|
Cyfeillion Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd |
Os hoffech gefnogi gwaith YAG, efallai yr hoffech ystyried ymuno â Chyfeillion Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Bob blwyddyn mae'r Ymddiriedolaeth yn trefnu cyfres o ddarlithoedd gaeaf i Gyfeillion YAG, lle mae cyfuniad o staff yr Ymddiriedolaeth a siaradwyr gwadd yn cyflwyno sgyrsiau ynglŷn â phrosiectau cyfredol yr YAG a'r tirlun hanesyddol ehangach. Yn ogystal, bydd Cyfeillion YAG yn cael cylchlythyr blynyddol a chrynodebau misol - ffordd wych o fod ar flaen gwaith yr Ymddiriedolaeth. Rydym hefyd yn anfon negeseuon e-bost at Gyfeillion YAG yn rheolaidd, gan eu diweddaru ynglŷn â phrosiectau, digwyddiadau a gweithgareddau ar y gweill. Fel rheol, mae'r darlithoedd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Telford ym Mhorthaethwy. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Chyfeillion Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, e-bostiwch outreach@heneb.co.uk
Cliciwch yma am fersiwn ddigidol o'n cylchlythyr diweddar Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd 2019 - 2020.
|
|