganrif o bosibl a theras o bedwar ty deulawr â lleiniau hir yn y cefn ar gyfer gerddi. Mae’r tai teras wedi eu hadeiladu â rwbel, ac wedi eu bras rendro. Mae’r ty unllawr o rwbel ar hap. Mae ty’r ysgol o rwbel, mewn bras gyrsiau. Mae gan gyntedd ymestynnol feini bwa wedi eu sgwario ar gyfer bwa pedwar canolbwynt. Mae gan gorneli’r cyntedd a’r prif adeilad fwtresi grisiog, wedi eu gosod yn groes-gongl. Mae bargodfaen ymestynnol wedi ei ddatgymalu ar lefel y bondo. Mae cwrs isaf tua 500m uwchben lefel y llawr yn cael ei gario o amgylch y cyntedd o’r prif adeilad.

Erbyn tua 1840 roedd dwsin o adeiladau wedi ymddangos ar hyd y ffordd o’r de i’r gorllewin ac i fyny’r allt o afon Geirch. Safai’r felin ar yr ochr arall ac roedd dau adeilad gerllaw. Tua 350m i’r de-orllewin, ar hyd ffordd Aberdaron, roedd dwsin yn rhagor o adeiladau wedi eu codi o amgylch y groesffordd. Roedd un ffordd yn arwain at y tiroedd amaethyddol arfordirol; roedd y ffordd ddeheuol yn arwain i Gefn Edern a Glanrhyd. Roedd y gymuned fechan ar y groesffordd eisoes yn cael ei galw’n Groesffordd erbyn diwedd y 18fed ganrif ac roedd capel y Methodistiaid Calfinaidd wedi ei adeiladu yno ym 1780. Roedd grwp arall o adeiladau oddeutu 400m ar hyd y lôn ddeheuol, a oedd yn cynnwys fferm Bryn Goleu a ffermdy Pen y Bryn. Mae llwybr troed ar draws y caeau’n cysylltu Pen y Bryn a’r eglwys.

Mae Pen y Bryn yn dy pwysig, wedi ei adeiladu o glogfeini bychain, mewn cyrsiau, ag un llawr a hanner, a chyrn simnai ym mhob talcen, yn nhrwch y waliau. Goleuir ystafelloedd y llawr uchaf gan ffenestri dormer yn y talcen, ac mae’r ffenestri’n gostwng yn is na’r bondo. Mae gofod atig bychan uwchben. Mae’r to wedi ei doi â llechi bychain ac mae’n cael ei gynnal gan gyplau trawstiau croes. Mae’r trawstiau croes yn fwaog ac wedi eu pegio.

Ceir maen dyddio - ‘I I M 1790 Os barnasoch fy môd i yn ffyddlawn i’r Arglwydd deuwch i mewn i’m ty – Actau XVI, 15’. Mae’r garreg yn coffau John a Mary Jones. Roedd John Jones (1761-1822) yn bregethwr gyda’r Methodistiaid Calfinaidd a phriododd Mary Williams, aeres Pen y Bryn (Dictionary of National Biography, t 476, er na all y briodas a dyfynnir yno fod yn gywir). Mae’r trawstiau yn nenfwd y llawr gwaelod yn awgrymu dyddiad yn ystod diwedd yr 17eg ganrif.

Mae’r gwastadedd arfordirol gorllewinol yn wledig gan mwyaf. Mae’r ffermydd yn wasgaredig ac mae’r unig gasgliadau sylweddol o boblogaeth i’w gweld ym mhentrefi Tudweiliog ac Edern. Yng nghanol y 19eg ganrif roedd hanner y boblogaeth weithio yn yr ardal gymeriad hon yn ffermwyr neu weithwyr fferm. Roedd ugain y cant yn weision neu forynion ty ac roedd deg y cant yn llafurwyr cyffredinol. Roedd yno felinau, pedair gefail gof, wyth saer a saith o nyddwyr a gwehyddion, a rhai â chrefft neu alwedigaeth arall hefyd. Roedd llawer o eitemau’n cael eu cynhyrchu’n lleol; roedd yno winyddesau, cryddion, dilledyddion a hetwyr, ond nid oedd hanner cymaint o’r rhain ag a oedd o lafurwyr cyffredinol. Roedd gan bump y cant o’r boblogaeth weithio gysylltiad uniongyrchol o ryw fath â’r môr a’r morlin, ac o ystyried y lleoliad, mae’n syndod nad oedd llawer mwy. Roedd y rhain yn cynnwys llongwyr, seiri llongau a gwneuthurwyr hwyliau. Nid oedd mwy na llond dwrn o siopau ac nid oedd fawr mwy o fitelwyr.

