|
![]() |
Cofnodi Mynwentydd, Ymweliad â Chastell Caernarfon, Dydd Sadwrn Ionawr 11eg Fel rhan o'n prosiect pobl ifanc, ‘Archaeolegwyr Anturus Eryri', cynhaliwyd y cyntaf o'n sesiynau Cofnodi Mynwentydd yn Eglwys St Baglan, Llanfaglan dydd Sadwrn Ionawr 11eg . Dyma weithgaredd roedd y bobl ifanc eu hunain wedi mynegi eu hawydd i flasu tra'n cynllunio'r rhaglen weithgareddau yn ystod penwythnos i lansio'r prosiect a gynhaliwyd yn yr hydref. Dydd Sadwrn, roedd y tywydd yn garedig a gweithiodd y bobl ifanc yn ddiwyd. Ymunodd aelodau'r cyhoedd yn ogystal ag aelodau'r Gymdeithas Hanes leol yn y weithgaredd. Yna i ffwrdd â ni am Gastell Caernarfon ar gyfer taith dywysedig dan arweiniad un arall o'r bobl ifanc. Rydym yn bwriadu cynnal ymweliad arall â'r eglwys/ mynwent ar Chwefror 11eg
Graveyard Recording, Visit to Caernarfon Castle , Saturday 11th January As part of our young people's project, ‘Archaeolegwyr Anturus Eryri', we began our Graveyard Recording sessions at St Baglan's Church, Llanfaglan, on Saurday 11th January. Graveyard Recording was something the young people suggested they would like to try, when they planned the programme of activities during the project's launch weekend in the autumn. The weather was with us and the young people worked diligently. Members of the public as well members of the local Historical Society also joined in the activity. Then it was off to Caernarfon Castle for a guided tour, led by another of the young people. We are planning another visit to the church / graveyard on February 11th.
|
||||||||