Cefndir hanesyddol
Mae’r ardal ucheldirol, lom hon yn cynnwys
sawl henebyn pwysig o’r cyfnod neolithig cynnar (gan gynnwys
Carneddau Hengwm). Er na ddarganfuwyd olion unrhyw weithgarwch
domestig o’r cyfnod hwn hyd yn hyn, mae'r potensial yn
enfawr (o ystyried y ffaith nad yw amaethyddiaeth ddiweddar wedi
effeithio fawr ar yr ardal) ac mae peth gwaith yn parhau (Johnson
a Roberts, 2001). Mae tystiolaeth sylweddol o anheddu yno yn
yr ail fileniwm CC, a chrynodiad pwysig o henebion angladdol
a defodol ar Fynydd Egryn. Mae llawer o archeoleg greiriol yma
ac amrywiaeth o henebion angladdol yn ogystal ag anheddiad a
chaeau o’r cyfnod cynhanesyddol diweddarach. Yn ôl
de Lewandowicz, mae’r anheddiad helaeth sy’n cynnwys
tai llwyfan a llociau cysylltiedig, ar ymyl orllewinol yr ardal
hon ar frig y llethr, yn dyddio o’r 16eg neu’r 17eg
ganrif, ac mae’n bosibl mai llechfeddiannu’r ymylon
ucheldirol oedd hyn. Fel arall nid oes anheddu diweddarach yn
yr ardal hon yn hysbys. Olion gwaith manganîs o’r
19eg ganrif yw mwyngloddiau Hafoty, ymhellach i fyny, ac i lawr
i'r de, ac mae waliau syth y caeau yn dyddio o tua’r un
cyfnod.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Archeoleg greiriol helaeth (henebion angladdol
a defodol cynhanesyddol cynnar, anheddiad ôl-ganoloesol),
waliau sychion o amgylch y caeau
Mae’r ardal hon yn estyn o ymyl isaf y
llethr (y mae ardal 01 oddi tani) sy’n rhedeg yn fras ar
hyd y gyfuchlin 200m, i fyny at grib cadwyn y mynyddoedd. Mae’r
tir yn llai ffrwythlon nag yn ardal 01, a brigiadau creigiog
sydd i’w gweld ar y rhan fwyaf o’r tir. Mae’n
debyg mai’r darnau hir o waliau sychion anferthol, y rhan
fwyaf ohonynt yn dyddio o’r 19eg ganrif yw’r nodweddion
amlycaf yn y dirwedd hanesyddol. Mae’r waliau yn torri
ar draws yr ardal mewn llinellau syth (weithiau hyd yn oed yn
torri ar draws nodweddion cynharach, megis Carneddau Hengwm).
Fodd bynnag, yr archeoleg greiriol helaeth sy’n cwmpasu’r
cyfnod o’r oes neolithig i’r cyfnod canoloesol diweddarach
yw’r agwedd bwysicaf ar yr ardal. Mae’r anheddiad
llwyfan ar ymyl Mynydd Egryn yn cwmpasu sawl erw, ac mae rhai
o'r safleoedd cynharach yn henebion mwy traddodiadol. Nid oes
unrhyw anheddiad modern yn yr ardal.
Yn ôl i Nodweddion
Tirwedd Hanesyddol Ardudwy