|
![]() |
Gwasanaethau Cynllunio Mae Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd yn adran ar wahân ac ymreolaethol o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Rydym yn darparu cyngor archeolegol diduedd arbenigol i Awdurdodau Cynllunio Lleol Gogledd Orllewin Cymru, Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy ac i asiantaethau cenedlaethol, cwmnïau cyfleustodau, datblygwyr, ymgynghorwyr ac eraill sy'n ymwneud â datblygu yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Gwasanaethau Cynllunio Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yw'r gwasanaeth curadurol rhanbarthol sy'n gyfrifol am fonitro'r holl waith archeolegol a wneir mewn cyd-destun datblygu ac am sicrhau bod y fath waith yn bodloni'r safonau proffesiynol gofynnol. Mae rhan helaeth o'n gwaith yn golygu ymateb i geisiadau cynllunio. Fodd bynnag, rydym hefyd yn rhoi cyngor i ddatblygwyr a chontractwyr sy'n rhan o gynlluniau seilwaith mawr, adnewyddu cyfleustodau, datblygiadau egni a chynlluniau eraill sy'n cael effaith andwyol ar yr adnodd archeolegol. Mae hyn yn sicrhau bod pob rhwymedigaeth archeolegol yn cael ei wneud yn ôl canllawiau cyfredol y llywodraeth a'r egwyddorion archeolegol orau. |
I ddarganfod mwy am archeoleg a chynllunio, neu am gyngor ar y datblygiad arfaethedig a'r amgylchedd hanesyddol, cysylltwch â: Jenny Emmett, Uwch Archaeolydd Cynllunio neu Tom Fildes, Archaeolegydd Rheoli Datblygu ar 01248 370926, ffôn symudol 07824 481052, e-bost planning@heneb.co.uk
|
|