Roedd 94 fferm yn yr ardal gymeriad, ond roedd maint a dosbarthiad y ffermydd hyn yn amrywio. Yn Nhudweiliog a Phenllech, yn y drefn honno, roedd 80% a 70% o’r boblogaeth weithio yn cael eu cyflogi ar ffermydd. Roedd 14 fferm yn Nhudweiliog, ac roedd tair ohonynt yn amaethu dros 100 acer. Roedd gan Hirdre Fawr 300 acer, Hirdre 240 acer a Hirdre Ganol 100 acer, tiroedd wedi eu cyfuno, yn ôl pob tebyg, yn sgil rhannu, prydlesu a gwerthu yn y diwedd yr hen drefgordd gaeth ganoloesol. Roedd 27 fferm ym Mhenllech, ac roedd saith ohonynt yn ffermydd â thros 100 acer o dir. Roedd gan Blasymhenllech 400 acer, Penllech Uchaf 108 acer a Phenllech Bach 100 acer, adlais tebyg o’r daliadau canoloesol blaenorol. Roedd Llangwnnadl, a oedd â 31 o ffermydd, yn cynnwys pedair fferm a oedd â thros 100 acer o dir, gan gynnwys Plas Llangwnnadl, Trefgraig Plas a Threfgraig Bach. Y ffermydd mwyaf yn Edern oedd Fferm Portinllaen (Porthdinllaen) a oedd yn 400 acer a Chwmisdir Uchaf a Fferm Tan Llan a oedd tua 90 acer yr un.

Ar ddechrau’r 19eg ganrif cyflwynwyd cynllun a chynnig i adeiladu ffordd newydd ar draws Llyn o Feirionnydd a’r Traeth Mawr i Borthdinllaen, er mwyn sefydlu porthladd, fel cystadleuaeth i Gaergybi, neu fel dewis arall yn lle Caergybi, a chludo teithwyr dros Fôr Iwerddon i Ddulyn. Y bwriad oedd adeiladu porthladd newydd a phier. Y dyn y tu ôl i’r fenter hon oedd William Madocks, a gafodd Ddeddf Seneddol ym 1806 i ddechrau datblygu’r porthladd ym Mhorthdinllaen ac, ym 1807 i amgáu a draenio’r Traeth Mawr, adeiladu ffordd dros y morglawdd, neu’r cob, a chreu harbwr ym Mhorthmadog maes o law, wedi’i enwi ar ei ôl ef.

Roedd gwella’r system gyfathrebu yn elfen isadeileddol bwysig yng nghynllun Porthdinllaen. Ym 1803 gofynnwyd am Ddeddf Seneddol i atgyweirio’r ffyrdd presennol, a ddisgrifiwyd fel ‘narrow, circuitous…. incommodious’, ac i ledu a sythu’r cerbydffyrdd. Cynigiwyd y ddau drywydd, ac er gwaethaf anawsterau cynnal a chadw parhaus, adeiladwyd y ffyrdd. Roedd y ddau drywydd yn dechrau ym Mhorthdinllaen. Roedd y ffyrdd yn fforchio yn Nhan y Graig. Roedd un yn mynd tua’r de-ddwyrain i Bwllheli (yr A497 bresennol), drwy Efailnewydd; a’r ail yn mynd i’r dwyrain, drwy’r Ffôr ac ymlaen i Chwilog a Llanystumdwy. Roedd y ddwy ffordd yn cyfarfod eto yn Llanystumdwy ac yn mynd ymlaen i Gricieth gyda’r bwriad o ddargyfeirio unwaith eto, i fyny Nant Gwynant ac ymlaen i Fferi Bangor neu yn lle hynny ar draws y Traeth Mawr i’r Bala. (Porthdinllaen Turnpike Trust Act: George III, Mai 17, 1803; R T Pritchard, Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 1959. 87-98)

Porthdinllaen
Mae’r ffordd dyrpeg yn nodwedd amlwg o hyd yn nhirwedd Morfa Nefyn. Er hynny, ni wireddwyd cynllun y porthladd.

