Ysgol yr Hendre, Llanbeblig, Caernarfon Mynwent ganoloesol gynnar a gwersyll adeiladu Rhufeinig |
Canlyniadau'r Cloddiad Bu i gloddiad llawn ddatguddio cyfres gymhleth o nodweddion, a'r cynharaf o ran dyddiad oedd pydew Neolithig oedd
yn cynnwys cerrig wedi'u llosgi a naddion fflint. Er ei bob hi'n anodd ail-greu hanes llawn y safle o'r cyfnod hwn
ymlaen, mae'n debyg mai defnydd amaethyddol fu iddo yn y cyfnod cynhanesyddol hwyr pryd y'i dewiswyd yn y ganrif
1af OC gan filwyr Rhufeinig fel safle addas i adeiladu cyfres o boptai dros dro. Yn dilyn hyn, yn ystod cyfnod pan
oedd Segontium ym meddiant y Rhufeiniaid, mae'n ymddangos bod yr ardal wedi cael ei defnyddio eto at bwrpas amaethyddol.
Rhyw dro ar ôl i'r milwyr Rhufeinig adael yn 393 OC defnyddiwyd y safle fel mynwent. Darganfuwyd pum bedd caeëdig
a mwy na 40 o feddau anghaeëdig. Mae'r fynwent yn fwy na thebyg yn dyddio'n ôl i'r 5ed i'r 7fed ganrif OC. Unwaith
eto defnyddiwyd y safle at ddefnydd amaethyddol, ac mae sychwr yŷd sy'n dyddio'n ôl i'r 11eg i'r 12fed ganrif yn
cadarnhau bod yŷd yn cael ei dyfu yma. Yn y 19eg ganrif sefydlwyd fferm fechan yma, ac yn ddiweddarach codwyd tyŷ
gwydr ar ran o'r safle.
|