Cefndir Hanesyddol
Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg, prynodd teulu'r Bulkeleys
o Baron Hill y rhan fwyaf o dir plwyfi Aber a Llanfairfechan.
Tan 1956, teulu'r Buckeleys oedd berchen y rhan fwyaf o Lanfairfechan
pan y'u gorfodwyd i werthu i Richard Luck, cyfreithiwr; ynghyd
â'r Platts o Fryn y Neuadd (gweler 2013 isod), gweddnewidiwyd
Llanfairfechan wrth i waith ailadeiladu'r plastai, ail-lunio'r
ffordd, adeiladu tai preswyl, eglwys Saesneg a gorsaf reilffordd
fynd rhagddo - er i gynllun i adeiladu dociau a phierau fethu.
Prif nodweddion tirweddau hanesyddol
Tref wyliau wedi'i chynllunio, rhodfa glan y m ô r
a siopau, arddull ‘Celf a Chrefft'
Mae Llanfairfechan yn debyg i Landudno, yn dreflun ystâd wedi'i
chynllunio sy'n cynnwys craidd cynharach. Ceir ymdeimlad o
hunaniaeth a chymeriad unigryw. Caiff y brif echelin de-orllewinol-
gogledd ddwyreiniol le blaenllaw. Y rhain yw'r ffordd bost
(yr A55 flaenorol), y ffordd osgoi fodern i'r gogledd a'r brif
lein reilffordd. Ar hyd y ffordd sy'n arwain o'r ffordd bost
yn y fan hon i'r traeth, mae yna siopau deniadol (er yn dlodaidd)
wedi'u hadeiladu mewn arddull ‘Celf a Chrefft'. Hefyd ceir
anheddau sylweddol a chanddynt erddi mawr sy'n dyddio o'r bedwaredd
ganrif ar bymtheg. Mae'n arwain at ddatblygiad rhodfa glan
môr nodweddiadol Gymreig sy'n cynnwys rhes o dai preswyl, caffi
ar y traeth, a phwll cychod hwylio model. Mae'r adeilad carreg
â thyrrau bychain yma, ‘Moranedd', gyda'i do llechi patrymog
yn nodwedd hyfryd. Mae'r eglwys fawr Anglicanaidd a chanddi
dair o eiliau ger y ffordd bost yn dirnod blaenllaw.
Pentre Uchaf yw canolbwynt y gymuned cyn-Platt. Mae'n cynnwys
adeiladau sy'n dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg
yn bennaf. Ymysg yr anheddau diweddarach y mae adeiladau amaethyddol
neu grefft bychain. Gwelir y dyddiad 1819 ar blât y bont. Tua'r
de-orllewin i Bentre Uchaf yn SH 683 743, ceir tai cymdeithasol
o'r ugeinfed ganrif, ac i'r dwyrain yn SH 684 749 ceir datblygiad
dolennog gan Herbert Luck North (1871-1941), pensaer lleol
‘Celf a Chrefft'. Mae'r tai yn gwbl nodweddiadol o'i arddull
- wedi'u gwyngalchu, ffensys y terfynau wedi'u gwneud o slabiau
llechi Arfon, a llechi chwarel brown-gwyrdd trawiadol Tal y
Fan at y toeau. Ceir enghreifftiau mewn mannau eraill ym Mhentre
Uchaf.
Mae adeiladau eraill wedi gwneud defnydd helaeth o garreg
Penmaenmawr. Nodwedd drawiadol yw'r cerrig cornel o fric felen
sy'n cydweddu â charreg Penmaenmawr.