|
![]() |
Yr Ymddiriedolwyr David Elis-Williams (Cadeirydd) ×
David Elis-Williams (Cadeirydd) Penodwyd David yn Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol (CCB) ym mis Medi 2019. Ef hefyd yw cadeirydd Is-Bwyllgor Cyllid yr Ymddiriedolaeth. Mynychodd David Goleg yr Iesu, Rhydychen, lle astudiodd Ffiseg ac yna radd Meistr mewn Ystadegaeth Gymhwysol. Yn ddiweddarach, ymunodd â Chyngor Gwynedd a chymhwyso fel Cyfrifydd Cyllid Cyhoeddus Siartredig. Yn 1995, penodwyd ef yn Gyfarwyddwr Cyllid Cyngor Sir Ynys Môn, ac yno y bu nes iddo ymddeol yn 2012. Roedd yn un o ymddiriedolwyr Addysg Oedolion Cymru ac mae wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Archwilio y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol. Ers ei ymddeoliad, mae David wedi magu diddordeb mewn sawl agwedd ar hanes ac archaeoleg, gan fynychu darlithoedd archaeoleg gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd (YAG) a Phrifysgol Bangor, ac mae hefyd wedi gwasanaethu'n rheolaidd fel gwirfoddolwr ar brosiectau cloddio YAG. Mae wedi rhoi sgyrsiau i gymdeithasau lleol a chyhoeddi erthyglau yn ymwneud â hanes yr ardal leol. Mae David wedi byw y rhan fwyaf o'i oes ym Mangor ac mae'n siaradwr Cymraeg. ×
Fiona Gale Penodwyd Fiona yn ymddiriedolwr yn y CCB ym mis Medi 2018. Cyn ei hymddeoliad diweddar, bu'n gweithio fel Archaeolegydd Sir yn Sir Ddinbych. Enillodd Fiona ei gradd gyntaf mewn Archaeoleg a Daearyddiaeth o Brifysgol Southampton ac yn 2000 enillodd MA mewn Archaeoleg a Threftadaeth o Brifysgol Caerlŷr. Mae Fiona yn un o Gymrodyr Cymdeithas yr Hynafiaethwyr (FSA) ac yn Aelod Cyswllt o'r Sefydliad Siartredig Archaeoleg (ACIfA). Mae Fiona wedi gweithio yn y maes Archaeoleg ers 40 mlynedd ac mewn cyd-destun curadurol a rheoli treftadaeth yng Nghymru ers 20 mlynedd. Mae ganddi wybodaeth eang o Archaeoleg a'r amgylchedd naturiol, yn ogystal â gweithio mewn tirlun gwarchodedig. ×
Frances Lynch Llewellyn Roedd Frances yn un o'r Ymddiriedolwyr a sefydlodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd (ac Ymddiriedolaeth Clwyd Powys) yn 1975. Ymddiswyddodd yn 1983 ond dychwelodd yn 1988 fel aelod o'r Pwyllgor Rheoli. Daeth yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys yn 1991 ac ymddeolodd o'r swydd honno yn 2017. Yn ddiweddar, daeth yn un o Ymddiriedolwyr YAG. Daeth i Fangor yn 1964 o Brifysgol Lerpwl ac fe'i penodwyd hi yn aelod o staff yr Adran Hanes ym Mhrifysgol Bangor yn 1966. Addysgodd cynhanes a thechnegau gwaith maes archaeolegol yno nes iddi ymddeol yn 2000. Mae hi wedi cloddio yn Iwerddon (yn y 1960au yn Newgrange yn neilltuol) ac ym Mhrydain ac wedi cymryd rhan mewn arolygon ym Mhortiwgal, ond mae'r rhan fwyaf o'i gwaith wedi bod yng Nghymru, ac wedi'i seilio ar henebion claddu yr Oes Neolithig ac Efydd. Ei phrosiect mwyaf oedd y cloddio yn Nyffryn Brenig yn 1973 ac 1974, y prosiect mawr olaf i'w ariannu ag arian cyhoeddus cyn dyfodiad System yr Ymddiriedolaethau yng Nghymru. Mae hi wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Archaeoleg yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phwyllgor Cymru, roedd yn Aelod Penodedig ar Bwyllgor Parc Cenedlaethol Eryri 1991-8, yn Ysgrifennydd CBA Cymru 1971-81 ac yn aelod o'r Bwrdd Henebion 1987-2000. Yn ogystal, bu'n aelod o sawl cymdeithas hanes leol ac ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn ac yn Ysgrifennydd Cyfeillion Storiel (Amgueddfa Bangor gynt). ×
