|
|||||
Blog Hedd yr Ynys gan Jane Kenney Gorffennaf
2016 |
|||||
Diwrnod 1 - 30 Mehefin 2016 Er nad yw'r gwirfoddolwyr yn cyrraedd tan Ddydd Llun mae'r gwaith wedi dechrau wrth i ni baratoi'r safle ar gyfer y gwaith cloddio. Cafodd y cae ei droi yn y gorffennol felly does dim disgwyl i unrhyw olion archaeolegol fod wedi goroesi yn y pridd uchaf ac o ganlyniad rydym wedi defnyddio peiriant i symud y pridd a'r tyweirch.
Yn ystod y gwaith yma bu Cliff ‘Beaver' Hughes a Ian Harrison-Brown yn archwilio'r pridd gyda synhwyrydd metal a chofnodwyd yn union lle cafwyd unrhyw wrthrych. Ymhlith y gwrthrychau roedd nifer o hoelion, llawer o ddarnau o haearn a hefyd darnau arian Fictoraidd, un pisyn dime Americanaidd, pwysau plwm a gwrthrych diddorol iawn o efedd sydd heb ei adnabod eto.
Er hyn, roedd darganfyddiadau eraill hyd yn oed fwy diddorol. Cafwyd hyd i un darn gwael ei olwg o lestr pridd Rhufeinig a chrafwr callestr cyn-hanesyddol sydd yn awgrymu fod gweithgaredd yma yn y cyfnodau Rhufeinig a chyn-Hanesyddol. Mae hyn ôll yn addawol iawn. Fe rof luniau ar y Blog o'r gwrthrychau yn fuan. |
|||||
Gorffennaf 4dd Dyma ddiwrnod cyntaf y cloddio gyda gwirfoddolowyr ar y safle. Rhaid oedd gwneud y gwaith papur gyntaf, egluro am iechyd a diogelch a chefndir y safle cyn i'r gwirfoddolwyr ddechrau gweithio go iawn. Roedd dipyn o waith glanhau'r safle gyda tryweli ond buan iawn dechreuodd nodweddion ymddangos yn y pridd. Fory cawn olwg manylach ar rai o'r ffosydd a rhai o'r clystyrau o gerrig a all fod o ddiddordeb. Dyma ambell lun o'r gwrthrychau rydym wedi eu cael hyd yma. Lluniau sydun yw rhain o'r gwrthrychau heb eu glanhau ond cawn awgrym or hyn sydd ar y safle. Daeth y gwrthrychau o'r pridd uchaf a chafwyd hyd iddynt drwy ddefnydd o'r synhwyrydd metal ond y gobaith nawr yw y cawn fwy o wrthrychau wrth ddechrau cloddio'r nodweddion. Awgrymir y gwrthrychau fod defnydd o'r safle yn y cyfnod Rhufeinig. |
|||||
Gorffennaf 5ed Pawb yn brysur cloddio. Does neb yn gwybod beth sydd yma eto ond mae'n edrych yn ofnadwy o ddiddorol. |
|||||
Gorffennaf 8fed Rydym ar ddiwedd yr wythnos gyntaf a mae'r tywydd wedi bod yn ffafriol. Doedd rhagolygon Dydd Iau ddim cyn waethed a'r disgwyl ac o ganlyniad i'r tamprwydd mae'n haws trywelu'r pridd. Erbyn hyn mae sawl ffos wedi ei osod ar draws gwahanol nodweddion a bu nifer wrthi yn tynnu lluniau er mwyn cofnodi'r nodweddion. Rydym bellach wedi darganfod ffos y lloc petryal a welir yn yr arolwg geoffisegol. Cafwyd hyd i wrthrych o garreg gyda ochr miniog fel pyramid yn y ffos: beth oedd ei bwrpas? Cafodd pydew sylweddol a dwfn ei gloddio. Roedd y pydew wedi llenwi a cherrig a'r ddamcaniaeth ar hyn o bryd yw mai twll postyn yw hwn wedi llenwi a cherrig ar ôl o'r postyn gael ei symud. Os felly, fe ddylid cael hyd i fwy o dyllau pyst er mwyn gweld cynllun adeilad. Awgrymir maint y twll fod hwn yn perthyn i adeilad sylweddol. Mae angen mwy o waith er mwyn draganfod tyllau pyst eraill Cafwyd hyd i ddarn arian Rhufeinig wedi glynu i fwd ar waelod esgid un o'r gwirfoddolwyr a charreg a all fod yn ddarn o garreg hogi gan ei fod yn garreg mor llyfn ger un o'r ffosydd.
