Cefndir hanesyddol
Cofnodwyd sawl anheddiad amgaeedig hwyr yn
yr ardal, ac mae natur patrwm y caeau (llociau afreolaidd eu
siâp â chloddiau o rwbel cerrig yn ffiniau iddynt
gyda linsiedi cryf) yn rhoi'r argraff o dirwedd a luniwyd yn
wreiddiol yn y cyfnod cynhanesyddol hwyr, gydag ychwanegiadau
o'r cyfnod ôl-ganoloesol o bosibl, ond cymharol ychydig
o ymyrraeth ddiweddar. Mae hon wedi bod yn ardal drawsnewid ar
y ffin rhwng yr ucheldiroedd a’r iseldiroedd trwy’r
oesoedd. Dwy fferm yn unig sydd yn yr ardal, y naill fel y llall
yn rhoi’r argraff ei fod yn rhan o lechfeddiannau ôl-ganoloesol
i ymyl anialdir y mynydd (gan ddefnyddio llechfeddiannau cynharach
tebyg o bosibl). Ni chafwyd unrhyw anheddu na gweithredu diweddar
ar wahân i’r gronfa ddwr anghydnaws o’r 20fed
ganrif a’r gwaith dwr.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Anheddiad a chyfundrefn caeau cynhanesyddol
hwyr, llechfeddiannu'r ymylon ucheldirol
Mae’r ardal hon hanner ffordd i fyny llethrau'r
bryniau rhwng ardaloedd 01 (tir pori wedi’i wella, llociau
o’r 19eg ganrif) ac 02 (tir heb ei wella i raddau helaeth).
Mae’n ddarn o dir sy’n gwbl wahanol i'r ddwy ardal,
yn bennaf oherwydd patrwm ei gaeau, y defnydd amaethyddol a wnaed
ohono a hanes. Llociau mawr, lled-grwn, afreolaidd eu siâp
sydd i’w gweld yma yn bennaf (ni welir yr un llinell syth
na wal gerrig a adeiladwyd yn ofalus) ac er na chofnodir ond
ychydig o aneddiadau cynhanesyddol, mae gwaith maes diweddar
yn awgrymu bod sawl un ar ôl i'w ddarganfod. O uwcholwg,
mae’r patrwm caeau cromlinog afreolaidd (a’r uchder
a’r lleoliad) yn awgrymu y gallai fod yn enghraifft o lechfeddiannu ôl-ganoloesol
ymylon y tir anial ucheldirol, ond mae llawer o ffiniau’r
caeau yn hawdd eu gweld, ac wedi’u ffurfio o gloddiau o
rwbel cerrig, wedi’u gwasgaru yn aml, ac yn annigonol i
gadw’r anifeiliaid i mewn (gweler y ffotograff). Mae llawer
ohonynt a linsiedi cryf, ac mae hyd at 1m o wahaniaeth yn eu
huchder rhwng y ddwy ochr. O’u cymharu ag ardaloedd eraill
yng Ngwynedd, mae’r rhain yn awgrymu bod llawer o’r
caeau yn rhai cynhanesyddol (o leiaf o ran eu tarddiad). Mae
sawl mân gwrs dwr yn rhedeg trwy’r ardal, a fyddai
wedi bod ar hyd yr amser yn dir amaethyddol gymharol gynhyrchiol
ond sydd wedi osgoi newidiadau modern. Mae rhai o’r caeau
wedi’u clirio (at ddibenion amaethyddol) tra bod eraill
yn parhau i fod yn llawn o gerrig a chlogfeini naturiol. Mae’r
ardal hon yn debyg o ran ei chymeriad i ardal 13.
Yn ôl i Nodweddion
Tirwedd Hanesyddol Ardudwy