|
Treftadaeth Ddisylw? |
Mae Treftadaeth Ddisylw? (a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol) yn rhaglen archaeolegol gymunedol sy'n ysbrydoli pobl ifanc ledled Cymru i ymgysylltu â'u tirlun hanesyddol lleol. Mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn rhedeg y Prosiect Dyffryn Nantlle, sy'n canolbwyntio ar hanes chwarelu llechi'r ardal.
|
Ap Treftadaeth Ddisylw?Gan weithio gyda'r asiantaeth greadigol, Galactig, mae aelodau'r grŵp wedi creu ap realiti estynedig sy'n canolbwyntio ar Chwarel Dorothea. Bydd defnyddwyr yn cael straeon fideo mewn mannau allweddol o amgylch y safle. Mae'r straeon, sy'n cael eu hadrodd gan aelodau'r grŵp, wedi'u hysbrydoli gan atgofion preswylwyr lleol. Mae'r ap, a lansiwyd ym mis Hydref 2020 yn gwasanaethu fel adnodd addysgol i ysgolion lleol, aelodau'r gymuned leol ac ymwelwyr.
|
Barics Chwarel Pen y BrynYn ystod haf 2019, gwahoddwyd y grŵp i gymryd rhan yng ngwaith clirio, cofnodi a chloddio Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a ariennir gan Cadw yn Barics Chwarel Pen y Bryn, Dyffryn Nantlle - sy'n rhan o Safle Treftadaeth y Byd enwebedig. Bu'r prosiect yn gymorth i ddarparu dealltwriaeth well o gyfnodau'r barics a'r adeiladau cysylltiedig, yn ogystal â thaflu goleuni ar sut oedd chwarelwyr a'u teuluoedd yn byw yma. Dysgodd aelodau'r grŵp amrywiaeth o sgiliau archaeolegol a gwnaethant ddadorchuddio a chofnodi canon garreg (yn yr achos hwn carreg briodas) yn agos at y barics. Yn ogystal, cawsant ddysgu am hanes lleol yr ardal a helpu i gyflwyno teithiau cerdded tywysedig fel rhan o ddiwrnod agored i'r cyhoedd. Gwyliwch fideo a gafodd ei greu gan y grŵp, yn disgrifio eu profiadau o'r prosiect.
Teithiau PreswylFis Hydref 2019, mynychodd y grŵp ddau benwythnos preswyl, ynghyd ag aelodau prosiectau eraill Treftadaeth Ddisylw? Cynhaliwyd y cyntaf yn Llanddeusant, de Cymru. Roedd hwn yn cynnwys sesiwn gwneud ffilm lle'r oedd gofyn i bob grŵp greu fideo byr yn seiliedig ar eu prosiect - cyfle gwych i ddysgu am weithgareddau grwpiau eraill. Yn ogystal, fel rhan o'r daith cafwyd sesiwn adeiladu tîm drwy badlfyrddio a chanŵio. Ar daith arall, aeth aelodau o wahanol grwpiau Treftadaeth Ddisylw? i Ogledd Iwerddon. Gwnaeth pob grŵp gyflwyniadau yn seiliedig ar eu prosiectau, a gan archwilio Bushmills a Belfast, clywsant gan bobl ifanc sydd ynghlwm â phrosiectau cyffelyb yn yr ardaloedd hyn. Roedd hwn yn gyfle gwerthfawr i ddysgu sut mae pobl ifanc yng ngwahanol rannau o Brydain yn ymgysylltu â'u tirwedd hanesyddol leol. Roedd y daith hefyd yn cynnwys ymweliadau â Wal Heddwch Belfast, Carrick a Rede a Sarn y Cedwri. Gweler isod am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r prosiect Treftadaeth Ddisylw?: Fideos a grëwyd gan y grŵp:
Cysylltwch â: Jade.owen@heneb.co.uk
|
|