|
|||||
Gorffennaf 15 Dyma ddiwedd y cyfnod cloddio gyda gwirfoddolwyr. Dros y bythefnos rydym wedi cael nifer dda o wirfoddolwyr ac yn amlwg roeddynt wedi mwynhau y profiad. Cafwyd tywydd amrywiol gyda Dydd Iau yn ddiwrnod poeth iawn a Dydd Gwener wedyn yn ddiwrnod gwlyb. Gan mai clai yw'r pridd naturiol yma mae'r broses o drywelu yn anoddach wrth i'r pridd sychu a chaledu ond pan yn wlyb mae'n mynd yn fwdlyd dros ben ac y mwd yn mynd i bobman, gan gynnwys dros y gwirfoddolwyr. Er gwaethed y tywydd parhaodd pawb i weithio gyda gwen. Gan fod cymaint o ffosydd a nodweddion ar y safle, nid hawdd yw dadansoddi'r hyn rydym yn ei weld ac yn enwedig perthynas y gwahanol nodweddion a'u gilydd. Ymdebygai'r nodweddion yng nghornel gogledd-orllewinol y safle i olion anheddiad. Bydd cynllun o'r safle yn cael ei uwchlwytho yn fuan. Edrychwn ymlaen at y Diwrnod Agored Ddydd Sul. Gyda 128 wedi rhoi eu henwau yn barod mae'r teithiau tywys bron wedi eu llenwi.
|
|||||
Gorffennaf 18 Cafwyd Diwrnod Agored hynod lwyddiannus gyda dros 150 yn ymweld a'r safle. Gyda'r tywydd yn braf roedd yr ymwelwyr wedi mwynhau a rhwng y teithiau tywys roedd ein pabell gyda'r gwrthrychau yn orlawn. Dros y ffordd roedd y caffi dros dro gan Julia Morgan yn cynnig paneidiau a chacan i'r ymwelwyr. Codwyd dros £600 ar gyfer elusen ‘Digartref', elusen sydd yn codi arian ar gyfer y di-gartref yn lleol, drwy redeg y caffi am y prynhawn. Mae diolch mawr i staff GAT am sicrhau diwrnod mor lwyddiannus: Dave, Nina, Bethan, Rob a Rhys Mwyn am y teithiau cyfrwng Cymraeg. Gwerthfawrogwyd ymdrechion Julia a'i chyfeillion gyda'r paneidiau a chacennau.
|
|||||
Gorffennaf 22ain Ar ôl wythnos brysur yn cofnodi, tynnu lluniau a chreu cynlluniau o'r nodweddion, mae'r gwaith ar y safle nawr drosodd. Roedd Dydd Mawrth mor poeth roeddwn yn poeni am y gwirfoddolwyr ond bu i bawb oroesi'r diwrnod. Bu mi a Dave wrthi tan yr hwyr nos Iau yn llenwi ffurflenni cyd-destyn a daeth Alan Roberts o DTM draw hefo sganiwr laser er mwyn cael cofnod olaf o'r nodweddion ar y safle.
