English

Gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr o bob oed yn rheolaidd, ac yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfraniad a wnânt i waith cyfredol yr Ymddiriedolaeth. Gall gwirfoddoli gyda ni roi profiad gwerthfawr i'r rheiny sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn archaeoleg.

Mae nifer o wirfoddolwyr hirdymor yn mynychu ein swyddfeydd ym Mangor yn wythnosol, gan gyflawni rolau parhaus. Mae'r rolau hyn yn cynnwys archwilio delweddau LiDAR, ein helpu ni gyda'n gwaith o gynnal a chadw'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, sganio a chofnodi delweddau a chynorthwyo gyda gwaith cyfieithu. O bryd i'w gilydd mae rolau swyddfa hirdymor yn codi gyda ni, ac rydym yn croesawu gwirfoddolwyr newydd. Yn ogystal, mae rhai o'n gwirfoddolwyr hirdymor yn cynorthwyo'n rheolaidd gyda'n gwaith maes.

Mae gennym gronfa ehangach o wirfoddolwyr hefyd, sy'n cymryd rhan yn ein prosiectau cymunedol yn ystod misoedd yr haf. Dosberthir gwybodaeth ynglŷn â chyfleoedd gwirfoddoli drwy ein rhestrau postio, tudalennau cyfryngau cymdeithasol, gwefannau a'r wasg. Os hoffech gael y diweddaraf ynglŷn â chyfleoedd gwirfoddoli gyda ni, cwblhewch y ffurflen hon a'i dychwelyd i outreach@heneb.co.uk .

Yn ogystal, mae'r Ymddiriedolaeth yn mwynhau perthynas weithio ragorol gyda Phrifysgol Bangor; bob blwyddyn mae nifer o fyfyrwyr yn ymgymryd â phrofiadau gwaith gyda ni.

Gwahoddir gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda ni i'n Parti Nadolig gwirfoddolwyr blynyddol.

 

Enghreifftiau o Brosiectau yn Cynnwys Gwirfoddolwyr

Derbynodi Arch Camb

Yn 2020, roedd YAG angen ail-ffocysu'r rhaglen gwirfoddoli er mwyn cadw cysylltiad â phobl yn ystod y pandemig Covid-19. Lluniodd y staff brosiect hollol ddigidol newydd oedd yn gwahodd gwirfoddolwyr i'n helpu ni i fireinio Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol ( CAH ) rhanbarthol o adref.

Roedd y prosiect, oedd yn dwyn y teitl Derbynodi Arch Camb , yn pennu cyfrolau o Archaeologia Cambrensis, cylchgrawn Cymdeithas Hynafiaethau Cymru sydd ar gael trwy Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Gwasanaeth Data Archaeoleg, i wirfoddolwyr parod. Gofynwyd i bob gwirfoddolwr ddarllen yn ofalus trwy gyfrol benodol, ac adnabod gwybodaeth newydd i ychwanegu i gofnodion CAH sydd eisoes mewn bod, neu greu cofnodion newydd, yn unol â chyfarwyddiadau manwl a luniwyd gan y staff ar gyfer y prosiect.

Cynigwyd cyfleon gwirfoddoli i'r rhai sydd ar ein rhestrau cyswllt, a'u cyhoeddi ar ein sianeli cyfrwng cymdeithasol a'n gwefan. Roeddem dan ein sang gyda'r ymateb. Mae cyfanswm o 37 gwirfoddolwr wedi cymryd rhan yn y prosiect hyd yma, gan ddefnyddio pob un o'r 172 cyfrol i ddiweddaru mwy na 1300 o gofnodion sydd eisoes mewn bod, a chreu 35 o gofnodion newydd. Mae ein gwirfoddolwyr wedi cyfrannu bron i 1000 awr at raglen waith yr Ymddiriedolaeth! Rydym yn aruthrol o ddiolchgar i bawb sydd yn cymryd rhan yn y prosiect ac i bartneriaid y prosiect. Rydym yn gobeithio creu rhagor o brosiectau gwirfoddoli digidol yn y dyfodol.

