Dros yr
ychydig flynyddoedd nesaf, bydd yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol
Cymreig, gyda chymorth grant gan Cadw, yn ffocysu ar y
Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn cydredeg â chanmlwyddiant
y Rhyfel hwnnw. Pob blwyddyn, byddwn yn edrych ar thema
gwahanol. Dyma'r thema:
2014-15: Y dirwedd filwroledig
2015-16: Ymchwil a datblygu/diwydiant
2016-17: Adeiledd a chynhaliaeth
2017-18: Gweithrediadau
2018-19: Coffadwriaeth
Yn ystod 2014-15 bu thema y Dirwedd Filwroledig
yn cynnwys archwilio ffosydd ymarfer a meysydd saethu,
yn ogystal ag edrych ar wersylloedd hyfforddi a gwersylloedd
carcharorion rhyfel. Gellir lawrlwytho'r adroddiad yma.
Yn 2015-16 cafodd safleoedd gweithgynhyrchu
a safleoedd Ymchwil a Datblygu eu hymchwilio gan gynnwys
gorsafoedd diwifr Marconi ac awyrennau cynnar. Gellir
lawrllwytho'r adroddiad yma.
Yn ystod 2016-17 buom yn astudio thema isadeiledd a Chefnogaeth: yr hyn roedd y rhai adref yn wneud i gefnogi'r milwyr. Roedd hyn yn cynnwys ysbytai a chartrefi ymadfer ar gyfer milwyr anafedig, a gwaith Sefydliad y Merched a grwpiau eraill i gynyddu cynhyrchiad bwyd a sicrhau rhwymynnau a dillad ar gyfer y lluoedd arfog. Gellir lawrllwytho'r adroddiad yma.
Eleni rydym yn astudio gweithgareddau milwrol yng ngogledd orllewin Cymru . Arfordir Ynys Môn oedd rheng flaen y frwydr yn erbyn y llongau tanfor a ymosodai ar longiadaeth yn hwylio tua Lerpwl. Mae'r ffocws ar ganolfan y llynges yng Nghaergybi, a rydym eisoes wedi astudio'r orsaf awyrlongau yn Llangefni.

Llong awyr mewn sied awyrennau (trwy garedigrwydd
Archifdy Môn (WM 1609/22))
|