English

Dyddiadur Cloddio Bryngaer Dinas Dinlle

Diwrnod 1

8 Gorffennaf 2022

Ac i ffwrdd â ni! Gwaith yn dechrau ar gyfer ein gwaith cloddio yn 2022 ym mryngaer arfordirol Dinas Dinlle.

Byddwn yn postio diweddariadau dyddiol fel y gallwch ddilyn y prosiect.

Fel y gallwch weld, rydym yn cloddio â pheiriannau, bydd hyn yn parhau nes i ni gyrraedd y geodecstil, gan nodi terfyn ein cloddiadau yn 2021. Yr wythnos nesaf, gyda chymorth rhai o'n gwirfoddolwyr, byddwn yn dechrau glanhau nodweddion archeolegol i baratoi ar gyfer ein gwaith cofnodi.

Mae'r rhaglen waith ar gyfer 2022 yn cynnwys cwblhau cloddio tŷ crwn cynhanesyddol neu o'r cyfnod Rhufeinig sydd wedi'i adeiladu o gerrig ac mewn cyflwr da, a ddechreuodd y cloddiadau hyn yn 2019/2021.

Mae'r tŷ crwn wedi'i leoli yn agos at ymyl arfordirol y gaer sy'n erydu, ac mae'r gwaith cloddio yn cael ei wneud cyn i'r ardal fynd yn anhygyrch ac i'r archeoleg gael ei dinistrio.

Ariennir y gwaith cloddio eleni gan Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phrosiect CHERISH. Mae'r fryngaer ar dir sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

 

Diwrnod 2

11 Gorffennaf 2022

Roedd yn wych croesawu ein gwirfoddolwyr i'r safle heddiw, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu hamser.

Rydym hefyd yn gweithio gyda nifer o fyfyrwyr o Brifysgol Bangor — mae'r project yn gyfle gwerthfawr i gael profiad gwaith maes archeolegol.

Mwy o wybodaeth gefndirol am y safle - mae'r fryngaer wedi'i lleoli ar ben bryn arfordirol amlwg tua 7.5km i'r de-orllewin o Gaernarfon. Mae'r bryn ei hun yn farian rhewlifol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar y safle. Addaswyd pen y bryn, yn fwyaf tebygol yn ystod Oes yr Haearn, i ffurfio caer wedi'i hamgylchynu gan ragfur mewnol enfawr, ffos ddofn ac ail ragfur allanol. Ar hyn o bryd mae ymyl orllewinol y gaer yn cynnwys clogwyn serth o gleiau rhewlifol, silt a cherrig sy'n sefyll uwchben y môr. Mae hyn yn cael ei erydu ar yr arfordir o ganlyniad i ddifrod storm o'r môr a dŵr yn rhedeg oddi ar y tir. Credir bod digwyddiadau tywydd garw, sy'n cynyddu o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, yn chwarae rhan fawr yn yr erydiad parhaus. Collwyd y rhagfuriau gorllewinol dros yr ychydig gannoedd o flynyddoedd diwethaf ac mae'r gaer yn erydu ar gyfradd o hyd at 0.4m y flwyddyn.

 

Diwrnod 3

12 Gorffennaf 2022

Yr wythnos hon rydym hefyd yn gweithio gydag ysgolion lleol. Ar ôl sesiwn GAT yn yr ystafell ddosbarth mae disgyblion yn ymuno â ni ar y safle am daith o amgylch y fryngaer cyn ein helpu i lanhau nodweddion archaeolegol.

Mae sesiwn atgoffa yn dilyn yr ymweliadau safle hyn.

Heddiw tro Ysgol Baladeulyn ac Ysgol Bro Llifon oedd hi i ymweld â ni ar y safle a'n helpu gyda'n gwaith cloddio.

 

Diwrnod 4

13 Gorffennaf 2022

Mae ein tŷ crwn yn cael ei ddatgelu'n raddol o'r tywod!

 

A heddiw tro Ysgol Dyffryn Nantlle oedd hi i ymweld â ni ar y safle a'n helpu gyda'n gwaith cloddio.


