Ysgol yr Hendre, Llanbeblig, Caernarfon Mynwent ganoloesol gynnar a gwersyll adeiladu Rhufeinig |
Poptai Pydew Rhufeinig a Gwersyll Adeiladu posibl ar gyfer Caer Segontium Wedi’u gwasgaru ar hyd y safle, yn y fynwent ddiweddarach a thu hwnt, roedd yna ddeunaw o nodweddion yn ymylu ar fod yn siap ffigur wyth a ffurfiwyd o ddau bydew wedi’u huno. Ym mhob achos roedd yna briddoedd oren-goch o ganlyniad i wres ar waelod ac ochrau un o’r pydewau oedd yn amlwg wedi cynnal tân, tra bod yna brinder olion llosgi’n gyffredinol yn y llall, er gwaethaf presenoldeb golosg. Roedd yr holl nodweddion hyn yn amrywio mewn hyd o 2.98m i 1.4m, mewn lled o 2.0m i 0.65m ac mewn dyfnder o 0.58m i 0.12m. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod yna do o dywyrch ar y pydewau oedd o bosibl wedi cael eu cynnal gan ganghennau, oedd yn creu gofod caeëdig y gellid ei ddefnyddio i goginio. Defnyddiwyd y pydew arall i gribinio gweddillion y tân.
Mae'r nodweddion wedi cael eu dehongli fel poptai. Mewn poptai clai neu bydew, mae'n arferol tynnu'r lludw allan o'r popty wedi iddo gyrraedd ei dymheredd, rhoi'r bwyd ynddo, selio'r popty a'i adael i goginio. Ni ddyluniwyd y popty hwn ar gyfer defnydd yn y tymor hir, ac o ystyried swm y golosg yn y pydew cribinio a gwres y tân yn y poptai, awgrymir mai ychydig iawn o ddefnydd gafodd bob popty. Gwahanwyd y rhan fwyaf o'r poptai 15-20m oddi wrth ei gilydd, er bod rhai wedi cael eu paru, ac eraill mewn llinell fras, ond nid oedd llawer o batrwm ystyrlon i'w dosbarthiad. Roedd yr ychydig ddarganfyddiadau o'r nodweddion hyn yn cynnwys hoelen wedi rhydu, darnau bychain o asgwrn wedi'i losgi, ychydig iawn o naddion fflint, ac un darn o grochenwaith sgrafellog. Mae'n anodd gwneud diagnosis o'r darn
olaf hwn, ond gellir dweud bron yn bendant mai darn bychan o grochenwaith Rhufeinig ydyw. Nid oedd hi'n ymddangos
bod yr un o'r darganfyddiadau'n uniongychol gysylltiedig â defnyddio'r poptai. Mae dadansoddi'r golosg wedi dangos
mai derw a ddefnyddiwyd yn bennaf fel tanwydd yn y poptai, ac ychydig y gollen, onnen neu boplysen. Defnyddiwyd llwyfen
hefyd yn chlysurol. Darganfuwyd ychydig o rawnfwyd rhuddedig yn cynnwys gwenith, haidd a cheirch, ond dim llawer ohono, ac mae'n bosibl y defnyddiwyd y grawn gyda gwellt i gynnau'r tân. Oherwydd prinder y darganfyddiadau roedd hi'n anodd dyddio'r poptai, felly defnyddiwyd ddyddio radiocarbon ar danwydd rhuddedig a grawnfwyd o saith o'r poptai. Mae dadansoddi ystadegol y canlyniadau'n awgrymu y defnyddiwyd y poptai rhwng cal OC 25-80 a cal OC 60-120, am gyfnod nad oedd yn fwy na 80 mlynedd ac mae'n debyg am 1-30 o flynyddoedd yn unig. Mae'r dyddiadau mewn gwirionedd yn gyson â'r holl boptai'n cael eu defnyddio ar yr un adeg, a gwall ystadegol y dyddiadau sy'n rhoi'r ystod bosibl. Mae natur fregus y poptai yn awgrymu y defnyddiwyd pob un am gyfnod byr yn unig, a gall eu dosbarthiad ar y safle fod yn gyson â grwpiau bychain o bobl yn eu defnyddio o gwmpas yr un adeg.
Er nad yw'n bosibl profi'n bendant bod yr holl boptai wedi cael eu defnyddio ar yr un adeg, mae'n werth archwilio'r ddamcaniaeth ac edrych eto ar y dadansoddi ystadegol. Drwy gyfuno'r holl ddyddiadau, gellir sefydlu gwell amcan o ran defnydd sy'n rhoi'r cyfnod cal OC 65-80 i ni: ystod digon mawnl i allu ei chymharu â digwyddiadau hanesyddol. Awgrymwyd gan gloddwyr caer Rufeinig Segontium, gan ddefnyddio tystiolaeth hanesyddol a thystiolaeth crochenwaith ac arian, bod y safle yn un ‘Agricolaidd ac yn dyddio'n ôl i OC 77 neu’n fuan wedi hynny’ (Casey a Davies, 1993,10). Mae’r awdur Rhufeinig Tacitus yn dweud wrthym bod Iuluis Agricola, oedd yn llywodraethwr rhwng OC 77 ac OC 83, wedi tawelu’r llwyth lleol, a alwai’n Ordoficiaid, ac wedi mynd ymlaen i ymosod ar Ynys Môn. Mae'r syniad y gallai'r rhain fod yn boptai maes milwrol Rhufeinig yn cael ei gefnogi gan ddarganfyddiad nifer o boptai tebyg mewn gwersyll gorymdeithio Rhufeinig yn Kintore yn Swydd Aberdeen. Yno awgrymwyd fod y poptai'n cynrychioli lleoliad pebyll contubernia (grwpiau o 8 dyn) unigol a byddai'r dehongliad yma'n gyson â dosbarthiad y poptai yn Ysgol yr Hendre ble mae'r amcan ddyddiad yn amgrymu y'u defnyddiwyd pan godwyd y gaer yn Segontium. Felly, efallai bod hwn yn safle gwersyll y milwyr oedd yn adeiladu'r gaer. Nid yw ei leoliad, rhyw 300m o'r gaer, ddim yn broblem, gan fod gwersylloedd adeiladu hysbys eraill yn bellach oddi wrth eu caearau, ond byddid yn disgwyl gweld ffos amddiffynnol o gwmpas y gwersyll, ac ni chanfuwyd un yn ystod y cloddiad. Fodd bynnag, mewn man arall ym Mhrydain ceir tystiolaeth nad oedd ffosydd yn perthyn i bob gwersyll dros dro. Gallai defnyddio tribuli , amddiffynfeydd a adeiladwyd o stanciau wedi'u rhwymo at ei gilydd, neu ddyfais debyg, fod wedi darparu amddiffynfa ddigonol heb yr angen am ffosydd.
|