|
![]() |
Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd ym 1974 fel elusen addysgol gyda nod i wella addysg y cyhoedd mewn archeoleg. Mae hefyd yn Gwmni Cyfyngedig Cyhoeddus. Mae llywodraethu'r Ymddiriedolaeth trwy Fwrdd Ymddiriedolwyr sy'n penodi Pwyllgor Rheoli.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ceisio gwella dealltwriaeth, cadwraeth a hyrwyddo'r amgylchedd hanesyddol yng ngogledd orllewin Cymru. Wrth ddilyn yr amcanion hyn, mae'r Ymddiriedolaeth: • Yn ceisio hysbysu ac addysgu'r cyhoedd ehangach trwy gyhoeddi ei waith, trwy ddarlithoedd, cyfarfodydd, teithiau maes a thrwy ddehongli safleoedd archeolegol yn y tirlun; • Cynnal y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol ac yn sicrhau bod hyn ar gael i bawb; • Yn cynnig cyngor ar oblygiadau archeolegol cynigion datblygu i adrannau cynllunio awdurdodau unedol a datblygwyr preifat; • Yn cynnig cyngor ar reoli a chadw amgylchedd diwylliannol a hanesyddol Gwynedd i dirfeddianwyr, rheolwyr ac eraill; • Ymgymryd â rhaglenni gwaith i gofnodi, dehongli, gwarchod, darlunio a hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol Gwynedd.
|
|