Diwrnod 5

14 Gorffennaf 2022

Mae'r tywydd yn hynod o braf heddiw!

Dyma fideo o'n tŷ crwn a rhai o'n gwirfoddolwyr:


Diwrnod 6

15 Gorffennaf 2022

Golff, unrhyw un?

Defnyddiwyd bryngaer Dinas Dinlle fel rhan o gwrs golff ar ddechrau'r 20fed ganrif, gyda phapurau newydd lleol yn adrodd bod y cwrs wedi agor ym mis Mehefin 1906. Mae'n debyg bod y cwrs wedi cau flwyddyn yn ddiweddarach oherwydd ei fod yn anghysbell, ond mae'n ymddangos ei fod wedi'i gymryd drosodd gan Westy Caernarvon Bay gerllaw (fflatiau gwyliau Y Wendon erbyn hyn) ac wedi parhau i gael ei ddefnyddio tan tua 1920.

Rydym wedi cynnwys cynllun o'r cwrs golff (a gynhyrchwyd gan brosiect CHERISH, 2018).

Gyda'i chysylltiadau llenyddol Cymraeg (mae'r safle'n ymddangos ym mhedwaredd gainc y Mabinogi), ei Harchaeoleg o'r Ail Ryfel Byd (gweler y pentyrrau ar ochr ogledd-ddwyreiniol y gaer) a'i statws fel SoDdGA (oherwydd natur unigryw gwaddod rhewlifol y bryn y mae'r gaer wedi'i hadeiladu arni), mae gan y safle lawer o hanes cyn i ni hyd yn oed gyrraedd yr Oes Haearn ac archaeoleg cyfnod y Rhufeiniaid!

 

Diwrnod 7

18 Gorffennaf 2022

Dewch draw i'n diwrnod agored, ddydd Sadwrn Gorffennaf 30ain. 10.00am – 4.00pm.

Cewch gyfle i fynd ar deithiau tywys o amgylch y safle a darganfod mwy am waith cloddio eleni. Mae am ddim ac nid oes angen archebu lle.

Parciwch ym maes parcio traeth Dinas Dinlle a cherddwch tuag at y fryngaer.

Bydd angen cadw pellter cymdeithasol.

Gwisgwch yn addas i'r tywydd!

 

 

Diwrnod 8

19 Gorffennaf 2022

Rydym yn parhau i gloddio ein tŷ crwn tu mewn i'r bryngaer.

Edrychwch ar wynebfaen y waliau - mae mewn cyflwr da iawn pan ystyriwch ei fod yn filoedd o flynyddoedd oed. Mae'n debyg ei fod wedi ei gadw mor dda oherwydd ei fod wedi'i gladdu mewn tywod cannoedd o flynyddoedd yn ôl. Mae'r lluniau hyn o'r wyneb mewnol yn hanner deheuol y tŷ crwn.

Mae'n dŷ crwn mawr - 13 metr ar draws, ac mewn mannau mae'r waliau'n 2.5 metr o drwch. Mae ei faint yn awgrymu bod rhywun o statws uchel wedi byw yno. Neu fe allai fod wedi'i ddefnyddio fel man cyfarfod, neu ofod cymunedol. Yn ôl pob tebyg, roedd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gwahanol dros amser.

Buom yn codi arsyllfeydd ar y safle er mwyn cynnig cysgod mawr ei angen wrth weithio!


Diwrnod 9

20 Gorffennaf 2022

Mae'n drist cyhoeddi y cafwyd peth fandaliaeth ar y safle dros y penwythnos, fel y sylwodd rhai ohonoch. Cafwyd ychydig o ddifrod tân i waliau'r tŷ crwn a gwydr wedi torri. Adroddwyd y digwyddiad i Tîm Troseddau Cefn GwladHeddlu Gogledd Cymru fel trosedd dreftadaeth.

Gan Cadw:

HENEB GOFRESTREDIG

Gwaherddir niwed neu ymyrraeth o dan Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979.

