English

Ysgolion

Bob blwyddyn mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio gydag amrywiol ysgolion yn ei hardal. Mae'r rhain yn amrywio o sesiynau un tro i raglenni gweithdai sy'n cynnwys sawl sesiwn.

Yn aml, byddwn yn gwahodd ysgolion lleol i gymryd rhan mewn prosiectau - fel rheol mae cymryd rhan yn cynnwys sesiwn ymweld â'r dosbarth cyn yr ymweliad, lle caiff safleoedd a phrosiectau eu gosod yng nghyd-destun y tirlun hanesyddol ehangach a chaiff disgyblion ddysgu beth yw swydd archaeolegydd go iawn. Ar ôl y sesiynau cyflwyniadol hyn lle rhoddir cyfle i ddisgyblion ddod yn archaeolegwyr am y diwrnod, cânt ymweld â safleoedd a'n cynorthwyo gyda'n gwaith cloddio neu gofnodi.

Mae'r sesiynau a'r gweithgareddau wedi'u dylunio i gyd-fynd â'r meysydd hynny o'r cwricwlwm cenedlaethol y mae dosbarth neu flwyddyn yn gweithio arnynt ar y pryd.

Os oes gan eich ysgol ddiddordeb gweithio gydag YAG, neu i wneud ymholiadau ynglŷn â chyfleoedd profiad gwaith i ddisgyblion, cysylltwch â outreach@heneb.co.uk

 

Enghreifftiau o Sesiynau Blaenorol (2019)

Prosiect Parc Cybi

 

Fel rhan o'n prosiect Parc Cybi sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, cawsom gymorth gan 120 o ddisgyblion Ysgol Cybi i baratoi ar gyfer dwy arddangosfa gyhoeddus. Cynhaliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd waith cloddio archaeolegol cyn i'r gwaith ddechrau ym Mharc Cybi, Caergybi - safle datblygu Llywodraeth Cymru. Roedd yr arddangosfeydd yn dangos rhai o'r gwrthrychau a ganfuwyd.

Trefnodd YAG raglen o dros ugain o weithdai yn yr ysgol, a gafodd eu cynnal rhwng mis Medi a Rhagfyr 2019. Dysgodd y disgyblion am y gwaith cloddio ym Mharc Cybi a bu iddynt helpu i greu arddangosfeydd gwahanol.

Roedd y sesiynau yn cynnwys: gwneud model o dŷ crwn, gwneud potiau o'r Oes Neolithig a'r Oes Efydd, ysgrifennu a recordio cân ynglŷn â thai crynion, creu arddangosfa ffotograffig o gylchoedd cytiau Tŷ Mawr gerllaw, gwneud chwerfannau gwerthyd gan ddefnyddio technegau crefftio hynafol a gwneud addurniadau glain.

Cliciwch yma i wrando ar y gerddoriaeth a grëwyd ar gyfer yr arddangosfa gan Flwyddyn 3.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'n prosiect Parc Cybi, cliciwch yma.

 

Barics Chwarel Pen y Bryn, Dyffryn Nantlle

Gwahoddwyd ysgolion cynradd o ardal Dyffryn Nantlle i gymryd rhan yn ein prosiect Barics Chwarel Pen y Bryn (rhan o Safle Treftadaeth y Byd enwebedig) a ariennir gan Cadw. Bu'r prosiect yn gymorth i ddarparu dealltwriaeth well o gyfnodau'r barics a'r adeiladau cysylltiedig, yn ogystal â thaflu goleuni ar sut oedd chwarelwyr a'u teuluoedd yn byw yma.

Cymerodd dair ysgol gynradd ran. Yn ystod sesiynau yn yr ystafell ddosbarth, trafodasom ystyr archaeoleg a dysgu am sut mae archaeolegwyr yn gweithio. Dysgodd y plant am y barics a'u cyd-destun yn y tirlun hanesyddol ehangach. Yna aethom ati i egluro pa dasgau y byddai'r disgyblion yn ymgymryd â nhw yn ystod eu hymweliadau â'r safle.

Yn ystod eu hymweliadau â'r safle, dysgodd y disgyblion am nodweddion ac adeiladau yr aethant heibio wrth gerdded drwy'r dirwedd chwarelu ehangach ar ein ffordd i'r barics. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar hen ffotograffau ac ystyried sut mae'r dirwedd a'r amgylchedd adeiledig wedi newid gydag amser. Yn y barics, cafodd disgyblion y cyfle i fagu sgiliau cofnodi, drwy gofnodi a thynnu lluniau o graffiti ac arteffactau hanesyddol a ganfuwyd ar y safle, ac ystyried sut deimlad ydoedd byw yno.

 

Hel Trysor, Hel Straeon

Cyflwynodd YAG gais llwyddiannus am gyllid gan Hel Trysor, Hel Straeon - prosiect ar y cyd ag Amgueddfa Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, a Chynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Mewn partneriaeth ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Storiel, gweithiodd YAG â 30 o ddisgyblion yn Ysgol Bro Lleu, Penygroes. Archwiliodd disgyblion gasgliad o geiniogau arian o'r Canol Oesoedd a ganfuwyd yn lleol, gan ddysgu pam mae'n bosibl bod y ceiniogau wedi cyrraedd lle cawsant eu canfod, o le daethant yn wreiddiol a sut cawsant eu gwneud.

Yna, cymerodd ddisgyblion ran mewn gweithdy crefftau, gan wneud eu bathau ceiniogau a'u ceiniogau eu hunain o glai modelu polymer. Ffurfiodd geiniogau'r disgyblion ran o arddangosfa Metel yn Mudo yn Storiel yn hwyrach y flwyddyn honno.

Yn ogystal, cynhaliodd YAG a Storiel weithdai yn y gymuned leol fel rhan o'r prosiect.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut gallem weithio gyda'ch ysgol, cysylltwch â outreach@heneb.co.uk .

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â changen Bangor (Gwynedd) o'r Clwb Archaeolegwyr Ifanc, y mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn ei gynnal, cliciwch yma.

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol

GAT

 

Gwynedd Archaeological Trust is certified to ISO 9001:2015 and ISO 14001:2015

To view a copy of the ISO 9001:2015 certificate, please click here.
To view a copy of the ISO 14001:2015 certificate, please click here.