Roedd harbwr Porthdinllaen yn dal yn brysur. Roedd yn un o’r porthladdoedd mwyaf cysgodol a diogel rhag unrhyw beth ar wahân i wynt y gogledd-ddwyrain. Masnachu arfordirol oedd y prif ddiwydiant ym Mhorthdinllaen ers canrifoedd. Roedd mordeithiau pell yn cludo penwaig a moch wedi eu halltu i Iwerddon, Caer a Lerpwl. Cyflwynwyd stêm yn y 1830au a’r 40au ond llongau hwyliau oedd yn cael eu defnyddio fwyaf am y rhan helaeth o weddill y ganrif. Roedd rhwng 700 a 900 o longau’n dod i’r bae bob blwyddyn yn ystod y cyfnod hwn.

Roedd llond dwrn o adeiladau wedi bod ar y glannau yng nghysgod y pentir ers y 18fed ganrif o leiaf, gan gynnwys y rhai hynny a oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu llongau lleol, a physgota, y tollty a’r cytiau cychod. (A. Davidson ac R. Evans, 2008, Nefyn : Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Adroddiad 734). Roedd tair tafarn ar y draethlin yn y 19eg ganrif, sef Ty Coch, Tan yr Allt a’r White Hall yn dilyn cynlluniau Madocks.

Adeiladwyd y cwt bad achub cyntaf ym 1864 ac ailadeiladwyd y cwt cwch a’r llithrfa ym 1888 ar yr ochr ddwyreiniol, yn agos at ben y pentir. Ym 1925 aethpwyd ati i ymestyn y llithrfa a’r ty cwch, ar gyfer bad achub newydd ag injan. Mae’r llithrfa yn un o’r rhai hiraf sy’n cael ei defnyddio. Disgwylir y bydd bad achub newydd yn dod i Borthdinllaen yn 2010. (Gwybodaeth: Gorsaf Bad Achub Porthdinllaen).

Tudweiliog
Roedd Tudweiliog yn nechrau’r 19eg ganrif yn bentref bychan â llond dwrn o leiniau ty a gardd, ar ochr ffordd Aberdaron wrth gyffordd y lonydd i Frynodol a Chefnamwlch. Safai hen eglwys Cwyfan Sant, a’i heglwysty, ger cornel ffordd Brynodol. Adeiladwyd capel yr Annibynwyr, Capel Beersheba, yn niwedd y 1820au, ychydig i lawr y lôn i gyfeiriad Brynodol. Mae’r arddull yn debyg i ysgubor. Roedd ty’r gweinidog ynghlwm wrtho, mewn rhes, a chafodd ei ehangu yn ddiweddarach. Mae gwaith maen y capel a’r ty o rwbel ar hap, wedi ei bwyntio’n wastad. Roedd dau ddrws mawr, un ym mhob pen, a ffenestr yn y canol. Mae ty’r gweinidog a’r estyniad iddo yn adeilad un llawr a hanner ac mae ffenestri bychain sgwâr yn union o dan y bondo. Llechfeini heb eu naddu yw linteli pob un o’r agoriadau ar y llawr gwaelod.

Roedd Capel Methodistiaid Calfinaidd cynharach wedi ei sefydlu ym 1770, a’i ailadeiladu ym 1832, 270m i’r de o’r eglwys, ar ochr ffordd Aberdaron.

