G2015 Asesiad Mynydd ParysAdroddiad cryno Ebrill 2012 – Mawrth 2013
Cefndir Yng ngaeaf 2012/13 ailarchwiliwyd Mynydd Parys er mwyn ychwanegu at y cronfa ddata'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH), yn seiliedig ar arolwg gwreiddiol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn 1998, dan arweiniad D.Gwyn (prosiect GAT G1469, Adroddiad 292). Gobeithir y bydd hyn yn ffurfio rhan gyntaf cynllun Rheolaeth Cadwriaethol ddiwygiedig o'r mynydd. Roedd angen cynnal gwaith maes newydd, a disgrifiadau testun wedi'u hadolygu a'u diweddaru, cyfeirnodau grid wedi'u diweddaru gan ddefnyddio GPS, a lluniau newydd. Canlyniad hyn fyddai basdata diwygiedig i'w gyflwyno o fewn y CAH. Dulliau Trosglwyddwyd data'r arolwg gwreiddiol i cronfa ddata cydnaws â CAH a diweddarwyd a diwygiwyd enwau caeau yn ôl yr angen. Ymgynghorwyd ag arolygon ac adroddiadau diweddarach ac ychwanegwyd safleoedd at y gronfa ddata. Ailymwelwyd â phob safle a thynnu lluniau (lle roedd modd eu lleoli) ac ychwanegwyd safleoedd newydd at y gronfa ddata. Darganfuwyd y safleoedd trwy ddefnyddio Trimble GPS lle gellid derbyn signal, neu gyfuniad o GPS yn y llaw a lluniau o'r awyr lle nad oedd modd derbyn signal ar y Trimble. Diweddarwyd y gronfa ddata a chwblhawyd gronfa ddata ffotograffig. Argraffwyd mynegeion ac adroddiadau manwl i PDF ar gyfer y safle a gronfa data ffotograffig.
|