Rhestru Amgylcheddau Meysydd Awyr Milwrol a Gwella Rhestru (G2180) Adroddiad cryno Ebrill 2012 – Mawrth 2013
Mae'r prosiect amgylcheddau meysydd awyr milwrol yn cynnwys astudio amddiffynfeydd y meysydd hynny, yn dyddio'n gyntaf i'r Ail Ryfel Byd . Amddiffynfeydd yw rhai o'r agweddau a ddeallwn leiaf amdanynt wrth astudio meysydd awyr. Ychydig iawn o wybodaeth a gasglwyd cyn hyn ynglŷn ag amddiffyn meysydd awyr er bod digonedd o wybodaeth ddogfennol mewn storfeydd swyddogol. Fel dilyniant i'r prosiect Meysydd Awyr 2011-12 gweithredwyd prosiect amddiffynfeydd meysydd awyr i adnabod elfennau mwyaf arwyddocaol yr amddiffynfeydd hyn. Ynghyd â chymeradwyo safle posibl i'w ddynodi'n statudol, sicrhaodd y prosiect hefyd bod y safleoedd wedi'u hymgorffori i'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol er mwyn hwyluso cadwraeth trwy reoli datblygu a darparu cyngor rheoli treftadaeth. Ym Mai 1940, wynebodd Prydain bosibilrwydd ymosodiad ar y tir gan yr Almaen a'r ymateb i hyn oedd creu ‘llinellau atal' i weithredu fel llinellau amddiffynnol gosodedig. Fodd bynnag, rhoddwyd lefel uwch o amddiffynfeydd i feysydd awyr er mwyn wynebu her parafilwyr yn cael eu gollwng i mewn i Brydain y tu ôl i'r llinellau atal a chynlluniwyd yr amddiffynfeydd yn ynysig tan i gymorth fedru cyrraedd. Roedd y rhain yn cynnwys blychau pils o fewn a thu hwnt i amddiffynfeydd ffiniol, wedi'u cydlynu o gysgodfan galed, pencadlys brwydr y maes awyr. Cynhwysai amddiffyn maes awyr nifer o elfennau, gan gynnwys lleoliadau amddiffyn reiffl o fewn y meysydd awyr, pyllau gynnau, lleoliadau spigot mortar a ddefnyddiwyd gan yr Home Guard. Canfuwyd tystiolaeth am y rhain yng Nghymru. Pan leihaodd bygythiad goresgyniad yn 1941, rhoddwyd pwyslais yn hytrach ar amddiffyn cyffredinol a blaenoriaeth i sefydlu lleoliadau wedi'u hamddiffyn i warchod elfennau allweddol y maes awyr. Nododd y prosiect safleoedd trwy ymchwil archif, cartograffig, dogfennol a lluniau o'r awyr. Roedd hyn yn cynnwys archwiliad o gynlluniau'r Weinyddiaeth Awyr yn Kew', cynlluniau ym meddiant Amgueddfa'r Awyrlu yn Hendon, ac archifau ym meddiant yr archifau cenedlaethol yn Kew. Dewiswyd ardal o 1 cilomedr y tu hwnt i faes technegol pob maes awyr i'w astudio, a threfnwyd ymweliadau safle â'r safleoedd hynny a ystyrid yn addas ar gyfer dynodiad statudol. Roedd y rhain yn cynnwys RAF Llandwrog, RAF Morfa Town, RAF Hells Mouth ac RAF Llanbedr. Cydnabuwyd cyfanswm o 96 o amgylcheddau maes awyr a chofnodwyd y rhain ar gronfa ddata. Cydnabuwyd saith safle fel rhai posibl i'w dynodi.
|