John Ratcliffe Daeth John yn ymddiriedolwr ym mis Medi 2020. Graddiodd John mewn Botaneg a Daearyddiaeth yn Durham yn 1974 ble cafodd ei gyflwyno i hanes tirwedd ac ecoleg a chelf dywyll dadansoddi paill a chwblhaodd MSc mewn Adnoddau Amgylcheddol yn Salford yn 1976 gydag astudiaeth o lystyfiant tir gwlyb yn ne ddwyrain Cymru. Rhwng 1974 – 77 bu’n ecolegydd i Gyngor Sir Clwyd, ac ar ôl hynny ymunodd â’r Cyngor Gwarchod Natur, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sef Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn hyn, yn gyntaf fel syrfëwr a swyddog ardal ac yna arweinydd prosiect ar gyfer ardaloedd gwarchodol yng Nghymru. Ar ôl ffocws cychwynnol ar fawndiroedd ac yna systemau arfordirol, yn ddiweddar mae wedi cymryd cyfrifoldeb arbennig am gynefinoedd mynyddoedd Cymru. Rhwng 1983-86 gweithiodd i’r Rhaglen Gronfa World Wildlife Indonesia yng Ngorllewin Papua (ble daeth o hyd i gasgliad difyr o fwyeill cerrig modern) ac yn 1994 gweithiodd i Ranbarth Môr Tawel The Nature Conservancy (TNC) yn Sulawesi. Mae’n Amgylcheddwr Siartredig ac yn aelod o’r Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol. Cafodd John ei gyflwyno i archaeoleg gan ei fab (a oedd, yn rhyfedd iawn, hefyd wedi dysgu dadansoddi paill yn yr un labordy yn Durham, sydd bellach yn cael ei feddiannu gan yr Adran Archaeoleg, 45 mlynedd yn ddiweddarach) ac mae bellach wedi bodloni cael ei arwain o amgylch hen safleoedd a’i orfodi i fwynhau creigiau o bob lliw a llun. Fodd bynnag, mae’n dal i gynnal ei ddiddordeb sylweddol mewn deall tirweddau’r gorffennol, a’u deiliaid dynol, fel yr allwedd i’w hecosystemau presennol a’r dyfodol.
×
Dr Frances Ann Richardson Penodwyd Frances yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ym mis Rhagfyr 2016. Mae Frances yn diwtor rhan amser mewn hanes lleol a chymdeithasol ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae hi hefyd yn weithredol yng ngwaith ymchwil hanes leol Gwynedd fel aelod o Gyfeillion Eglwys Santes Julitta, Capel Curig, sy'n cynnal arddangosfeydd ac yn cyhoeddi llyfrynnau ynglŷn ag agweddau amrywiol ar hanes a thirweddau lleol. Mae ganddi wybodaeth fanwl o faterion Adnoddau Dynol a phensiwn o'i swyddi blaenorol fel Pennaeth Gwobrwyo Oxfam, ac fel un o ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth Bensiynau. ×
Dr David M Roberts Daeth David yn ymddiriedolwr ym mis Mawrth 2019 ac mae hefyd yn gwasanaethu ar Is-Bwyllgor Cyllid yr Ymddiriedolaeth. Cyn ei ymddeoliad yn 2014, bu'n aelod o staff ym Mhrifysgol Bangor am dros 35 mlynedd. Gwasanaethodd David fel Cofrestrydd y Brifysgol am gyfnod o 15 mlynedd a chyn hynny fel Cofrestrydd Academaidd. Fel Cofrestrydd y Brifysgol roedd yn gyfrifol am brosesau llywodraethiant a rheoli, materion cyfreithiol a gweinyddol, a datblygiad cyfundrefnol a strategol. Hanesydd yw David o ran ei gefndir ac ysgrifennodd hanes y Brifysgol (Prifysgol Bangor, 1884 – 2009) a gafodd ei gyhoeddi yn 2009 i ddathlu pen-blwydd y Brifysgol yn 125 oed. Yn y gorffennol, mae wedi gwasanaethu ar gorff llywodraethu Coleg Llandrillo ac fel Is-Gadeirydd Gyrfa Cymru. Yn ogystal, mae wedi bod yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch, Gwasanaeth Cerdd Ysgolion [Gwynedd a Môn], ac mae'n Gadeirydd Ymddiriedolwyr Ensemble Cymru. ×
Dr Gary Robinson Penodwyd Gary yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ym mis Medi 2018. Mae'n uwch-ddarlithydd archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor lle mae wedi gweithio ers 2015. Cwblhaodd ei PhD yn y Sefydliad Archaeoleg, Coleg Prifysgol Llundain (PhD 2006), lle ysgogwyd ei ddiddordeb yng nghynhanes Prydain am y tro cyntaf. Roedd ei draethawd doethurol yn archwilio archaeoleg gynhanesyddol Ynysoedd Sili. Prif ddiddordeb ymchwil Gary yw archaeoleg gynhanesyddol cymunedau arforol ac arfordirol gorllewin Prydain ac Iwerddon. Yn fwy diweddar mae wedi datblygu diddordeb mewn dulliau archaeolegol ar gyfer y byd cyfoes a sut y gall dulliau gweithredu o'r fath herio naratifau traddodiadol o'r gorffennol. Mae Gary yn un o Gymrodyr Cymdeithas Hynafiaethau Llundain ac yn Drysorydd Cyngor Archaeoleg Brydeinig Cymru.
Pwyllgor Rheoli
|
|