I’r gogledd o Dudweiliog, roedd pentrefan bychan wedi datblygu, o leiaf erbyn y 18fed ganrif a chryn dipyn yn gynharach mae’n debyg, yn Rhos y Llan, tua 1km o eglwys Cwyfan Sant ac yn agos at y morlin. Roedd tua pedwar ar bymtheg o dyddynnod neu grofftau o amgylch cyrion tir comin a thir diffaith rhwng afonydd a oedd yn draenio tua’r gorllewin i’r arfordir. Nid oedd y daliadau unigol yn fwy nag acer neu ddwy, ac eithrio Rhent, a oedd yn dal chwe acer. Nid oedd y tir wedi ei gau’n ffurfiol ond mae’n rhaid bod yr hyn sy’n ymddangos fel llechfeddiannu yn yr ardal hon wedi cael ei gymeradwyo’n dawel gan fod gan y tenantiaid yno landlord, sef Charles W G Wynne o Gefnamwlch yn yr achos hwn.

Ehangodd Tudweiliog yn ystod diwedd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Roedd ysgol, i’r gogledd o’r eglwys, a dwy dafarn ar hyd y ffordd fawr wedi eu hychwanegu yn niwedd y 19eg ganrif a gefail gof ym mhen de-orllewinol y pentref. Erbyn diwedd yr 20fed ganrif roedd tua dwsin o adeiladau ar hyd y ffordd i’r gogledd tua Nefyn a thair ystâd fechan, un i’r de o’r eglwys a dwy i’r de-orllewin o ganol y pentref ac ysgol a chae chwarae gyferbyn â chyffordd Cefnamwlch. Mae rhes o dai pâr a thai sengl ar ochr dde-ddwyreinol ffordd Aberdaron yn ymestyn y croniant o ddatblygiadau preswyl i’r cwm coediog bychan ym Mhenygraig, gan achosi i’r ddwy gymdogaeth gyfuno.

Ehangodd Edern hefyd yn yr 20fed ganrif gyda phedwar ar ddeg o dai’n cael eu codi ar ochr ogleddol ffordd Aberdaron yn ymestyn i’r de-orllewin o gyrion y pentref ychydig oddi ar y ffordd. Adeiladwyd y tai mewn dau neu efallai dri is-gyfnod. Mae’r rhai agosaf at y pentref yn cynnwys tri bloc o chwe thy pâr deulawr â thalcenni gwastad. Mae gan bedwar ohonynt gyntedd brics. Adeiladwyd yr wyth arall mewn dau floc o bedwar ty â thalcenni ymyl fain. Mae’r cyrn simnai wedi eu rendro ac mae’r waliau wedi eu chwipio â gro. Mae’r toeau wedi eu toi â llechi. Y Gerddi oedd enw’r datblygiad bychan hwn a Lôn Gerddi yw enw’r ffordd rhwng Edern a’r Groesffordd. Byddai’r term Gardd, neu Gerddi, mewn cyd-destun canoloesol yn cyfeirio at y lleiniau bach o dir a oedd yn gysylltiedig â thenementau pentrefan caeth o fewn maerdref neu ystâd faenorol. Tybed a ydym yn rhoi gormod o raff i’n dychymyg drwy dybio bod y dynodiad lleoliadol Gerddi, ym maerdref a thiroedd demên Esgob Bangor yn Llyn, yn Edern, wedi goroesi yn Lôn Gerddi a’r tai cyfagos, er mai tai diweddar ydynt.

Dyblodd canolbwynt yr anheddiad yn y Groesffordd o ran maint yn ystod dechrau’r 20fed ganrif ac mae’r ddwy gydran hyn, Edern a’r Groesffordd, bron ynghlwm wrth ei gilydd erbyn heddiw. Mae adeiladau fferm Ty’n Llan wedi tyfu yn ystod diwedd yr 20fed ganrif i fod yn bresenoldeb amlwg yng nghyd-destun yr eglwys a’r fynwent. Adeiladwyd ystâd o ddeuddeng ty deulawr yn gymharol ddiweddar 130m i’r de o’r eglwys ac mae maes carafanau mawr wedi ei sefydlu rhwng yr ystâd a Gwesty’r Woodlands, sef yr hen reithordy.

Yn ystod yr 20fed ganrif, wrth i dwristiaeth ddechrau ymledu drwy’r penrhyn, daeth Nefyn a Phorthdinllaen yn ganolfannau ymwelwyr. Sefydlwyd clwb golff ym 1907, ac mae rhan ohono’n ymestyn dros drwyn Porthdinllaen.