Os oes difrod yn digwydd, ffoniwch 999 a riportiwch ddigwyddiad o droseddau treftadaeth. Os yw difrod newydd wedi digwydd, ond nad yw'n digwydd yn weithredol, ffoniwch 101 a riportiwch yr un peth. Yn ogystal, anfonwch e-bost atom yn cadw@llyw.cymru gan nodi'ch e-bost “Trosedd Treftadaeth”.

Diolch

 

Diwrnod 10

21 Gorffennaf 2022

Beth am gael golwg ar y rhagfuriau fryngaer Dinas Dinlle.

Rhagfuriau yw banciau sy’n ffurfio terfynau amddiffynnol. Gellid defnyddio deunydd o ffosydd amddiffynnol i adeiladu'r rhagfuriau. Efallai bod y rhagfuriau wedi cynnwys strwythurau pren (a elwir yn balisadau) wedi’u hadeiladu ar eu pennau i’w gwneud yn uwch fyth ac yn fwy trawiadol.

Gweler fideo:

 

Diwrnod 11

22 Gorffennaf 2022

Yn y delwedd gyntaf isod (cloddiadau 2021) gallwch weld yn glir sut mae erydiad wedi cael effaith ar y fryngaer. Gallwch weld pam ein bod wedi gosod y ffosydd cloddio lle maen nhw - rydym eisiau cofnodi'r archaeoleg yn y rhan hon o'r gaer cyn iddi gael ei cholli i erydiad.

Mae arolygon gan Brosiect CHERISH yn cyfrifo bod rhwng ugain a deugain metr o'r ochr orllewinol wedi'i golli er 1900 . Gallai bryngaer Dinas Dinlle gael ei cholli yn gyfan gwbl o fewn 500 mlynedd.

Edrychwch ar y mapiau hefyd - gallwch weld yn glir bod rhannau o'r gaer wedi'u colli.

 

Diwrnod 12

25 Gorffennaf 2022

Dyma ddau ddarganfyddiad diddorol a ganfuwyd uwchben yr arwyneb o'r ail feddiannaeth yn y chwarter de orllewinol o'n tŷ crwn.

 

Y cyntaf yw llwy/tolltydd metel fferus yn wynebu i lawr, a'r ail, wel, rydym yn ansicr!

 

Diwrnod 13

26 Gorffennaf 2022

Gadewch i ni edrych yn fanylach ar adeiladu'r tŷ crwn.

Mae'r tŷ crwn yn gylchol yn y cynllun, gyda diamedr allanol o tua 13.6m, a diamedr mewnol o 8.6m. Mae'r waliau sylweddol, hyd at 2.69m o drwch ar yr ochr ddeheuol, wedi'u gwneud o gerrig sychion a meini mawr wedi'u his-grynnu sy'n ffurfio wyneb clawdd mewnol ac allanol. Defnyddiwyd clogfeini a cherrig crynion, cerrig wedi'u his-grynnu a meini mawr lledonglog llai o faint yn gyffredinol i adeiladu craidd y wal.

Mae'r cerrig ar wyneb y wal fewnol wedi goroesi hyd at uchder o 1.02m gyda hyd at dri chwrs i'w gweld mewn rhai llefydd. Roedd cerrig crynion llai, a rhai wedi'u his-grynnu, yn aml wedi'u mewnosod fel cerrig pacio i fylchau yng ngwaelod y wal rhwng ac o dan y cwrs isaf o gerrig sy'n wynebu'r tu mewn. Adeiladwyd yr wyneb clawdd allanol sydd wedi'i wneud o glogfeini llai na'r wyneb mewnol yn gyffredinol gyda dim ond un neu ddau gwrs yn amlwg.

Mae'n ymddangos bod yr wyneb clawdd allanol wedi'i adeiladu mewn cyfres o segmentau syth, tra bod yr wyneb clawdd mewnol mwy neu lai yn gylchol. Yn ogystal, mae'r waliau'n ffaglu ar ochr ddwyreiniol yr adeilad yn y fynedfa, ac mae'r ddeheuol yn 2.96m o drwch.

