Arddangosfa Dathlu Archaeoleg (G2273)Adroddiad cryno Ebrill 2012 – Mawrth 2013
Sefydlodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd mewn partneriaeth ag Oriel Ynys Môn arddangosfa ‘Dathlu Archaeoleg Môn'. Dilynodd arddangosfa Llyn Cerrig Bach a drefnwyd gan yr Oriel ar y cyd ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Dangosodd yr arddangosfa'r casgliad o ddarganfyddiadau o'r cloddiadau diweddar yn Nhai Cochion er mwyn adlewyrch prosesau archaeolegol modern. Dilynodd yr arddangosfa broses darganfod archaeolegol, asesu, cloddio a chyhoeddi, seiliwyd llif y broses ar brosiect Tai Cochion , gan gymryd y broses o'r darganfyddiad gwreiddiol o adrodd am y darganfyddiadau trwy PAS, trwy asesu a gwerthuso, cloddio a chyfnodau wedi cloddio/cyhoeddi. Bwriad y prosiect oedd codi ymwybyddiaeth o archaeoleg a'i natur fregus ac i esbonio'r broses o ddarganfod ac archwilio safleoedd. Cafodd yr Ymddiriedolaeth gymorth i baratoi'r arddangosfa gan Robert Williams a Philip Steele, sy'n gweithio'n agos gyda'r Oriel yn paratoi'u harddangosfeydd a'u cyhoeddiadau. Cyhoeddwyd llyfryn i gydredeg â'r arddangosfa. Agorwyd yr arddangosfa gan Dr Kate Roberts (Cadw) ar 17 Tachwedd a pharhaodd tan Chwefror 2013.
Lawrlwythwch y llyfryn sy'n cyd-fynd a'r arddangosfa, 'Llwybrau i Ddarganfyddiad'
|