|
![]() |
Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Nod y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol ar gyfer gogledd orllewin Cymru yw darparu gwybodaeth gynhwysfawr ynghylch y safleoedd, henebion, adeiladau, arteffactau a thirweddau archeolegol a hanesyddol hysbys yn hen Sir Gwynedd. Mae ganddo tua 20,000 o gofnodion a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau ers diwedd y 1970au, ac mae'n cwmpasu pob agwedd ar weithgaredd dynol yn y dirwedd o'r cyfnod cyn-hanesyddol cynnar i'r ugeinfed ganrif. Gellir dod o hyd i fanylion am safleoedd adnabyddus i rhai llai adnabyddus, yn ogystal â chofnodion a gynhyrchir gan brosiectau archeolegol a gynhaliwyd yn yr ardal. |
Beth yw'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)? Pam mae Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)? Pa wybodaeth sydd ar gael yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)? Pwy sydd â Mynediad i'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)? Sut alla i gael mynediad i'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)? |
Oriau Agor: Cysylltwch â'r HER yn: Ymweld â'r HER: Gofynnir i ymwelwyr â'r HER lofnodi llyfr ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth, sydd wedi'i lleoli yn y brif swyddfa, pan fyddant yn cyrraedd. Gall defnyddwyr HER ddefnyddio eu camera eu hunain i dynnu lluniau o gasgliadau o fewn yr HER, ar ôl arwyddo copi o'n Ffurflen Defnyddiwr Camera HER. Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig oherwydd anabledd, byddai'n ein helpu i wella ansawdd eich ymweliad os gallwch chi roi gwybod i ni wrth archebu apwyntiad. Mae mynediad i'r anabl i'r adeilad trwy ramp a leolir ar flaen swyddfeydd Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Er bod y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol ar y llawr cyntaf, mae gennym gyfleusterau da ar y llawr gwaelod a gall sicrhau mynediad llawn i'r cyfleusterau cyfrifiadurol yn y brif swyddfa ac ymgynghori â phob dogfen ac adroddiad. Rydym wedi ymrwymo i wella'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i ddefnyddwyr HER yn barhaus. Er mwyn gwneud hyn yn iawn, mae angen eich adborth arnom: rydym yn annog pob Defnyddiwr HER, boed hwy wedi cyrraedd yr HER o bell neu yn bersonol, i gwblhau Holiadur Adborth Defnyddwyr HER. Diolch!
|
|