 

Diwrnod 14

27 Gorffennaf 2022

Daeth y darn o arian Rhufeinig hyfryd hwn allan o haen yr ail gyfnod o feddiannu yn rhan ogledd-ddwyreiniol y tý crwn heddiw! Cewch ragor o wybodaeth gennym amdano yn fuan iawn.

 

Diwrnod 15

28 Gorffennaf 2022

Mae darganfyddiadau diweddar yn cynnwys breuan, yn gorwedd ar yr ail gyfnod o feddiannu yn rhan de-orllewinol y tŷ crwn.

Hefyd, dyma'r olygfa ddiweddaraf o'r tŷ crwn (oddi ar ben y tomen pridd), yn wynebu’r de.


Diwrnod 16

29 Gorffennaf 2022

Sut i greu mynedfa fawreddog!

Efallai mai'r ‘datguddiad' mwyaf yn ystod y dyddiau diwethaf yw mynedfa anferthol y tŷ crwn.

Gadewch i ni geisio treiddio rhywfaint o hynny.

Gwyddom bellach fod gris i mewn i'r fynedfa, i lawr at yr haen o'r ail feddiannaeth, o bosibl wedyn ymlaen i haen y feddiannaeth gyntaf hefyd. O'n gwaith yn 2021, fe dybiom fod y fynedfa i'w gweld yn meinhau'n raddol am allan, ac eleni rydym hefyd wedi darganfod rhagfur dwy set, y tu allan i'r fynedfa, sy'n ymledu tuag allan. Mae'r elfennau hyn yn cyfuno i greu ‘profiad mynedfa' eithaf mawreddog. Mae wyneb coblog garw y tu allan i'r fynedfa hefyd yn cyfrannu at yr effaith.

Yn ogystal â'r cerrig sylweddol sy'n dal yn eu lle yn waliau'r fynedfa, mae rhagor o gerrig mawr wedi'u hadfer o bentyrrau'r fynedfa. Mae saer maen o Cadw ar fin dod allan i'r safle a gobeithio ein helpu i ganfod a yw'r cerrig, sydd wedi'u siapio'n arbennig, wedi'u gweithio â llaw neu'n naturiol.

Mae llechi yn rhan o lawr y fynedfa hefyd! A allai hyn fod yn ddefnydd o lechi yn y cyfnod Rhufeinig, neu ai mewnlenwad diweddarach ydyw? Mae'n ymddangos bod y llechen wedi'i selio gan ddyddodiad o bentyrrau yn cynnwys crochenwaith Rhufeinig.

Mwy ar y fynedfa yn fuan - mwy o wybodaeth yn dod yn amlwg bob dydd.


Diwrnod 17

30 Gorffennaf 2022

Diwrnod agored gwych dros y pythefnos!

Diolch i bawb a ddaeth draw, a diolch i bawb a fu'n helpu.


Diwrnod 18

Rydyn ni'n gwneud pethau ychydig yn wahanol ar gyfer y postiad heddiw.

Mae Barbara (Babs), un o'n gwirfoddolwyr, wedi cytuno'n garedig i adael i ni ei chyfweld am ei phrofiadau fel gwirfoddolwr gyda ni yn Ninas Dinlle. Diolch Babs!

(Cyfweliad yn Saesneg).

GAT : How's the project going for you?

Babs : It's going very well, meeting up with old friends again and revisiting this amazing site to see what else we can discover about its secrets. Enjoying peeling back more layers of history and uncovering artifacts that were last seen by human eyes almost two thousand years ago.

GAT : What are your reasons for wanting to come and volunteer with us at Dinas Dinlle this year?

Babs : The legendary Dinas Dinlle Roundhouse, I have just finished my third year at this site. I keep coming back (despite the big steep climb up the hill) because I want to see the results as we dig down further into its history. The story of the people who once lived there changes almost from one minute to the next. This dig made the headlines across all the media platforms last year when the whole layout of the massive walls was uncovered. This is such an important part of history, that we need to find out as much as possible about its construction, purpose and many phases of usage before it is lost to the sea. Along with many more areas of our coastline erosion is a major problem here.

