Cefndir hanesyddol
Mae tirwedd eang llwyfandir Arfon yn cynnwys porfa wedi'i gwella'n
bennaf, a oedd yn arfer perthyn i dir y Faenol. Mae patrwm y
ffermdai a'r adeiladau allan sylweddol o'r bedwaredd ganrif ar
bymtheg yn nodweddiadol o'r ystâd. Mae olion aneddiadau cynhanesyddol
(cylchoedd cytiau a chaerau bychan) yma a thraw ar hyd y dirwedd,
fel arfer yng nghorneli'r caeau, ac mae patrwm cromlinog i rai
o'r caeau sy'n nodweddiadol o'r cyfnod hwn.
Prif nodweddion y dirwedd hanesyddol
Gwastatir isel, rhai olion archeolegol
Ardal eang o gymeriad gwahanol. Y nodweddion amlycaf yw'r caeau
amgaeedig mawr a'r ffermydd gwasgaredig. Mae'r rhan fwyaf o'r ffermdai
a'r adeiladau allan yn strwythurau cadarn o'r bedwaredd ganrif
ar bymtheg a godwyd gan yr ystâd. Mae nifer o'r adeiladau fferm
wedi eu trefnu ar gynllun cowt.