|
|||||
Gorffennaf 25ain Bu 56 o wirfoddolwyr hefo ni ar wahanol gyfnodau dros y dair wythnos a hoffwn ddiolch o waelod calon am eu holl ymdrechion. Cyflawnwyd gwyrthiau mewn cyfnod byr. Mae diolch arbennig i Wyn a Julia Morgan am eu holl gymorth ac am ganiatau i ni gloddio. Felly beth gafwyd ar y safle? Mae cynllun o'r safle yn dangos nifer o ffosydd gan gynnwys y ffos lloc hirsgwar a welwyd ar yr arolwg geoffisegol. Yn wahanol i'r disgwyl ni chafwyd unrhyw awgrym o fynwent ar y safle, ac yn sicr dim olion beddau. Cafwyd un ffos sydd yn rhedeg ar linell fymryn yn afreolaidd ar draws y safle o'r dwyrain tua'r gorllewin gyda phroffil siap llythyren V sydd yn awgrymog o ffos amdiffynnol Oes yr Haearn. O edrych yn fwy manwl ar yr arolwg geoffisegol gwelir fod y ffos yma yn ymuno a ffos sylweddol tu allan i'r ardal cloddio. Gwelwn wagle yn y ffos honno gyda dau blob du ar naill ochr, sydd yn awgrymu mynedfa drawiadol gyda thyllau pyst sylweddol. Fe all fod y ffosydd yma yn rhan o loc yn dyddio o Oes yr Haearn a mewn defnydd yn y cyfnod Rhufeinig, fel yr awgrymir gan y gwrthrychau rydym wedi eu darganfod ar y safle. Mae draen gyda cerrig capan, cerrig llawr, rhigolau bach syth a phydew yn awgrym o breswylio o fewn y lloc bosib. Gan na chafwyd gwrthrychau y gellir eu dyddio yn y nodweddion penodol yma wrth gloddio, anodd yw profi fod hwn yn aneddiad o'r cyfnod Oes yr Haearn / Rhufeinig ond mae hyn yn bosibilrwydd cryf. Fe all fod rhai o'r ffosydd ar gyfer llociau bychain neu gorlannau. Cafwyd tri pydew o faint sylweddol yn rhan ogleddol y cloddiad. Ymddengys fod rhain o gyfnod hwyrach na'r aneddiad bosib ond ansicr yw eu pwrpas hyd yma. Fe all fod y pydewau yn dyddio o'r 16ed neu 17ed ganrif gan i ddarnau o lestri pridd o'r cyfnod yna ddod i'r amlwg yn rhan uchaf y pydewau. Mae mwy o waith i'w wneud nawr o ran astudio'r gwrthrychau, y samplau pridd ac edrych yn fanylach ar yr holl gynlluniau o'r safle. Siawns bydd hyn yn help i esbonio beth oedd yn digwydd yma. Fe fydd adroddiad rhagarweiniol yn barod erbyn ddiwedd Mwrth 2017 a bydd hwn ar gael ar ein safle we. Bydd adroddiad llawn yn dilyn adroddiadau am y gwrthrychau a'r samplau.
|
|||||
Canlyniadau Terfynol – Rhagfyr 2018 Wedi astudio'r darganfyddiadau, archwilio cofnodion y safle'n fanwl, a sicrhau dyddiadau radio-carbon, mae gennym bellach syniad gwell o'r hyn gafwyd yn ystod y cloddiad.
Mae'n amlwg nad oedd mynwent ar y safle. Dangosodd dyddiadau radio-carbon o'r draen â chap, yr ystyriwyd yn wreiddiol fel rhan o d ŷ crwn, ei bod mewn gwirionedd yn dyddio o'r 16eg neu'r 17eg ganrif OC. Perodd hyn ail-ddehongliad o'r clostiroedd ffos, a chredir bellach mai padogau neu ydlannau bychain ydynt, a'u bod dim h ŷ n na 400 mlwydd oed. Ymddengys fod cloddio'r pydewau mawr wedi digwydd yn ystod y 17eg neu'r 18fed ganrif, a gellir adnabod rhai o'r nodweddion gyda chlawdd derfyn ar fap ystâd sy'n dyddio o oddeutu 1800. Ond blaswyd syndod pleserus wedi i'r dyddio radio-carbon ddangos fod clwtyn o sylwedd llosgedig yn dyddio o'r 6ed neu'r 7fed ganrif OC, h.y. o'r cyfnod canoloesol cynnar (Yr Oesau Tywyll). Roedd y sylwedd hwn yn cynnwys gronynnau grawnfwyd golosgedig, sydd mae'n debyg yn cynrychioli gwastraff gweithgaredd cartref. Gerllaw, roedd carreg wedi ei gosod mewn llecyn o glai goleuliw. Ymddengys i'r garreg hon gael ei defnyddio fel carreg bobi, ac mae'n bosib fod y clai yn cynrychioli safle adeilad bychan sydd hefyd efallai'n dyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar.
I dderbyn manylion y canlyniadau, lawrlwythwch unai Grynodeb o'r Adroddiad neu Adroddiad Llawn y Cloddiad. (Ar gael yn gynnar yn 2018).
|