Cefndir hanesyddol
Mae’n bosibl fod yr eglwys bresennol
yn Llandanwg, sydd yn union y tu ôl i’r traeth (ac
yn aml wedi ei lled-orchuddio â thywod) yn tarddu o’r
13eg ganrif, ac mae ganddi estyniad o’r 15fed ganrif. Mae
presenoldeb dwy garreg arysgrifenedig o’r 6ed ganrif, a
charreg ag arni groes endoredig yn awgrymu bod gweithredu yma
(ger aber afon Artro, sef prif afon Ardudwy) yn y cyfnod cynnar.
Felly hefyd y ffaith fod yr eglwys wedi ei chysegru i Sant Tanwg,
sant o Lydaw a ddaeth gyda Chadfan i Ynys Enlli, yn ôl
y traddodiad. Ceir sawl claddfan o’r 17eg a’r 18fed
ganrif ar wahanol lefelau yn y fynwent, sy’n awgrymu bod
y boblogaeth leol yn helaeth ar un adeg, ond rhoddwyd y gorau
i ddefnyddio’r yr eglwys yn rheolaidd yn 1841 pan godwyd
un newydd yn Harlech (ardal 31) lle roedd y boblogaeth ar y pryd
yn cynyddu. Ceir teras rhestredig o dri adeilad deulawr sy’n
ymddangos ar fap degwm 1842, y tybir eu bod yn dyddio o’r
18fed ganrif, a chlwstwr bychan o ffermydd ac adeiladau cysylltiedig
ger yr orsaf ar ochr ddwyreiniol y ffordd sy’n dyddio mae’n
debyg o ddiwedd y 18fed neu ddechrau’r 19eg ganrif (maent
yn amlwg yn hyn na'r rheilffordd). Ym 1867 y cwblhawyd rheilffordd
Arfordir y Cambrian sydd bellach yn hollti’r anheddiad,
ac o’r cyfnod hwn y dyddia'r orsaf. Wedi’r dyddiad
hwn yr ehangodd Llandanwg i lunio’r anheddiad glan môr
a’r cyrchfan gwyliau sydd yma heddiw, ac mae’r rhan
fwyaf o’r adeiladau o’r 19eg a’r 20fed ganrif
yn adlewyrchu hyn (er hyd heddiw nid yw’n lle mawr).
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Anheddiad gwyliau bychan o’r 19eg
a’r 20fed ganrif
Pery Llandanwg i fod yn anheddiad o ychydig
llai na rhyw gant o dai, ar fin yr arfordir islaw’r brif
ffordd fodern. Mae'r rheilffordd yn ei hollti, ac un o blith
dyrnaid bach yn unig o adeiladau annomestig yw'r orsaf: mae nifer
o siopau glan môr bychain sy’n gwasanaethu’r
fasnach dwristiaid yn yr haf yn unig, fwy neu lai, ond nid oes
unrhyw adeiladau ‘amwynder’ eraill ac mae’n
rhaid i bobl deithio i Harlech neu Lanbedr ar gyfer y rheiny.
Mae’r eglwys yn dyddio o’r canoloesoedd, ond mae’n
debyg bod yr adeiladau hynaf sydd wedi goroesi yn dyddio o’r
18fed ganrif (sef y teras rhestredig a’r adeiladau fferm
a grybwyllir uchod). Fel arall, ‘filas’ neu dai gwyliau
ar wahân yw’r adeiladau, pob un wedi ei godi ar ei
dir ei hun heb fod yn dilyn yr un patrwm, ar hyd ochr orllewinol
y ffordd (h.y. ar ochr y traeth) sy’n arwain i lawr o ffordd
brifwythiennol A496 i’r traeth (torrwyd hon yn wreiddiol
i gysylltu’r orsaf rheilffordd â Llanfair). Tai un-llawr
yn null tai gwyliau, ar amrywiaeth o gynlluniau yw’r rhan
fwyaf, â gerddi o'u cwmpas heb fawr o ôl datblygu
arnynt. Tai ar wahân ydynt yn bennaf – nid oes yma
stadau enfawr.
Yn ôl i Nodweddion
Tirwedd Hanesyddol Ardudwy