Mae llawer o feysydd carafanau a gwersylla yn yr ardal o gwmpas Porth Colmon a Phenllech Uchaf, ger yr arfordir ym Mhorth Gwylan a Phorthysgaden, ger Tudweiliog ac ym Mhorth Tywyn, yn nes i mewn i’r tir yn Hirdre Fawr, ar yr arfordir ym Mrynglowydd ac ar Fferm Porthdinllaen ac ym mhentref Edern. Nid ydynt yn rhai mawr iawn ac nid ydynt yn cynnwys cymaint o garafanau â’r meysydd carafanau sydd mewn rhai rhannau ar arfordir y de.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Tirwedd arfordirol, wastad, wledig ac amaethyddol gan mwyaf, yn cael ei rhannu gan gloddiau. Mae patrwm presennol y ffermydd a’r tirddaliadau, yn enwedig yn yr Hirdref, Trefgraig, Cwmistir a Phenllech, yn cynnwys arwyddion o gyfuno daliadau a grëwyd drwy ddarnio trefgorddau a phentrefannau canoloesol.
• Mae llwybr arfordirol y pererinion o Glynnog i Aberdaron yn mynd drwy gymunedau eglwysi Edern, Tudweiliog, Penllech a Llangwnnadl.
• Mae eglwys Llangwnnadl yn eglwys eithriadol o bwysig. Mae mewn ardal o gaeau hirgul a throellog, bach iawn, mewn gwrthgyferbyniad â chaeau eraill yr ardal gymeriad hon, sy’n fwy ar y cyfan, ac sydd â thystiolaeth o hyd o erddi meysydd agored blaenorol wedi eu hamgáu.
• Mae Edern yn bwysig oherwydd ei chysylltiadau blaenorol fel maenor a thiroedd demên Esgob Bangor yn Neoniaeth Llyn.
• Mae Porthdinllaen yn harbwr arfordirol pwysig ac yn bentir amlwg. Roedd yn cael ei amddiffyn gan wrthgloddiau yn yr Oes Haearn a chafodd ei hyrwyddo fel porthladd i gludo teithwyr i Ddulyn ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Terfyn gogledd-orllewinol yr ardal hon yw Bae Caernarfon. Y terfyn deheuol yw ardal y dyfarniad Amgáu ar ddechrau’r 19eg ganrif yn Rhoshirwaun. Mae’r terfyn de-ddwyreiniol rhwng y gyfuchlin 50m a 60m lle mae’r gwastadedd arfordirol isel yn dechrau codi’n serthach ym Mynydd Cefn Amwlch, ac, yng Nghefn Amwlch a’r codiad tir ar ochr ogleddol Llaniestyn yn Nyffryn. Mae’r terfyn gogledd-ddwyreiniol ym Morfa Nefyn a chyrion gogleddol y Gors Geirch.

Mae’r ardal gymeriad hon yn ardal wledig ac amaethyddol gan mwyaf, fel ardaloedd eraill yn Llyn, ond ni welodd yr un datblygiadau ag a welodd rhai ardaloedd eraill yn ail hanner y 19eg ganrif, lle’r oedd mwyngloddio’n darparu cyflogaeth amgen (yn Llanengan, er enghraifft), chwareli cerrig yn Llanaelhaearn a Phistyll yn denu gweithlu’r ardal honno a’r cynnydd mewn twristiaeth ar hyd arfordir y de o Bwllheli i Farchros yn ystod yr 20fed ganrif yn galw am wasanaethau i ymwelwyr.

Mae’r ffermydd yn wasgaredig, ac yn y 19eg ganrif, roedd nifer o ffermydd yn ffermio dros 100 acer. Mae’r caeau’n fawr. Ceir nifer o gaeau unionlin â therfynau mewn llinell syth. Er hynny, mae’r rhan fwyaf o’r caeau’n afreolaidd, ond bod eu hochrau wedi eu sythu. Mae’r caeau afreolaidd yn dangos bod parseli o leiniau llai wedi eu cyfuno. Y math mwyaf cyffredin o derfyn yw’r cloddiau sydd i’w gweld ym mhobman.

