|
Digwyddiadau |
Cliciwch yma i weld y Digwyddiadau a'r Gweithgareddau ar y gweill Yn ogystal â gwahodd ysgolion a gwirfoddolwyr i gymryd rhan yn ein gwaith, yn aml mae YAG yn trefnu digwyddiadau cyhoeddus i gyd-fynd â phrosiectau. Mae'r rhain yn cynnwys arddangosfeydd, darlithoedd, gweithdai, ysgolion dydd, teithiau cerdded tywysedig a dyddiau agored. Yn aml mae'r Ymddiriedolaeth yn plethu digwyddiadau â rhaglenni cenedlaethol, gan elwa o'r cyhoeddusrwydd ychwanegol a gynhyrchir gan Open Doors neu'r Ŵyl Archaeoleg er enghraifft. Am wybodaeth ynglŷn â'n digwyddiadau ar y gweill, edrychwch ar ein tudalennau Newyddion a Digwyddiadau a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol. |
Sioeau HafBob blwyddyn mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cyhoeddus wedi'u trefnu gan sefydliadau eraill. Yn ystod yr haf, mae'r digwyddiadau yn cynnwys Sioe Amaethyddol Môn a Sioe Sir Feirionnydd, a'r Eisteddfod Genedlaethol pan gaiff ei chynnal yn ardal cylch gwaith YAG. Mae themâu i'r arddangosfeydd a'r gweithgareddau yn y sioeau hyn, sy'n adlewyrchu agweddau ar y tirlun hanesyddol lleol. Yn ogystal, mae YAG yn cymryd rhan yn niwrnod agored blynyddol Prosiect Bryn Celli Ddu, sy'n cael ei drefnu gan Cadw a Phrifysgol Canol Sir Gaerhirfryn. Bob blwyddyn mae YAG yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ffeiriau hanes a ffeiriau gyrfaoedd. Os ydych yn ein gweld mewn digwyddiad, cofiwch ddod draw am sgwrs!
Rhaglen Teithiau Cerdded Cyhoeddus BlynyddolBob blwyddyn mae YAG yn trefnu rhaglen o deithiau cerdded tywysedig ar y thema archaeoleg. Mae rhai teithiau cerdded yn plethu â phrosiectau y mae'r Ymddiriedolaeth ynghlwm â nhw, ac eraill yn deithiau cerdded ar wahân. O heicio yn y mynyddoedd am ddiwrnod cyfan i deithiau cerdded byrrach o amgylch safleoedd cloddio, fel rheol mae rhywbeth at ddant pawb ac yn gweddu i bob gallu. Mae ein teithiau cerdded cyhoeddus am ddim ond rhaid archebu eich lle - mae'r llefydd yn brin iawn, felly os welwch daith gerdded yr hoffech ymuno â hi, cofiwch gysylltu i hawlio'ch lle. Rydym yn hysbysebu ein rhaglenni cerdded ar ein tudalen Newyddion a Digwyddiadau a thrwy ein rhestrau postio a thudalennau cyfryngau cymdeithasol. Os hoffech wybod y diweddaraf am ein newyddion, digwyddiadau a gweithgareddau gwirfoddoli, gallwch ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol.
|
|