Beth ydych chi'n
wybod?
A oes gennych chi neu eich teulu unrhyw wybodaeth am beth
oedd pobl adref yn ei wneud i gefnogi'r Rhyfel? Rydym yn
benodol eisiau canfod lleoliadau lle y digwyddodd bethau:
pa dir a ddefnyddiwyd ar gyfer rhandiroedd yn y Rhyfel,
ymhle cynhaliwyd y cyfarfodydd Sefydliad y Merched cyntaf?
Ewch i dudalen
Safleoedd y Rhyfel Byd Cyntaf am enghreifftiau
o'r math o safleoedd yr ydym yn edrych arnynt.
Nôd y prosiect hwn yw ymestyn ein
dealltwriaeth ni i gyd o etifeddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf,
ac hefyd mireinio Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol (CAH).
Dyma'r gronfa ddata sydd yn cofnodi'r holl nodweddion archaeolegol
a hanesyddol sy'n hysbys o fewn ardal pob un o'r Ymddiriedolaethau
Cymreig, ac mae wrth wraidd pob agwedd o waith yr Ymddiriedolaethau
(ewch i www.archwilio.org er
mwyn gweld y safleoedd sydd eisoes ar y CAH ). Dim ond
y nodweddion hynny sydd wedi eu cofnodi ar y CAH sydd yn
gallu cael eu hamddiffyn trwy ddarpariaeth cyngor cywir,
felly mae eich mewnbwn chi'n hanfodol bwysig. Rydym hefyd
eisiau darganfod os oes digon o olion yn parhau ar safleoedd
pwysig fel eu bod yn teilyngu amddiffyniad cyfreithiol
gan Cadw.
I gyfarfod â'r nodau hyn, rydym angen adnabod union
leoliad unrhyw safleoedd perthnasol, a gwybod os oes unrhyw
beth i'w weld ar y tîr (er enghraifft rydym eisiau
gwybod : oes adeiladau'n parhau i sefyll, neu oes unrhyw
sylfeini i'w gweld? Oes unrhyw weddillion concrid yn gorwedd?)
Rydym hefyd yn awyddus i wybod am hanes y safle.
Pebai gennych unrhyw hen ddogfennau, ffotograffau, neu
hen gardiau post yn ymwneud â safle penodol, buasem
yn hynod ddiolchgar pe baech yn gallu anfon copi i ni.
Gwell fyth, pe baech yn fodlon caniatau i ni gyhoeddi'r
wybodaeth a'r lluniau ar ein gwefan, ar Gofnod yr Amgylchedd
Hanesyddol ,a thrwy gyfrwng ein llyfrgell ddelwedd archwiliadwy,
bydd eich llun ar gael i bawb ei weld. Bydd modd i bobl
sydd yn astudio hanes lleol, neu sydd â diddordeb
yn eu hardal, yn gallu darganfod a dysgu trwy gyfrwng y
delweddau mae eich teulu chi wedi gadw'n ofalus, a byddwch
chithau yn cyfrannu i hanes.
Beth ddylech ei wneud?
Os oes gennych unrhyw luniau neu wybodaeth
y credwch fyddai o ddiddordeb gennym, anfonnwch gopïau
os gwelwch yn dda - unai trwy gyfrwng ebost i WWI@heneb.co.uk,
neu trwy'r Post i: WWI, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd,
Craig Beuno, Fordd Y Garth, Bangor, Gwynedd, LL57 2RT.
Sicrhewch eich bod yn cynnwys cyfeirnod
grid (o fap, GPS neu ffôn symudol - gadewch i ni
wybod sut rydych wedi darganfod y cyfeirnod grid os gwelwch
yn dda). Pe baech angen help i ddarllen cyfeirnod grid,
ewch i:
http://www.ordnancesurvey.co.uk/blog/2013/03/map-reading-skills-learn-how-to-use-grid-references/
Pe na bai'n bosib nodi'r cyfeirnod grid, disgrifiwch leoliad
y safle cyn gysted â phosib, gan gynnwys cyfeiriad
gyda chôd post, enwau ffyrdd, enwau'r tai, neu marciwch
y safle ar fap.
Ychwanegwch eich hanes am y safle - pwy sydd yn gysylltiedig â'r
safle, a pha bryd oeddynt yno.
Sut olwg sydd ar y safle ar hyn o bryd? A yw'r safle wedi
ei ddifrodi, a yw rhai o'r adeiladau'n cael eu defnyddio
at bwrpas arall, a oes unrhyw olion yn aros ar y ddaear?
Os ydych yn fodlon ac yn gallu gwneud hynny, rhowch eich
caniatad i ni ddefnyddio eich delweddau. Sicrhewch nad
ydych yn cyflwyno deunyddiau sydd dan hawlfraint.
Rhowch fanylion cyswllt fel bo modd i ni gysylltu â chi
pebai gennym gwestiwn (bydd rhif ffôn neu gyfeiriad
ebost yn ddigon).
Etifeddiaeth y Ffrynt Cartref
Pe na baech yn gallu mynychu un o'n digwyddiadau ar daith,
nac yn gallu anfon gwybodaeth i ni, gellwch ymuno â ni
mewn menter traws Prydain i gofnodi gwybodaeth arlein.
Datblygwyd prosiect Etifeddiaeth y Ffrynt Cartref mewn
cydweithrediad â Chofnodion yr Amgylcheddau Hanesyddol
led-led y Deyrnas Unedig ac mae'n cynnwys gwybodaeth am
y math o fanylion rydym yn awyddus i dderbyn ar gyfer ein
cofnodion ninnau hefyd. Ewch i http://www.homefrontlegacy.org.uk/wp/ am
fwy o wybodaeth. Bydd unrhyw ddata a gyflwynir i'r Prosiect
Ffrynt y Cartref yn cael ei ychwanegu i'r CAH maes o law.
|