Mae eithriadau, a’r un mwyaf arwyddocaol yw ardal helaeth o Langwnnadl, ar yr ochr ddwyreiniol yn fwyaf arbennig, lle mae Llangwnnadl yn cwrdd â Phenllech. Mae ochrau crwm amlwg y caeau hyn ymhlith yr arwyddion gorau yn yr ardal gymeriad hon o fodolaeth gerddi canoloesol blaenorol mewn maes agored.

Mae’r llwybr ar hyd yr arfordir gorllewinol o Aberdaron i Glynnog yn dilyn llwybr pererinion a droediwyd gan lawer drwy Edern, Tudweiliog, Santes Fair, Penllech a Llangwnnadl. Ailadeiladwyd eglwys hynafol Beuno Sant yn Edern ym 1859 ar yr hen sylfeini. Mae’r safle wedi goroesi ac mae’r dystiolaeth ddogfennol o’r drefgordd esgobol ganoloesol a’r ganolfan faenorol yng nghantref a Deoniaeth Llyn yn rhoi cymeriad i’r rhan hon o’r dirwedd.

Roedd eglwys Cwyfan Sant ym mhentrefan Tudweiliog, ynghyd â darn bach o dir, yn perthyn i Abad Enlli. Ailadeiladwyd yr eglwys hon hefyd yn y 19eg ganrif. Mae tystiolaeth ddogfennol yn ymwneud â daliadau Enlli ar y tir mawr, ac enwau caeau atgofus yn fwyaf arbennig, yn bwysig er mwyn gwerthfawrogi pentref Tudweiliog yn ei dirwedd. Mae cymuned fechan Rhos y Llan yn grair amgaead anffurfiol neu lechfeddiannu tir diffaith neu dir comin, ond â chymeradwyaeth dawel gan y rhai hynny a allai ei roi, yn wahanol i’r brwydro caled a welwyd ag Amgaead Seneddol.

Ar lefel ficro, mae Capel Annibynwyr Beersheba, o ddechrau’r 19eg ganrif, yn rhoi cryn gymeriad i’r ardal, â’i arddull ddi-nod, a barhaodd i’r 20fed ganrif, mewn gwrthgyferbyniad ag eglwys y plwyf gerllaw.

Mae eglwys Gwynhoedl Sant yn Llangwnnadl yn eglwys bwysig iawn; oherwydd ei chysylltiad ag Enlli, er bod gweddill y drefgordd yn nwylo Esgob Bangor, ac oherwydd ei manylder helaeth ar ddechrau’r 16eg ganrif. Roedd yr eglwys unsiambr gynnar wedi ei haddurno â dwy eil ochr, i’r gogledd ac i’r de, oedd yn cael eu cysylltu gan dri bwa pedwar canolbwynt yn cael eu cynnal gan golofnau wythonglog. Mae’r arddull sythlin yn y ffenestri dwyreiniol, y drws deheuol a’r arcedau sydd ag arysgrifau arnynt, gan gynnwys dyddiad adeiladu, yn bwysig gan fod y dyddiad adeiladu’n rhoi meincnod i eglwysi eraill yn yr ardal.

Mae Porthdinllaen yn dirnod arfordirol amlwg. Mae hefyd yn hafan ddiogel i lawer o longau yn y dyfroedd arfordirol hyn. Mae’r pentir ei hun yn gaer bentir bwysig o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar. Mae’r tafarnau, y bythynnod a’r cytiau cychod ar y lan yn rhoi cymeriad i dirwedd a oedd cyn yr ugeinfed ganrif yn rhan o draddodiad adeiladu llongau Nefyn. Mae’r Whitehall Inn, a agorwyd gan William Madocks, er nad yw’n dafarn bellach, yn cyfrannu at droshaen arall o hanes Porthdinllaen yn y fenter na wireddwyd i ddatblygu porthladd cludo teithwyr i Ddulyn, i gystadlu â phorthladd Caergybi. Mae’r ffordd dyrpeg drwy Forfa Nefyn, wrth iddi agosáu at Borthdinllaen, yn un arall o gynhyrchion Madocks a’i gyfeillion.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol