|
Cangen Bangor o'r Clwb Archaeolegwyr Ifanc |
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn rhedeg cangen Bangor (Gwynedd) o'r Clwb Archaeolegwyr Ifanc (CAI). Mae'r CAI yn glwb ledled y Deyrnas Unedig a redir gan y Cyngor Archaeoleg Brydeinig, lle gall unigolion rhwng 8-16 oed gymryd rhan mewn gweithgareddau ar y thema archaeoleg. Mae aelodaeth am ddim. Yn aml caiff sesiynau cangen Bangor eu trefnu ar y cyd â phrosiectau cymunedol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, gan roi cyfle i aelodau gymryd rhan mewn archaeoleg go iawn. Mae sesiynau blaenorol wedi cynnwys gwaith cloddio, teithiau cerdded tywysedig, cofnodi graffiti hanesyddol, cofnodi arteffactau, sesiynau ffotograffiaeth a gweithgareddau crefftau. Cyflwynir y sesiynau yn ddwyieithog. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r gangen ym Mangor, cysylltwch â outreach@heneb.co.uk
|
Enghreifftiau o Sesiynau Blaenorol |
Bryngaer Arfordirol Cynhanesyddol Dinas DinlleYn ystod haf 2019, gwahoddwyd aelodau'r gangen i gymryd rhan yn ein gwaith cloddio cymunedol ym mryngaer arfordirol Dinas Dinlle. Roedd y gwaith cloddio yn rhan o'r prosiect CHERISH a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, sy'n astudio effeithiau newid yn yr hinsawdd ar y dreftadaeth arfordirol. Ymwelsom ag olion y tŷ crwn enfawr a dysgu am y gaer, cyn cynnal ein gwaith cloddio ein hunain mewn ffos wedi'i chloddio'n arbennig ar gyfer ein haelodau CAI, tua'r de o'r safle. Mae'r gaer, sydd ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn heneb gofrestredig a hefyd yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Mae peth o'r gaer wedi erydu i'r môr. Ymweliad Nos - Grŵp Cytiau Din Lligwy a Chapel Lligwy, Ynys MônFis Medi 2019, ymwelsom â grŵp cytiau Din Lligwy ger Moelfre. Dysgasom am y ffordd yr oedd pobl yn byw yno, o'r cyfnod cynhanesyddol hwyr i gyfnod y Rhufeiniaid. Yna, ymwelsom â Chapel Lligwy gerllaw i chwilio am gliwiau ynglŷn â sut cafodd y capel ei adeiladu a sut oedd pobl yn defnyddio'r adeilad. Ymweliad gyda'r nos oedd hwn, gan weithio mewn partneriaeth â'r Prosiect Nos . Roedd pawb yn gwisgo tortsh ar eu pennau. Trefnasom i driniwr tylluanod (Airborne Warriors) ymuno â ni yng Nghapel Lligwy, gan roi cyfle i aelodau gael cwrdd â rhai tylluanod hyfryd. Yn ogystal, archwiliasom gladdgell y capel dan olau cannwyll, a oedd yn brofiad cyffrous ond brawychus! Caiff y ddau safle eu cynnal gan Cadw ac maent yn henebion cofrestredig.
Sesiwn Gwneud Potiau Ar-lein
Dyma ddolen i'n sesiwn gwneud potiau ar-lein. Oherwydd y cyfnod clo, nid ydym wedi gallu gweld ein haelodau, ond mae hwn yn weithgaredd y gallwch ei wneud gartref. Yn ogystal, mae taflen wybodaeth sy'n cyd-fynd â'r sesiwn - mae dolen at hon yn nisgrifiad y fideo. Mae'r daflen wybodaeth yn dweud wrthych beth sydd ei angen arnoch i wneud y gweithgaredd, yn ogystal â rhoi enghreifftiau o botiau a chrochenwaith y mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi'u canfod a'u cofnodi fel rhan o'n gwaith Mae aelodau o'r gangen wedi bod yn anfon lluniau atom ni o'r potiau arbennig maent wedi bod yn eu creu. Os ydych yn gwneud pot, anfonwch lun atom ni! Pob hwyl! Cliciwch yma am ragor o syniadau am weithgareddau ar brif wefan CAI. Gallwch hefyd edrych ar flog cangen Bangor yma .
Dim ond ychydig o sesiynau a gweithgareddau yr ydym wedi'u trefnu yw'r uchod. Cofiwch, os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r gangen ym Mangor (Gwynedd), cysylltwch â outreach@heneb.co.uk .
|
|