 

Bryngaer Arfordirol Cynhanesyddol Dinas Dinlle

Cymerodd dros 40 o wirfoddolwyr ran yn ein gwaith cloddio cymunedol yn Ninas Dinlle, a ffurfiodd ran o'r prosiect CHERISH a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, sy'n astudio effeithiau newid yn yr hinsawdd ar y dreftadaeth arfordirol.

Mae'r safle, y mae rhan ohoni wedi'i herydu, wedi'i lleoli ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn heneb gofrestredig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Cawsom gymorth gan wirfoddolwyr i ddadorchuddio olion o dŷ crwn cynhanesyddol yn y caer ei hun, yn ogystal â help llaw gydag ymchwilio i'r nodweddion tua'r de o'r safle.

Roedd y rheiny yn cymryd rhan yn cynnwys aelodau o'r gymuned leol, gwirfoddolwyr rheolaidd YAG, myfyrwyr prifysgol ac aelodau'r cyhoedd yn ehangach. Mynychodd 400 o aelodau o'r cyhoedd ein diwrnod agored, a gwnaethom drefnu sesiwn Clwb Archaeolegwyr Ifanc fel rhan o'r prosiect.

 

Barics Chwarel Pen y Bryn, Dyffryn Nantlle

Cawsom gymorth gan wirfoddolwyr gyda'r gwaith cloddio, clirio llystyfiant a gwaith cofnodi a ariennir gan Cadw yn Barics Chwarel Pen y Bryn, sy'n rhan o Safle Treftadaeth y Byd enwebedig. Mae'r safle yn cynnwys bloc o bedwar barics a drawsffurfiwyd o adeilad o'r ail ganrif ar bymtheg yn ystod y 1860au, ynghyd â nodweddion cysylltiedig eraill.

Bu'r prosiect yn gymorth i ddarparu dealltwriaeth gliriach o gyfnodau a datblygiad y barics. Mae'r gwaith cloddio wedi amlygu tystiolaeth o weithgareddau a gynhaliwyd yma ac wedi taflu goleuni ar ddiwylliant deunyddiau'r chwarelwyr a'u teuluoedd.

Cynigiwyd cyfleoedd gwirfoddoli i aelodau'r gymuned leol, gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth a myfyrwyr o Brifysgol Bangor a thu hwnt. Yn ogystal, cymerodd ysgolion cynradd lleol ran yn y prosiect, ac, yn ystod diwrnod agored, (a oedd hefyd yn rhan o'r Ŵyl Archaeoleg) cafodd ymwelwyr deithiau cerdded tywysedig o'r safle a'r dirwedd chwarelu ehangach.

Cymerodd aelodau'r grŵp Treftadaeth Ddisylw? Dyffryn Nantlle a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (sy'n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd) ran yn y prosiect hefyd.

 

Glanhau a Chatalogio Canfyddiadau

Gweler yn y llun uchod ddau o'n gwirfoddolwyr rheolaidd yn cynorthwyo gyda gwaith glanhau a chatalogio canfyddiadau yn ein swyddfeydd ym Mangor. Canfyddiadau o wahanol brosiectau oedd y rhain - Barics Chwarel Pen y Bryn (Dyffryn Nantlle), Cyn Safle Ysgol Pendalar (ger Caer Rufeinig Segontiwm, Caernarfon) a'n prosiect Bwyelli Neolithig Llanfairfechan (yr olaf yn waith ar y cyd â Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau).

Mae gwirfoddolwyr yn gweithio gyda ni am amrywiaeth o resymau - o'r awydd i ennill profiad archaeolegol er mwyn gwella rhagolygon cyflogaeth, i'r dymuniad i 'roi rhywbeth yn ôl' i gymdeithas, yn yr achos hwn drwy atgyfnerthu gwaith yr Ymddiriedolaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli i ni, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen hon at outreach@heneb.co.uk i ymuno â'n rhestr bostio, a rhown wybod i chi am gyfleoedd gwirfoddoli gyda'r Ymddiriedolaeth.

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol

GAT

 

Gwynedd Archaeological Trust is certified to ISO 9001:2015 and ISO 14001:2015

To view a copy of the ISO 9001:2015 certificate, please click here.
To view a copy of the ISO 14001:2015 certificate, please click here.