GAT : Is this the first time volunteered with us?

Babs : No, I have been involved in many projects since joining GAT in 2019. My first outing was to clear the overgrown smithy at Pentre Berw, my walking stick came in very handy for hooking onto large bramble bushes and dragging them up into a position where they could be chopped off with the large secateurs.

My first ever dig was at Pen-y-Bryn recording the barracks where the quarry workers lived, this involved a lot of measuring and drawing of all the doorways, window recesses, lintels etc. We also had a lot of discussion about whether things had always been what they appear as today or if they had been modified at different stages of the building's existence. For example, was that window always a window or is it a partially closed doorway. I met Louise and Sarah on this dig, and we are now firm friends and often meet up to visit interesting places.

One of the most interesting sites was being allowed to excavate the area just below the Segontium Fort in Caernarfon. Hundreds of artifacts were found here, and this is where Louise and I began our “winter” job carefully cleaning and cataloguing all the pottery and other objects we and other people had found, the artifacts come to us from many different GAT sites.

We have also excavated a Neolithic Axe making site high up the mountain behind Llanfairfechan. This year will be our third visit to this site, it's nice to keep going back and uncovering more history.

GAT : How did you first hear about Gwynedd Archaeological Trust?

Babs: Having been an avid watcher of Time Team for some twenty years I had decided that this was going to become my hobby when I retired. I found out about GAT from a lady who volunteered with the Anglesey Archaeology people. I kept a note of the information and the year after I finally managed to retire, I replied to an article I found asking for volunteers at Pentre Berw, I made contact and turned up. I was made to feel so welcome, despite my disability, that I stayed. I can honestly say it was one of the best decisions I ever made. All the volunteers and staff at GAT have been amazing, making sure that I can get me, my kneeling stool and other equipment on site safely.

 

Diwrnod 19

Dyma luniau gwych o'r awyr o'n cloddiadau ym mryngaer Dinas Dinlle, diolch i Toby Driver a phrosiect CHERISH.


Diwrnod 20

4 Awst 2022

Wel, rydym wedi darganfod rhywbeth diddorol iawn ynghylch waliau ein tŷ crwn.

Dydyn nhw ddim wedi eu gwneud yn gyfan gwbl o garreg!

Mae’n ymddangos bod adeiladwyr y tŷ crwn wedi cloddio twll crwn rhannol (sef, y tu mewn i’r tŷ crwn) i lawr at y pridd naturiol, yna wedi gosod cerrig y wyneb mewnol o amgylch y twll hwn, gan eu lletemu yn eu lle. Yna, rhoddwyd rhywfaint o’r deunydd o’r tu mewn y tu ôl i’r cerrig hyn i helpu i gynnal y wyneb mewnol.

Yna, ychwanegwyd cerrig y wyneb allanol, ar wyneb y tir cyfoes. Defnyddiwyd gweddill y deunydd o’r tu mewn i lenwi’r lle gwag rhwng y ddau wyneb, a gosodwyd haen o gerrig ar eu pennau i orffen.

Yn y bôn, yr hyn sydd gennym yma yw gwrthglawdd o bridd ag wynebau carreg.


Diwrnod 21

5 Awst 2022

Ein diwrnod olaf ym mryngaer Dinas Dinlle.

Diolch i'n holl staff, ein gwirfoddolwyr anhygoel a myfyrwyr prifysgol Bangor, yr holl ddisgyblion ysgol a'n helpodd gyda'n gwaith, Rhys Mwyn, Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, prosiect CHERISH, y BBC, Daily Post, Current Archaeology ac aelodau'r cyhoedd sydd wedi dangos diddordeb yn ein gwaith yma.

Diolch hefyd i’r ffermwr tenant.

Gwych.


 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol

GAT

 

Gwynedd Archaeological Trust is certified to ISO 9001:2015 and ISO 14001:2015

To view a copy of the ISO 9001:2015 certificate, please click here.
To view a copy of the ISO 14001:2015 certificate, please click here.