Archaeoleg ym Mharc Cybi,
|
Rhwng 2006 a 2008, a 2009 a 2010, cynhaliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd waith cloddio archaeolegol cyn i Lywodraeth Cymru gynnal gwaith datblygu sylweddol ar safle o'r enw Parc Cybi yng Nghaergybi. Archwiliwyd dros 20 hectar i ddatgelu tirwedd archaeolegol. Yr uchafbwyntiau oedd olion neuadd bren Neolithig 6000 mlwydd oed a phentref o'r Oes Haearn, ond roedd nifer fawr o nodweddion eraill hynod ddiddorol hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu dadansoddiad llawn o'r data ac mae gwaith ar y gweill i greu cyhoeddiadau terfynol ynghylch y safle pwysig hwn. Mae'r tudalennau gwe hyn yn darparu porth tuag at wybodaeth ynghylch y safle a digwyddiadau cysylltiedig. |
![]() |